Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cost triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru yn cynyddu o 1 Ebrill 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma'r cynnydd cyntaf mewn ffioedd deintyddol ers mis Ebrill 2020 ac ar y cyfan maent yn parhau i fod yn is nag yn Lloegr. Bydd unrhyw refeniw a gynhyrchir o'r ffioedd uwch hyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i wasanaethau deintyddol y GIG.

O fis Ebrill 2024, bydd y tair ffi safonol yn cynyddu i rhwng £20.00 a £260.00 yn dibynnu ar y math o driniaeth sydd ei hangen a bydd cost triniaeth frys yn cynyddu i £30.00.

Ar hyn o bryd mae tua 50% o bobl yn cael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim yng Nghymru. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael triniaeth am ddim yn cynnwys plant o dan 18 oed neu'r rhai sy'n 18 oed ac mewn addysg llawn amser, menywod beichiog neu'r rhai sydd wedi cael babi o fewn 12 mis i ddechrau'r driniaeth, unrhyw un sy'n cael triniaeth ddeintyddol mewn ysbyty a phobl ar rai budd-daliadau penodol.

Yn ogystal, mae'r cynllun incwm isel yn cynnig cymorth llawn, neu gymorth rhannol, gyda chostau iechyd, yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn.

Er gwaethaf y pwysau ar gyllidebau, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r buddsoddiad ar gyfer deintyddiaeth, gan roi £27 miliwn yn fwy o gyllid o’i gymharu â 2018 i 2019. Wedi'i gynnwys yn y cynnydd hwn mae £2 filiwn ychwanegol y flwyddyn i fynd i'r afael â materion mynediad lleol.

Mae newidiadau i'r contract deintyddol yng Nghymru yn cynnwys gofyniad i bractisau'r GIG weld cleifion newydd. Ers ei gyflwyno ym mis Ebrill 2022 mae cyfanswm o 312,000 o bobl na allent gael apwyntiad o'r blaen wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Oherwydd y pwysau eithriadol ar ein cyllideb rydym wedi gorfod ystyried a ddylid codi cyllid ychwanegol drwy gynyddu ffioedd yn y maes deintyddol.

Dyma'r cynnydd cyntaf rydym wedi'i wneud i ffioedd deintyddol ers 2020. Does dim rhaid i tua hanner y cleifion dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG, a byddwn yn parhau i ddiogelu'r rhai sydd leiaf abl i fforddio i dalu.

Mae'n hanfodol bod pob un ohonom yn cadw ein dannedd a'n deintgig yn iach. Dyna pam rydym yn gweithio i'w gwneud yn haws i bobl weld deintydd y GIG drwy gynyddu nifer y lleoedd GIG newydd a helpu deintyddion i ganolbwyntio ar y rhai sydd angen cymorth drwy newid pa mor aml rydym yn gweld deintydd ar gyfer apwyntiadau rheolaidd.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae mwy o wybodaeth am ffioedd ac eithriadau deintyddol ar gael a bydd yn cael ei diweddaru ar 1 Ebrill 2024.

Gall gwiriwr ar-lein y GIG hefyd ddarparu gwybodaeth ynghylch a oes gan rywun hawl i gael help gyda chostau deintyddiaeth.

Mae gan bob bwrdd iechyd drefniadau i ddarparu triniaeth, cyngor a chymorth deintyddol brys. Dylai pobl sy'n ceisio triniaeth gysylltu â'r llinell gymorth ddeintyddol neu GIG 111 a byddant yn gallu cael eu hasesu a oes angen triniaeth frys, neu a ellir gweld y claf cyn gynted â phosibl yn ystod oriau arferol.