Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r broses drwyddedu morol, a sefydlwyd gan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“y Ddeddf”), yn nodi’r mathau o weithgareddau y mae’n rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i drwydded forol. Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi’r Awdurdod Trwyddedu (Gweinidogion Cymru) i'w gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu.

Y prif ffynonellau costau sy’n gysylltiedig â thrwyddedu morol yw:

  1. Y costau i’r awdurdod trwyddedu (Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Gweinidogion Cymru) ar gyfer prosesu a phenderfynu ar y cais, gan gynnwys unrhyw gyngor cyn ymgeisio.
  2. Darparu cyngor gwyddonol i helpu i benderfynu ar y cais.
  3. Costau i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer gwaith ar ôl trwyddedu, megis cyflawni’r amodau neu asesu adroddiadau monitro.

Yn 2013, dirprwyodd Gweinidogion Cymru y gwaith o weinyddu a phenderfynu ar geisiadau am drwyddedau morol i CNC. Gweinidogion Cymru sydd yn dal i fod â chyfrifoldeb dros osod ffioedd am geisiadau a thaliadau eraill, gan fod yn rhaid i’r rhain gael eu gosod gan reoliadau.

Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â CNC, gynnal adolygiad o ffioedd a thaliadau trwyddedau morol. Un o amcanion polisi allweddol yr adolygiad oedd diwygio ffioedd 2011 i alluogi CNC i adennill holl gostau’r broses drwyddedu, lle bo’n bosibl, ac i’r ffioedd a’r taliadau fod yn gymesur, yn deg ac yn dryloyw. Ochr yn ochr â’r amcan hwn, gwnaed ymrwymiad i CNC a Llywodraeth Cymru nodi cyfleoedd ar gyfer gwneud arbedion effeithiolrwydd a symleiddio gwasanaethau ar gyfer trwyddedu morol, a'u rhoi ar waith, ac i leihau’r cynnydd mewn ffioedd lle bynnag y bo’n bosibl.

Cytunodd Gweinidogion Cymru ar newidiadau i’r ffioedd a’r taliadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ac fe’u cyflwynwyd drwy Reoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017. Mae ffioedd am geisiadau 2017 yn seiliedig ar ddefnyddio model haenog ac wedi eu gosod un ai ar sail ffi sefydlog (gweithgareddau llai o faint band 1 a 2) neu ar sail cyfradd fesul awr (prosiectau mwy (band 3)). Defnyddir yr un model ar gyfer taliadau eraill a allai fod yn berthnasol, er enghraifft ar gyfer cyflawni amodau’r drwydded.

Pwerau perthnasol i godi tâl

Codir ffioedd a thaliadau trwyddedu morol gan ddefnyddio pwerau a nodir o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rhan 4 o’r Ddeddf (gan gynnwys diwygiadau a wneir gan ran 6 o Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016).
  • Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (fel y’u diwygiwyd).
  • Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (fel y'i diwygiwyd).

Ymrwymiad

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddull o drwyddedu morol lle caiff costau eu hadennill yn llawn, hynny yw bod taliadau ar gyfer ffioedd yn talu costau CNC ar gyfer cyflawni’r swyddogaeth trwyddedu cyn belled ag sy’n bosibl. Mae’r ymrwymiad hwn yn unol â chanllawiau Trysorlys y DU a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn ymrwymo i broses drwyddedu morol sydd yn:

  • Ymatebol: drwy geisio adborth gan ddefnyddwyr ynghylch pa mor dda mae'r broses yn cael ei gweithredu ac ynghylch lle y gellid gwneud gwelliannau, drwy fonitro perfformiad ac adrodd am berfformiad a llwyddiannau.
  • Galluogi: cymryd yn ganiataol yr angen am ddatblygu cynaliadwy yn ardal forol Cymru fel yr amlinellir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a theilwra ffyrdd o weithio i anghenion ymgeiswyr, gan gydnabod nad yw pob prosiect yr un peth ac nad yw pob sector wedi ennill ei blwyf, a bod angen rhagor o gymorth ar rai a pharodrwydd i fod yn hyblyg wrth wneud gwaith trwyddedu.
  • Hyblyg: mabwysiadu dull 'dysgu drwy wneud', os nad oes tystiolaeth briodol ar gael ar unwaith, a dysgu oddi wrth brofiad rheoleiddwyr eraill er mwyn datblygu diwylliant o ddysgu er mwyn helpu i feithrin hyblygrwydd wrth wneud penderfyniadau.
  • Effeithlon: gwneud penderfyniadau amserol, gan weithio gyda chyfundrefnau cydsynio eraill lle bo modd er mwyn manteisio i'r eithaf ar wybodaeth a data sydd eisoes yn bodoli.
  • Edrych tuag at y dyfodol: rhagweld ac ymateb yn gynnar i newidiadau cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol drwy archwilio tueddiadau a datblygiadau'r dyfodol mewn modd systematig, gan sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cyd-fynd â nhw.
  • Cymesur: annog ffocws ar y prif effeithiau arwyddocaol, drwy ddileu'r angen i gynnal Asesiadau Effaith Amgylcheddol wrth ymdrin â materion lle mae llai o risg (pan fydd hynny’n briodol a bod tystiolaeth o blaid gwneud hynny), a defnyddio'r arferion gorau sydd ar gael (yng Nghymru a mannau eraill) i lywio penderfyniadau.
  • Tryloyw: sicrhau bod pawb yn deall y broses trwyddedu morol gan ddefnyddio iaith glir a dealladwy, a thrwy ddarparu eglurder ynghylch rolau, gyda chapasiti ar-lein i alluogi ymgeiswyr a phartïon â diddordeb i ddilyn hynt ceisiadau a chodi unrhyw gwestiynau.
  • Cydweithredol: canolbwyntio ar atebion, gan greu rhyngweithio ystyrlon sy'n adeiladu ar gyd-ddealltwriaeth, parch a gonestrwydd, a darparu cyngor a chanllawiau clir.

Dull gweithredu o ran adolygu a diweddaru ffioedd a thaliadau

Nid oes darpariaethau yn y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n nodi’r model na’r amserlen ar gyfer adolygu a diweddaru ffioedd a thaliadau. Felly, bydd ffioedd a thaliadau am geisiadau trwyddedu morol yn cael eu diweddaru o dro i dro gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i dystiolaeth glir gan CNC bod angen
gweithredu er mwyn sicrhau bod y costau llawn yn cael eu hadennill a bod hynny’n cael ei gynnal.

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati bob blwyddyn i wirio a yw swm y costau a gaiff eu hadennill yn gwneud synnwyr. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â CNC, gan ddefnyddio’r dystiolaeth fydd ar gael o'r gwaith y bydd yn ei wneud wrth gyflawni ei swyddogaeth trwyddedu morol, gan gynnwys cyngor i Lywodraeth Cymru ar arbedion effeithlonrwydd a wnaed yn ystod y flwyddyn er mwyn gwella'r broses.

Pan fo CNC a Llywodraeth Cymru yn cytuno i gynnal adolygiad ffurfiol o ffioedd a thaliadau, cynhelir ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw newidiadau arfaethedig. Bydd yr ymgynghoriad yn nodi’r achos dros newid, gan gynnwys y dystiolaeth i gefnogi’r angen i ddiwygio’r ffioedd a thaliadau a bydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyd-fynd ag ef. Bydd angen rheoliadau newydd i newid lefelau’r ffioedd a thaliadau, a bydd angen gosod Offeryn Statudol newydd gerbron y Senedd.