Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn dangos y cyfrifiad o ffit orau ar gyfer Ardaloedd Adeiledig ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is.

Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi’r dosbarthiad o Ardaloedd Adeiledig ar lefel Ardal Gynnyrch o'r blaen.

Prif bwyntiau

  • Mae'r adroddiad yn darparu offeryn y gellir ei ddefnyddio i ddadansoddi ystod eang o ffynonellau ystadegol yn ôl maint yr anheddiad. Mae modd cymhwyso’r offeryn hwn i archwilio'r gwahaniaethau rhwng ardaloedd 'trefol' a 'gwledig' i'w ddefnyddio gan ddadansoddwyr o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi.
  • Dangosir y ffit orau o Ardaloedd Adeiledig ar gyfer pob Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru yn y daenlen gyhoeddedig i’w defnyddio gan ddadansoddwyr.
  • Mae'r adroddiad yn defnyddio'r 'Ardaloedd Adeiledig' a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac yn dod o hyd i ffit orau ar gyfer y 'Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Lefel Is' yng Nghymru. Mae 1,909 o ardaloedd o'r fath yng Nghymru gyda thua 1,600 o bobl ym mhob un. Mae'r ffit orau yn offeryn defnyddiol gan fod amrywiaeth eang o ffynonellau data demograffig, cymdeithasol, economaidd ac amddifadedd ar gael ar y lefel hon, er enghraifft, canlyniadau o’r Cyfrifiad o’r Boblogaeth, 2011 a data dangosyddion o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
  • Mae'r dosbarthiad yn dangos bod tuag 20% o'r bobl yng Nghymru, yn byw yn y lleoedd lleiaf, sef lleoedd â llai na 2,000 o bobl. Mae cyfran debyg yn byw yn y tair Ardal Adeiledig sydd ag o leiaf 100,000 o bobl; sef Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Adroddiadau

Ffit gorau a ardaloedd cynnyrch ehangach haen is i ardaloedd adeiledig, 2011 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ffit gorau a ardaloedd cynnyrch ehangach haen is i ardaloedd adeiledig: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 298 KB

XLSX
Saesneg yn unig
298 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.