Datganiadau ar hyn o bryd yn gosod cyfyngiadau ar gadw adar. Yn cynnwys parthau gwyliadwriaeth, cyfyngedig, rheoledig ac atal Cymru gyfan.
Yn y casgliad hwn
Parthau atal Cymru gyfan
Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan, sydd wedi bod ar waith ers 30 Ionawr 2025, bellach wedi cael ei ddirymu.
Er bod y lefelau risg i adar caeth wedi gostwng, nid yw risg is yn golygu dim risg.Mae ceidwaid adar yn cael eu cynghori i barhau i gwblhau’r rhestr wirio hunan-asesu bioddiogelwch a dylai pob ceidwad adar barhau i ddilyn mesurau bioddiogelwch llym ar bob adeg i atal achosion yn y dyfodol.
Parthau gwyliadwriaeth, cyfyngedig a rheoledig
Nid oes ar hyn o bryd unrhyw parthau amddiffiniad, cyfyngedig na rheoliad ar gyfer cadw adar.
Gall ceidwaid wirio a ydynt mewn parth rheoli neu atal clefydau ar fap clefyd ffliw adar (gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion).
Gweld cyfyngiadau a ddirymwyd ar gyfer Hydref 2025 i Fedi 2026.
Cyfyngiadau casglu adar
Gallwch gynnal crynhoad o ddofednod ac adar caeth eraill yng Nghymru ar yr amod eich bod yn gwneud y canlynol:
- bodloni gofynion y drwydded gyffredinol ar gyfer dofednod o ran crynhoi dofednod
- bodloni gofynion y drwydded gyffredinol ar gyfer adar caeth eraill o ran crynhoi adar caeth eraill
- hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o'r crynhoad o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad
Mae angen i chi wneud cais am drwydded benodol ar gyfer dofednod neu adar caeth eraill os yw'r crynhoad yn cynnwys Anseriformes (gan gynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch).
