Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, wedi dweud y dylai perchnogion adar barhau i arfer mesurau hylendid a bioddiogelwch trylwyr ar ôl i’r mesurau cadw dofednod ac adar caeth dan do gael eu codi ar 18 Ebrill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd y gofynion bioddiogelwch gwell a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr fel rhan o'r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau.
  • Anogir ceidwaid adar i ddefnyddio'r wythnos nesaf i baratoi ar gyfer rhyddhau adar – yn enwedig ardaloedd awyr agored.
  • Dylech barhau i gysylltu â llinell gymorth Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) ar 03459 33 55 77 os dewch o hyd i adar marw, a dylai ceidwaid gysylltu ag APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) ar 0300 303 8268 os ydynt yn amau bod achosion o’r clefyd.

Er bod lefel y risg ffliw adar i ddofednod ac adar caeth wedi lleihau, mae risg o hyd y byddwn yn gweld achosion o’r clefyd.

Bydd y gofynion bioddiogelwch gwell a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr fel rhan o’r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau. Mae’r gofynion hynny’n cynnwys gofyniad i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth hunan-asesu drwy gwblhau rhestr gwirio bioddiogelwch orfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws Prydain,  ar draws y diwydiant a chyda ceidwaid i sicrhau bod mesurau bioddiogelwch cymesur wedi bod ar waith er mwyn helpu i gadw heidiau’n ddiogel. Mae'r mesurau cadw dan do wedi bod yn arf pwysig i ddiogelu adar rhag ffliw adar, sy'n parhau i gael ei weld mewn adar gwyllt.

Mae ceidwaid adar yn cael eu hannog i ddefnyddio'r wythnos nesaf i baratoi ar gyfer rhyddhau eu hadar – yn enwedig eu hardaloedd awyr agored, gan gynnwys glanhau a diheintio offer.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:

Mae'n bleser gennyf fedru cadarnhau y bydd y gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do yn cael ei godi yng Nghymru ar 18 Ebrill.

Dw i’n gwybod y bydd y newyddion hyn yn cael cryn groeso gan geidwaid adar, sydd wedi bod yn cadw’u hadar dan do ers mis Rhagfyr, a dw i am ddiolch iddyn nhw am eu holl ymdrechion i gadw’u heidiau’n ddiogel.

Yr hyn sy'n hanfodol ’nawr yw bod ceidwaid, p’un a oes ganddyn nhw ychydig o adar neu filoedd ohonyn nhw, yn parhau i arfer mesurau hylendid a bioddiogelwch trylwyr ar mwyn atal achosion o ffliw adar.

Mae hynny’n cynnwys parhau i hunan-asesu drwy gwblhau'r rhestr gwirio bioddiogelwch orfodol er mwyn helpu ceidwaid i nodi’r hyn mae angen iddyn nhw ei wneud i ddiogelu’u hadar.

Mae’n hanfodol hefyd fod pawb yn dal i gadw llygad am unrhyw arwyddion o’r clefydau yn eu hadar nhw ac mewn adar gwyllt, yn rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o’r fath ac yn gofyn am gyngor ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.

Mae’r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sy'n cynnwys Cymru gyfan, yn parhau yn ei le. Fel o'r blaen, mae hynny’n golygu ei bod yn ofynnol i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gymryd camau priodol ac ymarferol i atal ffliw adar, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw adar a gedwir yn cael mynd ar dir y gwyddys, neu lle mae cryn risg, bod adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, yn mynd arno, neu sy’n cael ei halogi gan eu baw neu eu plu;
  • Sicrhau nad yw ardaloedd lle cedwir adar yn ddeniadol i adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, er enghraifft, drwy roi rhwydi dros byllau a mannau cyfagos a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd ar gyfer adar gwyllt;
  • Bwydo a rhoi dŵr i adar mewn ardaloedd caeedig er mwyn cadw adar gwyllt draw;
  • Sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn mynd i mewn ac allan o’r mannau caeedig lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dipiau traed cyn mynd i mewn i’r mannau lle cedwir dofednod, a chadw’r ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Sicrhau bod unrhyw sarn, offer, dillad ac unrhyw beth arall sy'n mynd i mewn i'r ardaloedd lle cedwir adar heb gael eu halogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan HPAI, sy'n cael ei ledaenu'n bennaf drwy faw adar.
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill.

Mae'r holl gamau hyn yn bwysig er mwyn diogelu adar. Ochr yn ochr â'r rhain, gall gwblhau'r hunan-asesiad bioddiogelwch gorfodol hefyd helpu ceidwaid i nodi'r mesurau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod eu haid yn ddiogel.

Dylech barhau i gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 os dewch o hyd i adar gwyllt marw, a dylai ceidwaid barhau i gysylltu ag APHA ar 0300 303 8268 ar unwaith os ydynt yn amau bod y clefyd ar eu hadar.

Gall ceidwaid ymgyfarwyddo â’r cyngor ar ffliw adar sydd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru - www.llyw.cymru/ffliw-adar