Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, wedi cymryd camau pellach i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag y Ffliw Adar Pathogenig Iawn trwy waharddiad dros dro ar grynhoi rhai mathau o adar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn dilyn y datganiad bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar a’r  cadarnhad bod straen H5N8 o Ffliw’r Adar wedi ymddangos mewn fferm dyrcwn yn Lincolnshire, Lloegr.  Hwn yw’r straen sydd wedi bod yn mynd o gwmpas Ewrop dros yr wythnosau diwethaf. 

Cafodd y clefyd ei ddatgan ar 16 Rhagfyr ac mae pob un o’r 2,500 o adar ar y fferm wedi’u difa. Mae’r fferm wedi cael ei diheintio ac nid oes achosion ers hynny wedi’u cofnodi, er bod y cyfyngiadau o gwmpas y safle yn parhau mewn grym.

Mae’r gwaharddiad ar grynhoi dofednod yn effeithio ar ieir, tyrcwn, hwyaid a gwyddau ac mae’n cyfyngu ar ddigwyddiadau fel ffeiriau da byw, ocsiynau a sioeau adar.  Mae gwaharddiadau tebyg mewn grym yn Lloegr a’r Alban, gan olygu bod yr un drefn yn cael ei dilyn trwy Brydain Fawr. 

Nid oes gwaharddiad ar grynhoi colomennod ac adar anwes gan fod y risg iddyn nhw drosglwyddo’r clefyd i ddofednod yn llai o lawer.  Byddwn yn cadw golwg ar y trefniadau hyn a byddwn yn eu codi neu’n eu newid os bydd y sefyllfa’n newid. 

Yn ogystal â’r gwaharddiad ar grynhoi adar, mae gofyn i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do neu gymryd camau priodol i’w cadw rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt, ac i gryfhau’r mesurau bioddiogelwch ar eu ffermydd. 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel bwyta cig ac wyau dofednod.  Ni ddisgwylir y caiff y sefyllfa unrhyw effaith ar y cyflenwad o dyrcwn ac adar eraill dros y Nadolig. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Er na chafwyd achos o Ffliw’r Adar yng Nghymru, mae’r gwaharddiad hwn ar grynhoi adar yn fesur ychwanegol i ddiogelu’n dofednod ac adar domestig eraill rhag y clefyd. 

“Rwy’n pwyso ar geidwaid dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi manylion eu heidiau i’r Gofrestr Dofednod.  Drwy wneud, byddwn yn gallu cysylltu â nhw ar unwaith pe bai’r clefyd yn taro er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau angenrheidiol yn syth i ddiogelu’u hadar.”

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:

“Mae bioddiogelwch yn fater na ddylem gyfaddawdu arno byth.  Hyd yn oed os ydy’r adar dan do, mae’r perygl o’u heintio’n dal yn fyw a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill wneud popeth yn eu gallu i’w rhwystro rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt. Peidiwch â symud eich adar os medrwch a dylech wastad diheintio’ch dillad a’ch offer.”