Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi codi'r gwaharddiad ar grynhoi adar Galliforme fel ffesantod, ieir a thwrcwn yng Nghymru. Dyna gyhoeddiad Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd 2021, yn wyneb yr achos mwyaf erioed ym Mhrydain Fawr o'r ffliw adar, cyflwynwyd gwaharddiad ar grynoadau dofednod rhag lledaenu'r clefyd ac i warchod heidiau.

Ar ôl mwy na dwy flynedd o wahardd crynhoi adar, yn ail ran 2023 newidiodd patrwm y clefyd, gyda llai o safleoedd yn cael eu heintio a llai o adar gwyllt heintiedig yn cael eu ffeindio. Nid oes yr un safle wedi'i heintio yng Nghymru ers mis Ebrill 2023.

Ond y farn yw bod y risg yn dal yn rhy fawr i grynhoi adar Anseriforme fel hwyaid, gwyddau ac elyrch, a bydd y gwaharddiad ar eu crynhoi nhw yn aros.

O heddiw ymlaen, bydd gofyn i geidwaid adar Galliforme sy'n trefnu ffair, marchnad, sioe, arddangosfa neu grynhoad arall gadw at holl ofynion trwydded gyffredinol. Mae'r manylion ar wefan Llywodraeth Cymru - www.llyw.cymru/casgliadau-adar-trwydded-gyffredinol-ar-gyfer-casgliadau a www.llyw.cymru/casgliadau-adar-trwydded-gyffredinol-ar-gyfer-dofednod. 

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: 

"Mae ceidwaid dofednod wedi gweithio'n galed i amddiffyn eu hadar rhag ffliw'r adar trwy gadw at fesurau bioddiogelwch ac eraill cryf, a dw i am ddiolch iddyn nhw eto am bopeth y maen nhw wedi'i wneud.

"Dw i'n falch ein bod bellach yn gallu ailddechrau crynhoi adar Galliforme. Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu, ac i gefnogaeth a chydweithrediad y sector dofednod y mae'r diolch am hynny.

"O heddiw ymlaen felly, bydd modd crynhoi pob math o adar yng Nghymru, heblaw am adar Anseriforme, cyn belled â bod ceidwaid yn cadw at holl ofynion y drwydded gyffredinol.

"Nid yw hyn yn golygu bod y risg o ffliw'r adar wedi diflannu. Rhaid wrth fesurau hylendid a bioddiogelwch llym i ddiogelu heidiau rhag y clefyd, ac mae'n bwysig bod ceidwaid adar yn dal ati i hunanasesu'u mesurau bioddiogelwch.

"Mae pob un o'n mesurau lliniaru, gan gynnwys cyfyngiadau ar grynhoi adar, yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn helpu i sicrhau bod yr haid genedlaethol yn ddiogel."