Neidio i'r prif gynnwy

Mae dadansoddiad gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn osgoi cost flynyddol a fyddai wedi’i wario ar ddiesel o hyd at £3.7 miliwn (2.4 miliwn litr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ôl caniatáu ar gyfer cost gwefru'r cerbydau, amcangyfrifir yr arbedir rhwng £1.4 miliwn a £1.9 miliwn yn flynyddol yn dibynnu ar y tariff a dalwyd gan y corff gweithredu.

Mae'r fflyd cerbydau trydan yn helpu cyrff cyhoeddus i leihau costau gweithredu ar adeg pan fo cyllidebau yn brin ac maent wedi lleihau eu hamlygiad i brisiau tanwydd ffosil byd-eang anwadal. Yn ystod sioc prisiau olew 100 diwrnod, yn debyg i'r effeithiau diweddar ar y farchnad a oedd yn gysylltiedig â'r Unol Daleithiau ac Iran, byddai fflyd cerbydau trydan Cymru yn osgoi tua £200,000 i £280,000 o gostau diesel ychwanegol. 

Effaith weithredol ac ariannol

Mae'r dadansoddiad yn seiliedig ar ddata ar draws fflyd sector cyhoeddus Cymru. Mae'r fflyd honno'n cynnwys 2,045 o gerbydau trydan: ceir, cerbydau masnachol ysgafn, bysiau mini, cerbydau casglu sbwriel, cerbydau masnachol trwm, bysiau a pheiriannau arbenigol.

Gan ddefnyddio tybiaethau sy'n seiliedig ar gategori fflyd sef milltiroedd, defnydd o ddiesel wedi'i ddadleoli, a defnydd trydan cerbydau trydan, mae'r dadansoddiad yn amcangyfrif bod:

  • 2.423 miliwn o litrau o ddiesel bob blwyddyn heb eu prynu
  • 8.6 GWh o drydan wedi’i ddefnyddio gan y fflyd cerbydau trydan bob blwyddyn
  • £3.7 miliwn o ddeisel heb ei brynu bob blwyddyn, gan ddefnyddio'r pris diesel diweddaraf heb gynnwys TAW
  • £1.4 miliwn i £1.9 miliwn o arbedion costau ynni net y flwyddyn, yn seiliedig ar dybiaethau prisiau trydan annomestig sylweddol a sylweddol iawn
  • £200,000 i £280,000 o amlygiad ychwanegol i brisiau diesel wedi'i osgoi yn ystod sioc prisiau olew 100 diwrnod

Manteision diogeledd ynni

Mae'r newid i gerbydau trydan yn lleihau dibyniaeth sector cyhoeddus Cymru ar ddiesel, tanwydd sy'n cael ei fasnachu'n fyd-eang sy'n agored i farchnadoedd olew rhyngwladol a tharfu geo-wleidyddol.

Trwy symud y galw am ynni fflyd o ddiesel i drydan, gall cyrff cyhoeddus leihau eu hamlygiad i gynnydd sydyn mewn prisiau tanwydd a gwneud mwy o ddefnydd o drydan a gynhyrchir yn y DU. Gellir cyflawni arbedion a gwydnwch pellach trwy gyfuno gwefru cerbydau trydan â systemau depo clyfar, cynhyrchu adnewyddadwy ar y safle, storio mewn batri a seilwaith gwefru a rennir.

Gall y dull hwn helpu cyrff cyhoeddus i symud o ddisodli cerbydau yn unig i ddatblygu systemau ynni lleol mwy gwydn sy'n cefnogi gweithrediadau fflyd, lleihau'r risgiau o ran pris tanwydd a gwneud gwell defnydd o asedau'r sector cyhoeddus.

Manteision ansawdd aer ac allyriadau

Mae fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn dileu allyriadau egsôst diesel yn uniongyrchol o leoliadau gwasanaeth cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys depots, ysgolion, ysbytai, canol trefi ac ardaloedd preswyl. Trwy ddisodli cerbydau diesel â cherbydau di-allyriadau, mae cyrff cyhoeddus yn lleihau llygredd o’r beiben fwg yn lleol mewn mannau lle mae gweithgarwch fflyd yn digwydd bob dydd.

Amcangyfrifir hefyd y bydd y fflyd cerbydau trydan yn arbed tua 6,151 tunnell o CO₂e o allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r tarddle i’r olwyn bob blwyddyn, a gwerth carbon dangosol o oddeutu £1.7 miliwn. Efallai y bydd llawer o gerbydau yn cael eu gwefru gan ddefnyddio trydan adnewyddadwy ar y safle, a allai leihau allyriadau ymhellach yn dibynnu ar y sail cyfrifyddu allyriadau a ddefnyddir.

Dywedodd Jim Cardy, Uwch Reolwr Rhaglen, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru:

"Mae sector cyhoeddus Cymru eisoes yn gweld budd ymarferol wrth newid i gerbydau trydan. Mae'r ffigyrau hyn yn dangos bod cerbydau trydan nid yn unig yn lleihau allyriadau, maen nhw hefyd yn helpu cyrff cyhoeddus i leihau costau gweithredu a lleihau eu hamlygiad i farchnadoedd tanwydd ffosil anwadal."

"Y cam nesaf yw adeiladu ar y cynnydd hwn drwy gefnogi mwy o fflyd sector cyhoeddus Cymru i drosglwyddo i gerbydau di-allyriadau, wrth ddatblygu'r systemau ynni clyfar sydd eu hangen i'w cefnogi. Gall depots clyfar, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, storio mewn batris a seilwaith gwefru a rennir helpu i gynyddu arbedion, cryfhau diogeledd ynni a gwneud gweithrediadau fflyd y sector cyhoeddus yn fwy gwydn."

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd:

"Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos bod y newid i gerbydau trydan yn darparu manteision gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

"Mae'r llywodraeth newydd hon wedi ymrwymo i fabwysiadu cerbydau trydan ymhellach ar draws gwasanaethau cyhoeddus; lleihau'r defnydd o ddiesel, gostwng costau gweithredu, lleihau amlygiad i brisiau tanwydd cynyddol a gwneud gwell defnydd o arian cyhoeddus.

"Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi bod â rhan bwysig wrth gefnogi'r cynnydd hwn, gan helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus i wneud newidiadau ymarferol sy'n cryfhau gwydnwch ynni, lleihau allyriadau a darparu gwerth hirdymor i gymunedau Cymru.