Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ymddygiad oedolion sy'n byw yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Ni ddylid cymharu canlyniadau â blynyddoedd cyn 2020-21 (pan oedd cyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb).

Prif bwyntiau

  • Dywedodd 13% o oedolion eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd.
  • Dywedodd 17% o oedolion eu bod yn yfed mwy na'r canllaw wythnosol (hynny yw, mwy nag 14 uned yr wythnos ar gyfartaledd).
  • Dywedodd 29% eu bod yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol.
  • Dywedodd 55% o oedolion eu bod wedi gwneud o leiaf 150 munud weithgarwch corfforaethol yn yr wythnos flaenorol.
  • Dywedodd 37% o oedolion eu bod yn bwysau iach.
  • Dywedodd 92% o oedolion eu bod yn dilyn 2 neu fwy o'r 5 ymddygiad iach.

Roedd oedolion yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn llai tebygol o adrodd am ymddygiad ffordd iach o fyw na'r rhai yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, roedd hyn yn wir am bob ymddygiad ac eithrio yn yfed mwy na'r canllaw.

Doedd dim newid sylweddol yn y rhan fwyaf o ymddygiadau ffordd o fyw rhwng 2021-22 a 2022-23, ond bu cynnydd yn y defnydd o e-sigaréts.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cath Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.