Mae’r ffordd osgoi yn cysylltu’r A489 a’r A483 ac yn osgoi’r Drenewydd.
Trosolwg
Ein rhesymau dros wneud hyn
Roedd tagfeydd rheolaidd wrth y gyffordd ble roedd yr A583 a’r A489 yn ymuno. Roedd y tagfeydd yn amharu ar ddatblygiad diwydiannol y Drenewydd. Dylai’r gwaith o wella’r gyffordd helpu diwydiant i dyfu yn yr ardal hon.
Datblygiadau presennol
Agorodd y ffordd osgoi yn gynnar yn 2019. Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn ei gyfnod ôl-ofal o 5 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn cwblhau gwaith sydd heb ei wneud ac yn monitro tirlunio’r cynllun. Bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2024.
Sut aethon ni ati i ymgynghori
Gwnaethom gynnal arddangosfa ymgynghori â’r cyhoedd yn y Drenewydd yn ystod haf 2019.
Gwnaeth y cynigion drafod y llwybr a oedd yn cael ei ffafrio yn 2010 ynghyd ag opsiynau eraill posibl a chafodd y cyfan ei ddangos mewn arddangosfa i’r cyhoedd yn ystod haf 2013. Canlyniad hyn oedd cyhoeddi llwybr gwahanol a ffefrir yn ystod gwanwyn 2014. Gwnaeth dros 600 o bobl weld y llwybr mewn arddangosfa arall yn ystod Gwanwyn 2014.
Cynhaliwyd ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ystod Haf 2015.
Cyswllt
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y prosiect hwn at est-nmdmailbox@llyw.cymru