Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ffordd osgoi yn cysylltu’r A489 a’r A483 ac yn osgoi’r Drenewydd.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
Y canolbarth
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ein rhesymau dros wneud hyn

Roedd tagfeydd rheolaidd wrth y gyffordd lle’r oedd yr A583 a’r A489 yn ymuno â’i gilydd a hefyd ar y brif ffordd drwy’r Drenewydd. Roedd y tagfeydd yn amharu ar ddatblygiad diwydiannol a masnachol y Drenewydd, ac ar ei datblygiad o ran twristiaeth a hamdden. Dylai’r ffordd osgoi newydd hon helpu’r Drenewydd i ddatblygu’n ganolfan ranbarthol yn y Canolbarth

Hynt y gwaith hyd yma

Agorodd y ffordd osgoi yn gynnar yn 2019. Mae’r prosiect bellach yn ei gyfnod ôl-ofal o 5 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgymryd â gwaith sydd heb ei gwblhau ac yn monitro’r gwaith tirweddu ar y cynllun. Bydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2024.

Sut aethon ni ati i ymgynghori

Gwnaethom gynnal arddangosfa ymgynghori â’r cyhoedd yn y Drenewydd yn ystod haf 2009.

Roedd y cynigion yn trafod y llwybr a ffefrid yn 2010, yn ogystal ag opsiynau eraill posibl ac fe’u dangoswyd mewn arddangosfa i’r cyhoedd a gynhaliwyd yn ystod haf 2013. Canlyniad hynny oedd cyhoeddi llwybr arall a ffefrid yn ystod gwanwyn 2014. Gwelodd dros 600 o bobl y llwybr mewn arddangosfa arall i’r cyhoedd a gynhaliwyd  yn ystod gwanwyn 2014.

Cynhaliwyd ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ystod haf 2015.

Cyswllt

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y prosiect hwn at est-nmdmailbox@llyw.cymru

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau