Neidio i'r prif gynnwy

Bydd fforwm adeiladu newydd â’r nod o helpu Cymru i ailgodi’n gryfach yn dilyn y pandemig coronafeirws yn cwrdd am y tro cyntaf heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r fforwm, sy’n cael ei gadeirio gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, ac yn cael ei fynychu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, yn dod ag arweinwyr y sectorau adeiladu cyhoeddus a phreifat at ei gilydd o Gymru gyfan.

Yn y cyfarfod heddiw bydd aelodau’r fforwm yn trafod y ffordd ymlaen ar gyfer y diwydiant wrth iddo adfer o’r pandemig coronafeirws.

Mae llawer o safleoedd adeiladu yng Nghymru wedi parhau i weithredu yn ystod y pandemig, gyda’r diwydiant yn dilyn arferion gweithio llym i sicrhau diogelwch cyflogeion. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod yr 19 ysbyty maes yng 

Nghymru wedi cael eu hadeiladu o fewn wythnosau, a gwaith ar Ysbyty’r Grange wedi cael ei gyflymu. Mae gwelliannau ar y ffyrdd, adeiladu tai a Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau.

Fodd bynnag, mae effaith y pandemig wedi peri llawer o heriau i’r sector.

Gan adeiladu ar egwyddorion Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru, bydd cefnogi’r sector adeiladu yn hanfodol wrth helpu economi Cymru i ffynnu. Bydd hefyd yn ffordd o gefnogi busnesau bach a chanolig, tyfu’r economi sylfaen a sicrhau dyfodol carbon isel.

Bydd gwaith y fforwm yn hanfodol wrth helpu’r diwydiant i ffynnu yn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

Mae’r sector adeiladu yn sector hanfodol yng Nghymru. Mae’n cyflogi degau o filoedd o bobl a bydd yn hanfodol wrth helpu’r economi i dyfu yn dilyn y pandemig hwn.

Mae’n dda iawn gen i fod yn gadeirydd y fforwm hwn, sy’n dod â phobl allweddol at ei gilydd wrth inni gynllunio dyfodol llwyddiannus ar gyfer y diwydiant. Un o’r pethau pwysicaf y byddwn ni’n ei ystyried fydd sut i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwydiant adeiladu arloesol sy’n addas i’r diben yn y blynyddoedd nesaf.

Rhaid i ddatgarboneiddio fod yn rhan o’r drafodaeth honno, ac mae wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer adferiad gwyrdd. Nid yn unig bydd hyn yn helpu i adeiladu economi fwy cadarn yn seiliedig ar y diwydiannau sydd eu hangen arnon ni nawr ac yn y dyfodol, ond bydd hefyd yn mynd i’r afael â heriau iechyd cyhoeddus, newid yn yr hinsawdd a thegwch.

Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddigynsail, ac nid yn unig rydyn ni am adfer o’i effeithiau ar ein heconomi, ond hefyd ailgodi’n gryfach a gweld Cymru yn ffynnu unwaith eto.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Un o’r ychydig o bethau cadarnhaol sydd wedi deillio o’r pandemig coronafeirws fu’r ymateb gwych gan awdurdodau lleol, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyfan, i sicrhau llety dros dro a chymorth ar gyfer dros 800 o bobl a oedd yn flaenorol yn ddigartref ac yn byw ar y strydoedd neu mewn llety anaddas.

Mae adeiladu cartrefi newydd, ac ailwampio cyfleusterau presennol i ddarparu llety dros dro a llety camu ymlaen o ansawdd uchel, yn rhan allweddol o’n cynllun i sicrhau nad oes neb yn gorfod dychwelyd i’r strydoedd. Bydd y sector adeiladu yn hanfodol i’r gwaith hwn ac i ddarparu’r cartrefi cymdeithasol a’r cartrefi fforddiadwy sydd eu hangen arnon ni i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref parhaol o ansawdd uchel. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agosach byth gyda’r diwydiant yn y dyfodol i sicrhau ein bod yn gwireddu ein huchelgais mewn modd diogel ac effeithlon.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru, Ed Evans:

Yn dilyn effeithiau dinistriol COVID-19, a chyn hynny degawd o fesurau cyni, mae’r angen i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat weithio gyda’i gilydd ledled Cymru a chefnogi ei gilydd bellach yn bwysicach nag erioed.

Fel diwydiant sy’n cyfrannu cymaint at gadernid economi Cymru, gan gyflogi a hyfforddi miloedd o bobl ledled y wlad, rydyn ni’n croesawu’r fforwm hwn fel ffordd i’r sector cyhoeddus a’r sector cyhoeddus weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth agos. Drwy gydol y pandemig hwn mae busnesau wedi gweithio’n galed i gynnal a cadw seilwaith hanfodol, ac wedi datblygu arferion gweithio’n ddiogel wrth wneud hynny.

Byddwn ni’n cyflwyno ein cynllun adfer 12 pwynt i helpu busnesau i oroesi yn y tymor byr yn y ystod cyfnod ansicr hwn i’r Dirprwy Weinidog. Ond byddwn ni hefyd yn ymrwymo i ‘ailgodi’n gryfach’ yn y tymor hwy wrth inni groesawu’r cyfleoedd sydd wedi codi o ganlyniad i ragor o ddigideiddio, awtomeiddio a ffyrdd gwell o weithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac atgyfnerthu’r economi sylfaenol yng Nghymru. Fel diwydiant rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud hyn mewn partneriaeth.