Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd.

Diben y grŵp

Bydd y Fforwm yn goruchwylio’r gwaith o roi’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ar waith ac yn cynnig cyngor ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru ar faterion brys a materion sy’n datblygu sy’n effeithio ar gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.

Amcanion

Cefnogi Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu argymhellion yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd a materion sy’n dod i’r amlwg er mwyn adlewyrchu effaith barhaus pandemig COVID-19 a’r adferiad ar ôl y pandemig, yn ogystal â’r argyfwng costau byw.

Craffu ar gynnydd o ran y camau gweithredu yng Nghynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru Llywodraeth Cymru a nodi unrhyw rwystrau sy’n llesteirio cynnydd.

Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn helpu i gyflawni’r elfennau sy’n ymwneud â rhywedd yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru a monitro’r elfennau hynny.

Ymgynghori â rhwydweithiau ac â’r aelodaeth ehangach i helpu i nodi a deall rhwystrau, yn rhai brys ac yn rhai sy’n datblygu, i gydraddoldeb rhywedd y mae menywod, dynion a phobl anneuaidd yn eu hwynebu.

Darparu cymorth a chyngor arbenigol i Weinidogion er mwyn deall y rhwystrau, yn rhai brys ac yn rhai sy’n datblygu, i gydraddoldeb rhywedd a darparu enghreifftiau ymarferol o ffyrdd o oresgyn rhwystrau o’r fath.

Sicrhau bod unrhyw ystyriaeth a roddir i gydraddoldeb rhywedd yn ystyried y croestoriad rhwng rhywedd, hil, anabledd, bod yn LHDTC+ a nodweddion gwarchodedig eraill, a’i bod yn gynhwysol ac yn wrthwahaniaethol.

Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ystyried cysylltiadau â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+, Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 a Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: strategaeth 2022 i 2026. Bydd hyn yn digwydd yn ogystal â chysylltiadau â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru ar iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r economi.

Nodi meysydd lle y gellid o bosibl wneud gwaith ymchwil i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau a rhaglenni yn y dyfodol.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n mynychu’r tasglu yn cyfrannu at y trafodaethau ar sail eu harbenigedd a’u profiad, yn ystyried y materion sy’n codi sy’n ymwneud â’u meysydd polisi ac yn rhoi cyngor yn ôl yr angen. Byddant hefyd yn rhoi’r diweddaraf am gynnydd o ran y camau gweithredu sydd wedi’u neilltuo iddynt yn y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ac yn rhoi adroddiadau i’w cydweithwyr polisi ar unrhyw feysydd lle y gellid llunio neu ddiwygio polisïau neu raglenni er mwyn hyrwyddo canlyniadau cyfartal i fenywod, dynion a phobl anneuaidd yn well.

Aelodaeth

  • Bawso
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
  • Cymorth i Ferched Cymru
  • Cyngres Undebau Llafur Cymru
  • Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru
  • Homestart Cymru
  • Oxfam Cymru
  • Plan International
  • Prifysgol Caerdydd
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
  • Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
  • Women Connect First

Trefniadau gweithio’r grŵp

Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cadeirio dau gyfarfod y flwyddyn o’r Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd a bydd swyddog hefyd yn cadeirio dau gyfarfod y flwyddyn.

Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru fydd yr ysgrifenyddiaeth.

Bydd y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn.

Anfonir y papurau o leiaf dri diwrnod gwaith cyn unrhyw gyfarfod.

Anfonir y cofnodion o fewn dwy wythnos i’r cyfarfod.

Cyhoeddi dogfennau

Bydd agendâu, papurau a chofnodion y cyfarfodydd ar gael ar gais ar ffurf copi caled neu mewn fformatau eraill.

Trefniadau mynediad

Os oes gan aelodau unrhyw ofynion penodol er mwyn gallu ymuno â chyfarfod, megis: lle parcio hygyrch, dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gofynion o ran ieithoedd eraill, deunydd mewn fformat gwahanol, system dolen sain, neu unrhyw ofynion eraill, dylent roi gwybod i’r Ysgrifenyddiaeth cyn gynted ag y bo modd ac fe geisiwn fodloni’r gofynion hynny.

Mae holl bapurau’r cyfarfodydd i’w dosbarthu ymlaen llaw ac i’w darparu mewn fformat hygyrch.