Neidio i'r prif gynnwy

The purposes and remit of the Public Sector Future Workforce Forum.

Diffiniad a diben

1. Strwythur partneriaeth gymdeithasol tairochrog yw Fforwm Gweithlu Sector Cyhoeddus y Dyfodol, a fydd yn tynnu ynghyd gyflogwyr â phwerau datganoledig o fewn y sector cyhoeddus, undebau llafur a Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymatebion ar y cyd i faterion yn ymwneud â'r gweithlu. Bydd yn hyrwyddo cyflogaeth deg, gyfartal ac egwyddorol; yn llywio'r gwaith o datblygu polisi; ac yn annog deialog strategol. Drwy gynrychiolaeth tair ochr, meithrin consensws, a gweithredu ar y cyd, bydd y Fforwm yn adlewyrchu ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol. Bydd y Fforwm yn osgoi'r gwaith y mae fforymau eraill eisoes yn ei gyflawni, gan ychwanegu gwerth a sicrhau nad yw'n creu biwrocratiaeth ddiangen.

2. Bydd y Fforwm yn lle i undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar ddatblygiad polisi sy'n ymwneud â gweithlu pob rhan o'r sector cyhoeddus drwy:

  • Sganio'r gorwel er mwyn deall sefyllfaoedd yn well a nodi tactegau datrys problemau, i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n codi o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus.
  • Rhannu gwybodaeth ac arferion da.
  • Tynnu sylw at broblemau cyffredin a gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus i ddod o hyd i ddatrysiadau.
  • Darparu safbwynt, arweiniad a chyfarwyddyd ar y cyd.
  • Coladu ymchwil berthnasol.

3. Yng nghyd-destun y Fforwm, mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio ac yn set o ymddygiadau a gyflawnir drwy:

  • Weithredu mewn partneriaeth gyfartal.
  • Diffinio diben a ffocws yn glir mewn ffordd y mae pawb yn ei deall.
  • Ymgysylltu ystyrlon a pharhaus rhwng yr holl bartneriaid o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol y broses o gyflawni'r rhaglen waith.
  • Ymrwymo'n glir i egwyddorion cydweithio a phartneriaeth gymdeithasol, sef: cydweithredu, parch, ymddiriedaeth, llais a chyfranogiad, a chwilio am fuddion i bawb.

Llywodraethiant

4. Er nad yw'r Fforwm yn gorff sofran, daw ei gyfreithlondeb o ymrwymiad y tri phartner cymdeithasol i weithio'n effeithiol mewn ffordd deirochrog. Mae'r Fforwm yn parchu ymreolaeth a strwythur gwneud penderfyniadau pob partner cymdeithasol, a fydd yn pennu eu cynrychiolwyr eu hunain, gan sicrhau bod gan y rhai a ddewisir yr awdurdod angenrheidiol i wneud penderfyniadau ac ymrwymiadau ar ran eu sefydliadau neu eu sectorau. Mae hyn yn golygu bod pob partner yn cynrychioli eu grwpiau eu hunain ac yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o sicrhau bod arfer da ac arweiniad yn cael eu cyfathrebu'n effeithiol a'u rhoi ar waith.

5. Nid fforwm ar gyfer cydfargeinio, datrys anghydfodau lleol, na materion sy'n ymwneud â sectorau penodol yw hwn. Parheir i ymdrin â'r rhain drwy drefniadau lleol.

6. Dylai'r Fforwm fod yn annibynnol ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG), ond dylid sicrhau hyblygrwydd i'r ddau gorff weithio gyda'i gilydd, rhannu'r hyn a ddysgir, a galw am arbenigedd allanol pan fo'n gymwys.

Gweithredu

7. Bydd Fforwm Gweithlu Sector Cyhoeddus y Dyfodol yn cyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn, a bydd un ohonynt yn gyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd hyblygrwydd i ganiatáu cyfarfodydd ychwanegol (yn ogystal â'r tri chyfarfod y flwyddyn) os bydd angen.

8. Prif ffocws y Fforwm fydd pennu, cyfarwyddo a goruchwylio rhaglen waith sy'n canolbwyntio'n bennaf ar 'sganio'r gorwel' h.y. digwyddiadau a datblygiadau tymor canolig/hir a fydd yn effeithio ar fywyd gwaith ar draws y sector cyhoeddus; a materion dadleuol sy'n dod i'r amlwg sy'n cael eu gyrru gan arweinwyr y sector a materion trawsbynciol sy'n berthnasol i ddyfodol y gweithlu. Er mwyn cyflawni hyn, gall greu gweithgorau (a ddiffinnir ym mharagraffau 20-23).

9. Byddai holl gynigion y cynllun gwaith yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf craidd (isod), gan sicrhau y gall y Fforwm ychwanegu gwerth at ddull gweithredu un sector, ac na fyddent yn cael eu hystyried yn well mewn fforymau eraill. Os yw aelodau yn dymuno nodi pwnc i'r Fforwm ei drafod, gallant godi hyn yn ystod cyfarfod, neu fel arall (os ydynt am wneud hyn rhwng y tri chyfarfod blynyddol), gallant dynnu sylw'r Tîm Cymorth at y mater, a fydd wedyn yn hysbysu'r aelodaeth ehangach. Bydd angen i bwnc wedyn gael ei gymeradwyo'n ffurfiol yn un o gyfarfodydd y Fforwm.

Meini Prawf Penderfynu

  • A yw'r mater yn effeithio'n sylweddol ar y gweithlu (mae hyn yn cynnwys staff â nodweddion gwarchodedig)?
  • A yw hwn yn fater traws-sector?
  • Ai'r corff newydd yw'r corff iawn i ddelio â hyn?
  • A yw'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru?

10. Bydd y Fforwm yn darparu canolbwynt i bartneriaethau cymdeithasol, gan weithredu fel adnodd gwybodaeth i sefydliadau yn y sector cyhoeddus datganoledig a'u hundebau llafur cydnabyddedig. Bydd yr adnoddau i'w cadw gan y canolbwynt yn cael eu cytuno mewn partneriaeth gymdeithasol. Bydd y rhain yn cael eu cynnal gan y Tîm Cymorth ar ôl i'r Fforwm gytuno ar y cynnwys, gan sicrhau bod y wybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol ac yn werthfawr i'r darllenwyr.

11. Bydd Cynllun Cyfathrebu yn cael ei ddatblygu i'w gytuno gan y Fforwm er mwyn hyrwyddo a chefnogi ei waith yn effeithiol.

12. Gellir gwneud gwaith ymchwil i gefnogi gwaith mewn maes diddordeb a nodwyd gan y Fforwm. Bydd y dull ymchwil yn dibynnu ar natur y gwaith dan sylw.

Aelodaeth/Presenoldeb

13. Bydd angen i'r Fforwm gynrychioli ystod o gyrff ar draws y sector cyhoeddus, a bydd angen cysylltiadau cryf â strwythurau partneriaeth gymdeithasol ychwanegol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd gan y Fforwm 14 aelod. Bydd cyflogwyr ac undebau llafur yn dewis 5 aelod yr un. Bydd Llywodraeth Cymru yn dewis 4 gan y bydd ganddi hefyd un o seddi'r cyflogwyr. Bydd pob partner cymdeithasol yn penderfynu ar eu haelodau eu hunain ar gyfer pob un o'u seddi.

14. Bydd gan aelodau rôl ddeuol ar y Fforwm. Byddant yn cynrychioli grwpiau eu sector, ac felly byddant yn gyfrifol am fwydo cyngor eu sectorau i drafodaethau'r Fforwm. Byddant hefyd yn gyfrifol am fwydo gwybodaeth yn ôl o'r Fforwm i'w sectorau. Mater i'r aelodau fydd penderfynu pwy o'u sectorau ddylai fod yn rhan o'r broses hon, a sut.

15. Rhaid i aelodau wneud pob ymdrech i ymuno â'r cyfarfodydd, gan y bydd llwyddiant y Fforwm yn dibynnu ar yr egwyddor bod partneriaid cymdeithasol yn cael eu cynrychioli'n llawn. Cydnabyddir y gall gofynion gwaith eraill effeithio ar y gallu i fod yn bresennol o bryd i'w gilydd. Caniateir dirprwyon, ond rhaid bod ganddynt awdurdod digonol i allu gwneud penderfyniadau ar ran yr aelod perthnasol.

16. Os oes mwy na 2 aelod o un ochr sy'n methu â bod yn bresennol, yna bydd yn rhaid i bob aelod benderfynu a oes gan y cyfarfod gworwm, ac a ddylid ei gynnal. Pan fydd newid yn yr aelodaeth, rhaid i'r partner cymdeithasol perthnasol roi gwybod i Dîm Cymorth y Fforwm fel mater o flaenoriaeth.

17. Bydd rôl y cadeirydd yn cylchdroi'n gyfartal rhwng y tri phartner, ac yn cael ei rhannu rhwng yr holl aelodau. Pan ddaw tro pob partner cymdeithasol, bydd yn dewis aelod o'i ochr ei hun i fod yn gadeirydd.

18. Gellir gwahodd unigolion ychwanegol i gyfarfodydd y Fforwm at ddibenion penodol, megis cyngor arbenigol neu ddiweddariadau gan un o'r gweithgorau.

19. Mater i bob partner yw dewis arsylwyr a faint ohonynt, ond argymhellir na ddylai fod mwy na thri oni bai am sefyllfa eithriadol. Os bydd unigolyn sydd fel arfer yn arsylwi yn dirprwyo dros aelod arferol, caiff rhywun arall wedyn lenwi sedd yr arsylwr.

Gweithgorau

20. Bydd y gweithgorau yn uniongyrchol atebol i'r Fforwm a fydd wedi cytuno ar eu maes ffocws. Byddant yn gweithredu ar sail tair ochr ac yn cael eu cadeirio gan aelod o'r Fforwm, a fydd yn gyfrifol am drefniadau cyflawni gweithgarwch y gweithgorau.

21. Caiff y gweithgorau eu llunio am gyfnod penodol, fel arfer rhwng 6 a dim mwy na 12 mis, gan nodi allbynnau clir. Bydd disgwyl iddynt gyflawni eu gwaith o fewn cyfnod amser penodedig. Bydd hyn yn sicrhau bod eitemau yn gyfredol a bod canlyniadau amserol i drafodaethau sy'n codi.

22. Gall y gweithgorau gynnwys unigolion/sefydliadau sydd â'r profiad a'r arbenigedd perthnasol; gallai hyn olygu cynrychiolaeth ehangach na'r Fforwm craidd. Bydd maint gweithgor yn dibynnu ar ei gylch gwaith, a bydd y cadeirydd yn gyfrifol am gytuno ar hyn gyda'r partneriaid cymdeithasol. Bydd pob partner cymdeithasol yn cadw'r ymreolaeth i benderfynu ar eu haelodaeth o weithgorau unigol.

23. Bydd disgwyl i weithgorau roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithgarwch ym mhob cyfarfod Fforwm. Gall yr allbynnau gynnwys, ymhlith elfennau eraill, gweminarau, adroddiadau/canllawiau, digwyddiadau bord gron a gweithdai.

Cyfarfod Blynyddol Wyneb yn Wyneb

24. Bob blwyddyn bydd y Fforwm yn cynnal cyfarfod llawn o'r corff newydd a bydd yn gwahodd aelodau o'r gweithgorau sy'n bodoli ar y pryd. Gellir gwahodd Gweinidogion sydd â'r portffolio perthnasol ar gyfer eitemau agenda perthnasol, ond ni fyddent yn cadeirio'r cyfarfod. Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i arddangos gwaith partneriaeth gymdeithasol, cael cyflwyniadau gan y gweithgorau, a rhwydweithio. Rhoddir diweddariad cryno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol at ddibenion rhannu arferion da, gwaith ymchwil a'r hyn a ddysgwyd.

Y Tîm Cymorth

25. Bydd Tîm Cymorth yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth llawn i'r Fforwm. Bydd hyn yn cynnwys drafftio papurau, llunio agenda a chofnodi cofnodion cyfarfodydd. Bydd y nodyn o'r cyfarfod yn cofnodi'r pwyntiau trafod allweddol ac unrhyw gamau gweithredu, a chaiff ei gyhoeddi 7 diwrnod gwaith ar ôl pob cyfarfod.

26. Bydd y Tîm Cymorth yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth sylfaenol ar gyfer y gweithgorau, a ddiffinnir fel trefniadau ymarferol, cymryd cofnodion a chefnogaeth gyffredinol i'r cadeirydd. Disgwylir i aelodau'r gweithgorau hyn (gan ymgynghori â'r cadeirydd) lunio eu hagendâu eu hunain a datblygu papurau yn ôl yr angen.

Cyfrinachedd, buddiannau, y cyfryngau

27. Bydd angen datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod. Efallai y daw ceisiadau am wybodaeth ynghylch dogfennau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os daw ceisiadau o'r fath i law, dilynir proses safonol Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru.

Adolygu

28. Ar ôl 12 mis, caiff gweithgarwch y Fforwm ei adolygu gan aelodau yn y cyfarfod blynyddol wyneb yn wyneb, i sicrhau bod ei weithgareddau, ei drefniadau a'i ffyrdd o weithio yn parhau i fod yn briodol. Caiff y cylch gorchwyl ei hun hefyd ei adolygu unwaith y bydd y Fforwm ar waith i sicrhau ei fod yn parhau'n addas i'r diben.