Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru.

Cyflwyniad

Trefnir Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru (y Fforwm) gan Lywodraeth Cymru ac mae'n darparu arweiniad a chydlyniant wrth fynd i'r afael â phob math o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru.

Diben

Mae’r Fforwm yn dwyn ynghyd sefydliadau traws-sector i alluogi dull mwy integredig o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithio i atal caethwasiaeth fodern
  • gweithio i adnabod a chefnogi dioddefwyr posibl, dioddefwyr a goroeswyr o bob cefndir, gan gydnabod anghenion gwahanol
  • gweithio i gael gwared ar gamfanteisio mewn cadwyni cyflenwi

Cyfarfodydd a ffyrdd o weithio

Fel arfer, bydd y Fforwm yn cyfarfod bob chwarter. Os bydd angen, bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnull. Cynhelir y cyfarfodydd yn rhithiol gan ddefnyddio Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddarparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Fforwm, a bydd:

  • yn trefnu cyfarfodydd
  • yn comisiynu ac yn dosbarthu papurau
  • yn cynnal proses i dracio’r camau gweithredu
  • yn cofnodi a rhannu cofnodion.

Pennir strwythur y cyfarfodydd ymlaen llaw gan y cadeirydd. Gallai eitemau ar yr agenda gynnwys diweddariadau ar lafar, cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd a thrafodaethau ar faterion cyfoes.

Cynghorir yr aelodau i gysylltu â'r ysgrifenyddiaeth ynghylch unrhyw ofynion hygyrchedd. O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu dewis iaith aelodau.

Disgwylir i'r holl aelodau ymddwyn yn unol â’r pwyntiau canlynol sydd; i fod yn sail i ffyrdd agored a chydweithredol o weithio:

  • cydnabyddiaeth gilyddol o fuddiannau dilys ac a allai wrthdaro
  • ceisio cydweithredu a chonsensws lle bo modd
  • sicrhau bod gan bob aelod lais a chyfle cyfartal i gymryd rhan

Cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau

Bydd pob aelod yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gofynion cyfrinachedd angenrheidiol yn cael eu cynnal. Mae hyn yn golygu os yw'r cadeirydd neu aelodau eraill yn cynghori bod dogfennau neu wybodaeth sy'n cael eu rhannu â'r grŵp yn sensitif a chyfrinachol, rhaid peidio â rhannu’r wybodaeth neu’r ddogfen â neb y tu allan i’r Fforwm. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddarperir ar lafar yn ogystal ag yn ysgrifenedig.

Gall gwaith y Fforwm fod yn ddarostyngedig i ofynion rhyddid gwybodaeth a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pan fydd ceisiadau o'r fath yn dod i law, bydd gweithdrefnau safonol Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn.

Mae pob aelod yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wirioneddol yn cael eu dwyn i sylw'r cadeirydd.

Aelodaeth

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gadeirio’r Fforwm a darparu’r ysgrifenyddiaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw rhestr gyfredol o sefydliadau sy’n aelodau a'u cynrychiolwyr sefydlog. Gwahoddir sefydliadau o’r sectorau canlynol i fod yn aelodau:

  • Y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru
  • Llywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Partneriaethau gwrthgaethwasiaeth rhanbarthol
  • Strwythurau partneriaeth cysylltiedig (megis y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol)
  • Cyrff gorfodi'r gyfraith a gorfodi'r farchnad lafur
  • Y trydydd sector
  • Undebau llafur a phartneriaid cymdeithasol cyflogwyr
  • Sefydliadau academaidd ac ymchwil
  • Sefydliadau rhyngwladol
  • Comisiynwyr
  • Unrhyw sefydliad arall a gaiff ei ystyried yn briodol

 Bydd sefydliadau sy’n aelodau yn penodi cynrychiolydd sefydlog a fydd yn cynrychioli barn eu sefydliad.

Gall dirprwyon enwebedig ddod i’r cyfarfodydd os yw’r cadeirydd yn cytuno ar hynny. Os digwydd hynny, dylai’r dirprwyon sicrhau eu bod yn dilyn proses briodol i friffio'r cynrychiolydd sefydlog ar ôl bod yn bresennol yn y cyfarfod.

Gall sefydliadau ac unigolion ddod i’r cyfarfodydd os yw’r cadeirydd yn cytuno ar hynny. Wrth gymryd rhan, mae’r cyfryw sefydliadau ac unigolion yn cytuno i gydymffurfio â’r cylch gorchwyl hwn.

Gweithgorau Thematig

Bydd pedwar gweithgor thematig yn cefnogi gwaith y Fforwm:

  • Grŵp Hyfforddi ac Ymwybyddiaeth i ymgymryd â gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth a chynyddu sgiliau pobl mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern.
  • Grŵp Atal i ymgymryd â gweithgareddau i atal caethwasiaeth fodern rhag digwydd ac i leihau'r risg y bydd pobl yn dioddef o’r drosedd hon neu yn ei chyflawni.
  • Grŵp Goroeswyr a Dioddefwyr i gynnal gweithgareddau i gefnogi a grymuso pobl sydd wedi dioddef caethwasiaeth fodern ac i hyrwyddo lleisiau goroeswyr fel rhan o’r gwaith cynllunio a gweithredu ar atal caethwasiaeth yng Nghymru.
  • Grŵp Rhyngwladol a Chadwyni Cyflenwi i ymgymryd â gweithgareddau i gefnogi sefydliadau wrth fynd i'r afael â risgiau camddefnyddio’r farchnad lafur ac arferion cyflogaeth anfoesegol yn eu gweithrediadau a'u cadwyni cyflenwi, ac i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol.

Bydd pob gweithgor thematig yn nodi ei flaenoriaethau allweddol ac yn hysbysu’r Fforwm. Bydd hyn yn sail i Gynllun Cyflawni’r Fforwm. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n cadeirio’r gweithgorau thematig ddarparu adroddiad cynnydd ar lafar ac yn ysgrifenedig yn rheolaidd.

Gall Llywodraeth Cymru sefydlu gweithgorau thematig ychwanegol, ail-strwythuro'r rhai presennol, eu huno neu eu diddymu, fel y'u hystyrir yn ddefnyddiol neu'n angenrheidiol.

Llywodraethu ac adrodd

Bydd gan y Fforwm Gynllun Cyflawni a fydd yn nodi ei flaenoriaethau, sy’n cael eu pennu yn unol â gwaith y gweithgorau thematig.

Bydd cadeirydd y Fforwm yn rhoi adroddiad i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Gall y diweddariadau ar waith y Fforwm fod yn rhan o waith adrodd ehangach, fel y bo'n briodol.

Atodiad: Cyd-destun Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd a ddiffinnir yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015 fel caethwasiaeth, caethwasanaeth domestig, llafur gorfodol a llafur dan orfodaeth a masnachu pobl. Mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi, eu bygwth, neu eu twyllo i sefyllfaoedd lle maent yn cael eu darostwng, eu diraddio a’u rheoli sy'n tanseilio eu hunaniaeth bersonol a'u synnwyr o’u hunan-werth, yn mynd yn groes i’w hawliau dynol, ac yn achosi effeithiau niweidiol hirhoedlog. Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys camfanteisio ar blant ac oedolion. Mae gwahanol fathau o gymorth ar gael, a gwahanol brosesau a gofynion cydsynio ar gyfer mynd i mewn i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer plant ac oedolion.

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd gymhleth sy'n cynnwys:

  • Camfanteisio yn y farchnad llafur, lle mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio mewn sefyllfa sy’n camfanteisio arnynt ac un na allant adael o’u gwirfodd am gyflogaeth arall na dewis dros eu hunain.
  • Caethwasaneth domestig, sydd fel arfer yn cynnwys dioddefwyr sy'n gweithio mewn cartref teuluol preifat lle gallent gael eu trin yn wael/greulon, eu bychanu, ac yn destun amodau neu oriau gwaith annioddefol, neu gael eu gorfodi i weithio am gyflog isel iawn neu am ddim. 
  • Camfanteisio troseddol, lle mae dioddefwyr yn cael eu hecsbloetio a'u gorfodi i gyflawni trosedd er mwyn i rywun arall elwa.
  • Camfanteisio rhywiol, lle mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i gael rhyw a gwneud gweithgareddau rhywiol neu eu gorfodi i sefyllfaoedd o gam-drin rhywiol.

Mae mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru yn gofyn am ymateb amlasiantaethol wedi'i gydlynu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi swyddogion i gydlynu gwaith ar gaethwasiaeth fodern ers 2011, ac mae wedi trefnu strwythur llywodraethu cenedlaethol ar gyfer caethwasiaeth fodern ers 2013.

Mae mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yn gofyn am weithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban ac Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda swyddfa'r Comisiynydd Annibynnol ar Wrthgaethwasiaeth.