Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr aelodaeth yn cynnwys sefydliadau sy'n adlewyrchu cwmpas a gorwelion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Mae'r aelodau o'r fforwm wedi eu dewis o wahanol sectorau, gyda'r nod o ddarparu cydbwysedd rhwng sefydliadau sy'n gweithio ar draws yr agweddau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â chydbwysedd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Ymhlith yr aelodau y mae:

  • Cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Lleol (gwahoddiad drwy Gydffederasiwn GIG Cymru)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (x1 cadeirydd)
  • TUC Cymru
  • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
  • Rhwydwaith Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (Rhwydwaith prifysgol ar Ddatblygu Cynaliadwy)
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Anabledd Cymru
  • Cynghrair Hil Cymru
  • Ffederasiwn Busnesau Bach
  • CBI Cymru
  • Cynrychiolydd Awdurdod Lleol (drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cyd-gynhyrchu Cymru
  • Cynnal Cymru
  • Un Llais Cymru
  • Busnes yn y Gymuned
  • Plant yng Nghymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Aelodau ad hoc ychwanegol

Yn dibynnu ar y pwnc dan sylw, gellir estyn gwahoddiad i unigolion eraill gymryd rhan yn y fforwm neu draddodi iddo.

Gwahoddir Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru i gymryd rhan yn y fforymau hyn o ystyried eu rôl statudol mewn cysylltiad â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Estynnir gwahoddiad i Gomisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd, ond byddant yn cymryd rhan ar wahân ar ben hynny drwy drefniadau sydd eisoes ar waith.