Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

Gofynnir i’r Grŵp Llywio roi eu barn ar werth fframwaith cenedlaethol a’i gynnwys posibl.

Pam sefydlu fframwaith cenedlaethol?

Cynigir sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol i ddisgrifio dull gweithredu Cymru o ran datblygu economaidd rhanbarthol. Gall roi disgrifiad o sut y bydd gwahanol bartneriaid yn cydweithio i fuddsoddi mewn rhanbarthau ac adnabod amcanion a rennir.

Yn benodol, gall helpu i ddatblygu dimensiwn rhanbarthol y Cynllun Gweithredu Economaidd ymhellach. Gall hyn, yn ei dro, helpu i arwain buddsoddiadau rhanbarthol drwy’r cynlluniau economaidd rhanbarthol (gweler y diagram isod). Wrth wneud hynny, gall roi eglurder ar y gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau ar gyfer pob lefel o lywodraethu, a dulliau gweithredu cyffredin y cytunwyd arnynt (fel ar gyfer rheoli perfformiad neu leiafswm gofynion sicrwydd).

Mae dogfen ddrafft wedi’i hamgáu gyda’r papur hwn, er mwyn sbarduno trafodaeth. Mae’r ddogfen amgaeedig yn cynnig un strwythur posibl ar gyfer cynnwys fframwaith cenedlaethol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol.

Image
Policy Framework for Regional Investment after Brexit

Pwrpas y fframwaith cenedlaethol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol

Mae gan y fframwaith y potensial i ddarparu:

  • Sylfaen dystiolaeth fanwl ac archwilio cyfleoedd a heriau economaidd craidd Cymru a’i rhanbarthau ymhellach, yn enwedig y rhai a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi
  • Set o amcanion cenedlaethol a rennir i helpu i gyfeirio buddsoddiad rhanbarthol ar lefel genedlaethol a darparu ffocws ar gyfer cynlluniau buddsoddi rhanbarthol, gan ddarparu ‘edefyn aur’ rhwng buddsoddiadau rhanbarthol a’r Canlyniadau Llesiant
  • Disgrifiad o ddulliau, rolau a chyfrifoldebau cydlynu a llywodraethu cenedlaethol a rhanbarthol, er mwyn hybu gwaith cenedlaethol-rhanbarthol, trawsffiniol a rhyngranbarthol

Defnyddio arfer gorau

Mae strwythur y drafft hwn yn cynnwys y gofynion a nodwyd yng nghynigion fframweithiau ehangach a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu buddsoddiad yn y rhanbarthau, fel Cynlluniau Datblygu Economaidd / Strategaethau Diwydiannol Lleol yn Lloegr neu’r Cynlluniau Adfywio yng Nghymru. Fel hyn, dylai’r fframwaith fod â sawl swyddogaeth bosibl, yn ogystal â manteisio ar arfer gorau yn rhyngwladol:

  • Bydd y strwythur wedi’i alinio yn agos â’r cynlluniau economaidd rhanbarthol a ddisgrifiwyd dan y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, a bydd eu datblygiad yn cael eu defnyddio i ategu’r fframwaith cenedlaethol, ac fel arall.
  • Dylai’r strwythur ddiffinio’r amcanion ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru, gan ddarparu dewis hyblyg ar gyfer blaenoriaethu buddsoddiadau (fel cyllid newydd yn lle cyllid UE yng Nghymru).
  • Dylai hefyd ddiwallu’r gofynion eang i flaenoriaethu’r ardaloedd sy’n ceisio mynediad at gyllid Llywodraeth y DU, fel ymchwil seiliedig ar leoliad a chyllid arloesi a reolir gan UKRI.
  • Bydd angen adlewyrchu’r nodweddion gorau o’r dull UE, fel sylfaen dystiolaeth gref a gwaith partneriaeth, a fydd hefyd yn darparu ar gyfer yr ystod ehangaf posibl o wahanol sefyllfaoedd Brexit.

Ychwanegu gwerth

Nid bwriad y fframwaith cenedlaethol yw ceisio disodli’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ond yn hytrach darparu tystiolaeth ychwanegol i ehangu ar ei themâu craidd a’i alwadau i weithredu. Bydd hefyd yn ceisio defnyddio arfer gorau o gyllid UE yng Nghymru.

Dylai’r fframwaith cenedlaethol fod yn ganolwr rhwng y canlyniadau cenedlaethol sydd gennym eisoes ar gyfer llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru – y nodau llesiant – a’r cynlluniau gweithredu ar gyfer penderfyniadau ariannu ar lefel cenedlaethol a rhanbarthol (fel y dangoswyd yn y ffigur addasrwydd polisi uchod).