Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu mae llywodraeth cymru yn eu hystyried, a pham?

Cefndir

Fel pob gwlad, mae Cymru’n wynebu ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau [troednodyn 1] parhaus mewn sawl maes, gan gynnwys iechyd a llesiant. Mae gwahaniaethau daearyddol, demograffig ac iechyd yn cael eu hachosi gan benderfynyddion ehangach fel tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol. Mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd a’r perygl o fod yn agored i niwed sy’n bodoli eisoes, gan arwain at farwolaethau gormodol, mwy o achosion o glefydau mwy difrifol, yn ogystal â gwaethygu caledi cymdeithasol ac economaidd ar gyfer y bobl fwyaf difreintiedig.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm cyffredinol sy’n disgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Mae asedau cymunedol yn cynnwys grwpiau, ymyriadau a gwasanaethau cymunedol y gellid eu darparu ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag adeiladau, tir neu hyd yn oed unigolyn mewn cymuned.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl o bobl oedran a chefndir â’u cymuned er mwyn rheoli eu hiechyd a’u llesiant yn well. Gall helpu i rymuso unigolion i adnabod eu hanghenion, eu cryfderau, a’u hasedau personol eu hunain a chysylltu â’u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda’u hiechyd a’u llesiant.

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn a gwella iechyd a lles meddyliol, ac un o’r camau gweithredu yw ‘cyflwyno fframwaith ar gyfer Cymru gyfan i roi presgripsiynu cymdeithasol ar waith er mwyn mynd i’r afael ag ynysigrwydd’, er bod llawer mwy o fanteision posibl i bresgripsiynu cymdeithasol na mynd i’r afael ag ynysigrwydd yn unig.

Yn ogystal, mewn cyd-destun deddfwriaethol a strategol, mae egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol, megis dull ataliol cynnar o wella iechyd a llesiant pobl, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chryfhau cydlyniant cymunedol, yn gyson â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; a’n cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ‘Cymru Iachach'.

Mae’n rhan annatod o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i rymuso pobl a chymunedau, waeth a yw’n rhan o’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, y chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, neu Cysylltu Cymunedau, ein strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Nid yw presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru yn rhywbeth newydd. Mae ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol wedi’u datblygu a’u sefydlu mewn dull o’r bôn i’r brig ledled Cymru, gyda darparwyr unigol dan gontract, clystyrau sy’n ymwneud â gofal iechyd, y trydydd sector a sefydliadau statudol yn datblygu modelau cyflenwi gwahanol.

Mae disgwyliadau’n uchel ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol gan ei fod yn cael ei ystyried yn un o’r atebion i:

  • wella iechyd a llesiant unigolion
  • lleihau anghydraddoldebau
  • lliniaru effaith penderfynyddion cymdeithasol ar iechyd
  • cefnogi adferiad o effeithiau andwyol COVID-19

Er bod manteision presgripsiynu cymdeithasol yn eang, mae agweddau a nodir yn aml yn cynnwys gwella llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Mae hyn yn cwmpasu agweddau ar iechyd seicogymdeithasol [troednodyn 2], ffyrdd o fyw a mathau o ymddygiad iach, ymgysylltiad cymdeithasol, ac unigolion yn rheoli cyflyrau hirdymor eu hunain [troednodyn 3].

Yn wir, mae’n bosibl y bydd cysylltu pobl â’u cymuned yn arwain at amrywiaeth eang o fanteision. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod pobl sy’n unig neu wedi’u hynysu’n gymdeithasol mewn mwy o berygl o fod yn anweithgar, o gael clefyd y galon, strôc a phwysedd gwaed uchel, ac o farw cyn pryd. Hefyd, maen nhw’n fwy tebygol o brofi iselder, hunan-barch isel, problemau cysgu ac ymateb cynyddol i straen. 

Mae cysylltiad rhwng iechyd a llesiant a chyflogadwyedd hefyd. Gall presgripsiynu cymdeithasol helpu pobl i sicrhau cyflogaeth trwy greu cyfleoedd i wella iechyd a llesiant; gwella sgiliau, hyder a rhwydweithio; a rhoi cymorth uniongyrchol i bobl i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli a sefydliadau sy’n gallu eu helpu i wneud ceisiadau am swyddi. Yn yr un modd, mae’n gallu cysylltu pobl ag asedau cymunedol sy’n cynnig cyngor ariannol a thai i helpu i leddfu pryderon ariannol.

Gall helpu i gryfhau cysylltedd a chydlyniant cymunedol arwain at fanteision i’r gymuned ehangach, sy’n un o ffactorau allweddol ein gweledigaeth Cymru Garedig "i fod yn genedl ystyriol a gofalgar sy’n dod ynghyd i ddatblygu dulliau tosturiol i gefnogi iechyd a lles pobl”. Hefyd, mae ein fframwaith trawma yn dadlau o blaid dull cymdeithasol sy’n deall, yn atal ac yn cefnogi effeithiau trawma ac adfyd.

Hefyd, gallai greu cysylltiad mwy ystyrlon i bobl â byd natur a’u helpu i werthfawrogi cyfraniad diwylliant at gefnogi eu llesiant, gan wneud iddynt werthfawrogi asedau cymunedol hyd yn oed yn fwy. Yn yr un modd, mae manteisio ar gyfleoedd i fod yn gorfforol egnïol yn arwain at fanteision lluosog i iechyd corfforol a lles meddyliol, a gallai ddarparu cyfleoedd ar gyfer cydlyniant cymunedol cryfach.

Yn ogystal, gall presgripsiynu cymdeithasol gyflwyno llwybr sefydledig i unigolion nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau prif ffrwd o bosibl neu sy’n wynebu stigma o ran ailymuno â’r gymuned, er enghraifft rhai â hanes o ddigartrefedd neu gamddefnyddio sylweddau. Mae ailgyflwyno pobl sy’n perthyn i grwpiau sydd wedi’u stigmateiddio yn codi ymwybyddiaeth o adferiad hefyd, a gallai leihau’r rhagdybiaethau negyddol am bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.

Y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi tyfu a datblygu dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, bu diffyg safoni a chysondeb yn y derminoleg sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol a’r model sydd wedi’i fabwysiadu. Mae hyn wedi arwain at ddryswch ynglŷn â manteision presgripsiynu cymdeithasol i’r cyhoedd ac i’r gweithlu sy’n darparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol neu sy’n dod i gysylltiad â nhw. Mae hyn wedi cael effaith negyddol ar brosesau cyfathrebu rhwng sectorau, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Nod y fframwaith yw disgrifio’r model a ffefrir ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol, a cheisio sicrhau cysondeb o safbwynt darpariaeth ym mhob lleoliad.

Bydd y fframwaith yn cynnwys nifer o adnoddau a dogfennau canllaw sydd wedi neu sydd i’w cyd-gynhyrchu â rhanddeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolwyr o bartneriaid a darparwyr cyflenwi.

Nid yw’n bwriadu pennu sut mae gwaith presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei wneud mewn cymunedau gwahanol, ond yn hytrach mae’n ceisio helpu i ddatblygu’r gwaith trwy gyflwyno safonau effeithiol o ansawdd uchel ledled y ‘system gyfan’.

Dyma amcanion craidd y fframwaith:

  • datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r iaith a ddefnyddir a’r dull o ddarparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru
  • cefnogi’r gweithlu presgripsiynu cymdeithasol a datblygu gwybodaeth a sgiliau
  • sicrhau ansawdd darpariaeth asedau cymunedol
  • monitro a gwerthuso datblygiad gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol wrth iddynt barhau i dyfu ledled Cymru
  • gwella canlyniadau i unigolion, sefydliadau, comisiynwyr ac atgyfeirwyr

Atebolrwydd

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn atebol am ddarparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Bydd comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau yn atebol am roi’r fframwaith cenedlaethol ar waith.

Hirdymor

Bydd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddatblygu yn unol â’r amcanion llesiant a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r dull gweithredu hwn yn cynnwys cydymffurfiaeth ag amcanion ‘Cymru gydnerth’; ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’; ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’; a ‘Cymru iachach’.  
 
Mae datblygu a chyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy geisio sicrhau Cymru iachach. Bydd y broses o gyflwyno fframwaith cenedlaethol yn helpu i gyfrannu at y nod o sicrhau cymdeithas lle y manteisir i’r eithaf ar lesiant corfforol a meddyliol pobl a lle y deellir dewisiadau a mathau o ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Mae’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei lunio ar y cyd ag amryw o adrannau Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol, gyda’r nod o sicrhau ei fod yn addas i’r diben yn yr hirdymor. Bydd y gwaith o ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol yn pontio tymor y Senedd ac yn defnyddio dulliau cydweithredu â rhanddeiliaid er mwyn cynorthwyo rhaglen waith sy’n helpu i roi’r fframwaith ar waith. Mae modd defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac i hyrwyddo llesiant ac atal datblygiad clefydau anhrosglwyddadwy.

Bydd y fframwaith cenedlaethol yn helpu i fesur tystiolaeth yn systematig er mwyn deall pa ymyriadau sy’n gweithio a sut i’w gwella. Bydd hyn yn cynorthwyo gwaith cynllunio a gweithredu hirdymor ac yn helpu i sicrhau cysondeb o ran y mathau o wasanaethau sydd ar gael, gan helpu i wirio ansawdd yr hyn sy’n cael ei ddarparu.

Atal

Atal yw un o egwyddorion allweddol presgripsiynu cymdeithasol, ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig at helpu i newid y pwyslais oddi wrth drin salwch tuag at hyrwyddo llesiant gwell, cefnogi pobl yn eu cymunedau i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain a chynorthwyo’r agenda ataliol ehangach. Hefyd, mae COVID-19 wedi dod ag anghydraddoldebau iechyd presennol i’r amlwg ynghyd â’r angen am gamau gweithredu mewn sawl ymyriad gwella iechyd, megis rhoi’r gorau i ysmygu a gwasanaethau rheoli pwysau. Mae mabwysiadu presgripsiynu cymdeithasol yn gallu helpu i dargedu achosion afiechyd trwy gyfeirio pobl at y ffynonellau cywir o gymorth cymunedol/anghlinigol. Yn ogystal, trwy gynnwys pobl yn y gwaith o ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol a’r nodau cyflawnadwy cysylltiedig, bydd yn meithrin mwy o ymdeimlad o berchnogaeth o’r materion y mae’r fframwaith yn ceisio eu datrys.

O safbwynt iechyd, mae’r achos dros gymorth anfeddygol trwy ddull presgripsiynu cymdeithasol yn glir. Gall presgripsiynu cymdeithasol wella lles meddyliol, lleihau pryder ac iselder, gwella hunan-barch, lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd; mae’n gallu gwneud cyfraniad hanfodol at gynnal pwysau corff iach, a helpu pobl i fyw’n well, am gyfnod hirach.

Integreiddio

Mae’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddatblygu ar draws y Llywodraeth gyda rhanddeiliaid allanol perthnasol, yn unol â’r amcanion llesiant a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r broses o ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol yn ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad y rhaglen lywodraethu ac mae’n cyd-fynd â nodau llesiant Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, a Chymru â diwylliant bywiog a chymunedau cydlynus. Bydd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn gwneud cyfraniad allweddol at helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, clystyrau a chyrff partneriaeth eraill i gomisiynu a darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd i bobl Cymru.

Cydweithio

Mae gan amrywiaeth eang o bartneriaid ddiddordeb yn y fframwaith cenedlaethol, gan gynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, comisiynwyr, GIG Cymru, cyrff presgripsiynu cymdeithasol, a chyrff sy’n noddi’r celfyddydau, chwaraeon a diwylliant. Mae’r holl bartneriaid wedi helpu i ddatblygu’r fframwaith hyd yma, yn bennaf trwy ein grŵp gorchwyl a gorffen a sesiynau ymgysylltu ychwanegol. 

Yn sylfaen i ddatblygiad y fframwaith cenedlaethol, rydym wedi nodi sawl maes/ffrwd waith allweddol, lle bydd partneriaid yn helpu i ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol fel bod modd darparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru sydd o safon gyson, effeithiol ac ansawdd uchel ledled y ‘system gyfan’. Mae enghreifftiau o’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan bartneriaid yn cynnwys AaGIC sy’n arwain y gwaith o ddatblygu fframwaith cymhwysedd ar gyfer ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol, ac Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu geirfa termau sydd â chysylltiad uniongyrchol ag adborth ymgynghori yn ymwneud â’r angen i safoni iaith sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Er mwyn datblygu’r gwaith hwn, ar ôl i’r Cabinet gymeradwyo strwythur y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol ar 3 Gorffennaf 2023, mae trafodaethau pellach gyda phartneriaid allanol yn parhau ynglŷn â’r ffordd orau o gyd-gynhyrchu holl elfennau eraill y fframwaith cenedlaethol.

Y tu allan i Lywodraeth Cymru, mae presgripsiynu cymdeithasol yn darparu dull cydweithredol i ardaloedd lleol leihau anghydraddoldeb a gwella canlyniadau i bobl wahanol. Yn ogystal, rydym wedi datblygu cynllun cyfathrebu i nodi rhanddeiliaid a sicrhau y bydd casgliad amrywiol o leisiau’n cael eu cynnwys drwyddi draw, yn benodol trwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu ac ymarferiad ymgynghori.

Cyfranogiad

Gan ddefnyddio egwyddorion cenedlaethol Cyfranogaeth Cymru i ymgysylltu â’r cyhoedd, byddwn yn defnyddio ein strategaeth gyfathrebu fel canllaw i sicrhau ein bod yn galluogi ac yn annog, mewn ffordd amserol a hygyrch, pawb perthnasol i helpu i ddatblygu’r fframwaith. Er enghraifft, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i ehangu cwmpas cyfranogiad cyn yr ymgynghoriad, a bu swyddogion yn ymgysylltu â bron i 1,000 o randdeiliaid i ddatblygu model Cymru o bresgripsiynu cymdeithasol a gyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori. Roedd y cyfnod ymgynghori, a gynhaliwyd rhwng 28 Gorffennaf a 20 Hydref 2022, yn defnyddio dulliau amrywiol o ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb ledled y wlad, cyfarfodydd Teams, y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein. Arweiniodd yr ymgysylltiad hwn at dros 190 o ymatebion i’r ymgynghoriad sydd wedi llunio strwythur y fframwaith cenedlaethol yn uniongyrchol, fel y cymeradwywyd gan y cabinet. Bydd gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ôl yr ymgynghoriad yn parhau, a chyfeiriwyd yn benodol at raglen codi ymwybyddiaeth gefnogol sy’n cyd-fynd â datblygu’r fframwaith. Mae ein strwythurau llywodraethu wedi cael eu datblygu i adlewyrchu’n llawn yr holl randdeiliaid amrywiol sy’n cyfrannu at y rhaglen waith hon, a bydd hynny’n parhau i ddigwydd.

Effaith

Nod presgripsiynu cymdeithasol yw grymuso unigolion i adnabod eu hanghenion, eu cryfderau, a’u hasedau personol eu hunain, a chysylltu â’u cymunedau i gael gafael ar gymorth a fydd yn helpu i wella eu hiechyd a’u llesiant. Er enghraifft, gwyddom fod pobl sy’n unig neu wedi’u hynysu’n gymdeithasol mewn mwy o berygl o farw cyn pryd, o fod yn anweithgar, o gael clefyd y galon, strôc a phwysedd gwaed uchel. Hefyd, maen nhw’n fwy tebygol o brofi iselder, hunan-barch isel, problemau cysgu ac ymateb cynyddol i straen.

Trwy ddefnyddio dull ataliol cynnar, mae presgripsiynu cymdeithasol yn gallu helpu i ysgafnhau’r baich ar wasanaethau arbenigol mwy rheng flaen. Mae tystiolaeth amrywiol yn awgrymu bod presgripsiynu cymdeithasol yn lleihau nifer yr ymweliadau â meddygfeydd meddygon teulu rhwng 15% a 28%. Nododd un adolygiad  ostyngiad o 28% ar gyfartaledd yn y galw am wasanaethau meddygon teulu yn dilyn atgyfeiriad [troednodyn 4]. Roedd y canlyniadau’n amrywio o 2% i 70% [troednodyn 5]. Dangosodd astudiaeth dulliau cymysg fod cleifion yn defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol yn llai aml, gyda gostyngiad o 25% mewn apwyntiadau [troednodyn 6]. Roedd canlyniadau gwerthusiad o gynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol Rotherham yn dangos tuedd gyffredinol o lai o ddefnydd o adnoddau ysbytai cyn ac ar ôl presgripsiynu cymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys: cymaint ag 21% yn llai o dderbyniadau cleifion mewnol a gostyngiad o gymaint ag 20% [troednodyn 7] yn nifer y cleifion damweiniau ac achosion brys.

Mae’r dystiolaeth yn amrywio cymaint oherwydd bod effaith presgripsiynu cymdeithasol yn dibynnu ar y math o fodel a ddefnyddir, y gweithwyr cyswllt a’u cefndiroedd, yr ardal, a’r asedau sydd ar gael yn y gymuned. O gofio bod amcangyfrifon yn dangos bod tua 20% o gleifion yn ymgynghori â’u meddyg teulu am yr hyn sy’n broblem gymdeithasol yn bennaf [troednodyn 8], mae’r potensial i bresgripsiynu cymdeithasol leihau’r effaith ar wasanaethau rheng flaen yn amlwg os yw llwybrau amgen ar gael yn haws ac yn ehangach. Bydd elfen set ddata graidd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn ein galluogi i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth a llywio opsiynau ‘buddsoddi i arbed’.

Rydym yn gwybod bod yna gysylltiad hanfodol rhwng iechyd a llesiant a chyflogadwyedd, a’i bod yn bosibl ehangu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol er mwyn helpu pobl i gael cyflogaeth trwy greu cyfleoedd i wella iechyd a llesiant; gwella sgiliau, hyder a rhwydweithio; a rhoi cymorth uniongyrchol i bobl gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli a sefydliadau sy’n gallu eu helpu i gwblhau prosesau ymgeisio am swyddi.

Gall gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol helpu pobl sydd ar restr aros. Mae gwasanaethau byrddau iechyd lleol yn cynnwys enghreifftiau o ddefnyddio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol fel dosbarthiadau celf er mwyn gwella gweithgareddau cymdeithasu a lleihau teimladau o unigrwydd. Hefyd, mae rhai gwasanaethau wedi dechrau cyflwyno dulliau rheoli poen effeithiol mewn lleoliad grŵp cymheiriaid.

Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar reoli cydafiachedd yn pwysleisio pwysigrwydd triniaethau nad ydyn nhw’n rhai ffarmacolegol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol [troednodyn 9]. Canfu adolygiad systematig o 40 astudiaeth o bresgripsiynu cymdeithasol a gynhaliwyd yn y DU fod cyfranogwyr ac atgyfeirwyr wedi cofnodi manteision amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys: cynyddu hunan-barch a hyder; ymdeimlad o hunanreolaeth a grymuso; gwelliannau mewn llesiant seicolegol neu feddyliol; llai o orbryder neu iselder [troednodyn 10]. Nododd adolygiad o 24 o astudiaethau fod rhanddeiliaid fel meddygon teulu a chleifion yn credu bod presgripsiynu cymdeithasol yn gwella lles meddyliol cleifion ac yn lleihau eu defnydd o’r gwasanaeth iechyd, er mai prin yw’r dystiolaeth feintiol i gefnogi hyn [troednodyn 11]. Dangosodd astudiaeth o 342 o gyfranogwyr ar gynllun presgripsiynu cymdeithasol yng ngogledd Lloegr fod lleisiant wedi gwella a bod lefelau iechyd a chyswllt cymdeithasol wedi gwella [troednodyn 12]. Hefyd, gwelwyd lefelau is o unigrwydd mewn gwerthusiad o wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol a ddarparwyd gan y Groes Goch Brydeinig yn y DU, gyda 72% o’r cyfranogwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n llai unig ar ôl derbyn cymorth [troednodyn 13].

Fel rhan o gynlluniau Cymdeithas Feddygol Prydain i feddygfeydd fod yn garbon niwtral o fewn 10 mlynedd, nodir bod gan bresgripsiynu cymdeithasol y potensial i wella iechyd a llesiant cleifion yn ogystal â lleihau ymweliadau â meddygfeydd a lleihau’r defnydd o’r GIG yn ehangach. Bydd lleihau carbon trwy wneud llai o deithiau i feddygfeydd teulu, lleihau nifer y cleifion allanol sy’n cael eu derbyn i ysbytai ac yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, yn cyfrannu at wella ansawdd aer ac iechyd unigolion, ac yn cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth iechyd.

Mae’n bosibl y bydd manteision i’r gymuned ehangach hefyd gan y gallai’r model helpu i gryfhau cysylltedd a chydlyniant cymunedol, sy’n ffactor allweddol yn ein gweledigaeth Cymru Garedig "i fod yn genedl ystyriol a gofalgar sy’n dod ynghyd i ddatblygu dulliau tosturiol i gefnogi iechyd a lles pobl".

Hefyd, gallai roi cysylltiad mwy ystyrlon i bobl â byd natur a gwerthfawrogiad o rôl diwylliant wrth gefnogi eu llesiant, gan wneud iddyn nhw werthfawrogi’r asedau cymunedol pwysig hyn yn fwy fyth.

Yn ogystal, gall presgripsiynu cymdeithasol gyflwyno llwybr sefydledig i unigolion a allai fel arall fod yn wynebu stigma o ran ailymuno â’r gymuned, er enghraifft rhai â hanes o ddigartrefedd neu gamddefnyddio sylweddau. Mae ailgyflwyno pobl o grwpiau a fu ar yr ymylon yn draddodiadol yn codi ymwybyddiaeth o adferiad hefyd, a gallai leihau’r rhagdybiaethau negyddol am bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.

Hefyd, bydd datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn cynorthwyo byrddau iechyd lleol i arfer eu swyddogaethau er mwyn ceisio sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd, yn unol ag adran 12A o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ("Deddf 2006”).

Costau ac arbedion

O 2023 i 2024 ymlaen, mae’r gyllideb a’r costau dangosol fel a ganlyn:

  • Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gwerth £144.6m y flwyddyn yn darparu cymorth uniongyrchol i ddatblygu chwe model cenedlaethol o ofal integredig, gan gynnwys buddsoddiad uniongyrchol mewn modelau presgripsiynu cymdeithasol sy’n rhan bwysig o’r modelau gofal sy’n seiliedig ar le rydym yn ceisio eu sefydlu fel rhan o Lasbrint System Gofal Cymunedol Integredig.
  • Mae cyfanswm o £750,000 o’r gyllideb bresennol wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith presgripsiynu cymdeithasol o’r gyllideb Gwella Iechyd a Chymru Iach ar Waith (BEL 0231) dros dair blynedd ariannol: 2022 i 2023 £0.250m; 2023 i 2024 £0.250m; a 2024 i 2025 £0.250m i gefnogi’r rhaglen waith sydd ei hangen i ddatblygu a chyflwyno’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.
  • Gellid lleihau costau trwy gynnwys a chydweithio â rhanddeiliaid allweddol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru ac AaGIC, a fydd yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith i ddatblygu agweddau ar y fframwaith.

Mecanwaith

Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei chynnig, dim ond canllawiau ac o bosibl cyllid ar gyfer datrysiadau technolegol.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cyfrannu at y gwaith o’i ddatblygu?

Mae’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol wedi cael ei ddatblygu trwy weithio’n agos gyda’r sector gofal sylfaenol, byrddau iechyd, GIG Cymru, y trydydd sector, cyrff cyhoeddus perthnasol eraill, dinasyddion Cymru, a rhanddeiliaid allweddol sydd â rôl mewn darparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol neu ddiddordeb yn y maes.

Cyn yr ymgynghoriad ffurfiol, datblygwyd a phrofwyd y model person drafft oddi mewn i’r fframwaith cenedlaethol mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid, sydd wedi’u nodi yn ein Strategaeth Gyfathrebu. Yn ogystal, roedd rhanddeiliaid y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cymryd rhan ac yn cyfarfod yn rheolaidd rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2022. Cafwyd ymgysylltiad manwl â’r canlynol:

  • GIG Cymru
  • cynrychiolwyr gofal sylfaenol
  • Parc Rhanbarthol y Cymoedd
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • swyddogion llywodraeth y DU/llywodraethau datganoledig
  • colegau brenhinol
  • cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
  • arweinwyr polisi byrddau iechyd
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • partneriaid haen 0 / trydydd Sector

Trwy ein hymgysylltiad rydym wedi gallu sicrhau ein bod wedi clywed barn plant a’u cynrychiolwyr, pobl â nodweddion gwarchodedig a siaradwyr Cymraeg.

Ymgysylltodd swyddogion â bron i 1,000 o randdeiliaid i ddatblygu model presgripsiynu cymdeithasol i Gymru a gyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 28 Gorffennaf a 20 Hydref 2022, a daeth dros 190 o ymatebion i law, sydd, ynghyd ag adborth a dderbyniwyd trwy ddigwyddiadau rhanddeiliaid ar-lein a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, wedi cael dylanwad uniongyrchol ar y fframwaith cenedlaethol arfaethedig. Yn ogystal, bu cyfres o gyfarfodydd cadarnhaol ac adeiladol rhwng swyddogion ar draws y Llywodraeth i ddeall a datblygu meysydd cydweithio posibl.

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Nod y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yw sicrhau bod modd darparu gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru o safon gyson ac effeithiol o’r radd flaenaf ledled y ‘system gyfan’. Bydd y fframwaith cenedlaethol yn cynnwys cyfres o safonau, canllawiau a chamau gweithredu a ddatblygir ar lefel genedlaethol i sicrhau cysondeb o ran cyflawni ar lefel leol. Bydd yn helpu i lywio unrhyw atebion technolegol sydd angen eu datblygu ac yn helpu i ymwreiddio gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol mewn ardaloedd lle nad ydynt yn bodoli neu lle mae angen eu datblygu ymhellach. 

Bwriedir i’r broses o ddefnyddio’r fframwaith i gyflwyno gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol gael yr effeithiau cadarnhaol canlynol:

  • cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i ffocws ar adeiladu Cymru iachach, fwy cyfartal a mwy cydnerth
  • mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd er mwyn hybu iechyd a llesiant gwell, sydd yn ei dro â’r potensial i leihau anghydraddoldebau iechyd presennol
  • newid y pwyslais oddi wrth drin salwch tuag at hyrwyddo llesiant gwell, cynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd eu hunain i raddau mwy ac ategu’r agenda atal ehangach
  • cynyddu lefelau mabwysiadu ffyrdd iach o fyw, a mynd i’r afael â mathau o ymddygiad afiach fel defnyddio alcohol a chamddefnyddio sylweddau
  • datblygu cadernid cymunedol
  • lleihau ôl troed carbon gofal sylfaenol, o bosibl trwy leihau’r defnydd o ofal eilaidd a meddyginiaeth
  • darparu dull atgyfeirio i ymateb i achosion cymdeithasol anghydraddoldebau iechyd ar lefel unigol, gan gynnwys y rhai a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig: 

Mae’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol wedi’i ddatblygu yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn wedi sicrhau bod y fframwaith cenedlaethol yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo’r amcanion llesiant a’r saith nod llesiant yn llawn.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod ei bod yn hanfodol bwysig sicrhau bod gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yn hygyrch i bawb yng Nghymru, yn hytrach na chael eu darparu mewn ffordd sy’n eu gwneud yn hygyrch i grwpiau neu garfannau bach o’r boblogaeth. Gan ein bod yn datblygu ac yn cyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, rydym yn cydnabod y bydd y grwpiau / anghydraddoldebau iechyd a allai gael eu heffeithio gan wasanaeth penodol yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth, ac o ranbarth i ranbarth. Rydym wedi ystyried y ffactorau amrywiol y bydd angen eu hystyried wrth ddatblygu’r fframwaith, a byddwn yn ymgynghori ar beth arall y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â phryderon hygyrchedd. Yn y pen draw, nod y gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol eu hunain yw lliniaru’r risg y gallai’r gwasanaeth cenedlaethol a’i wasanaethau waethygu anghydraddoldebau iechyd.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Ni fydd y fframwaith cenedlaethol i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yn rhywbeth sy’n creu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol Cymru gyfan sy’n pennu sut i ddarparu gwasanaethau. Trwy’r fframwaith cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i helpu i gefnogi a chynyddu gwasanaethau, a helpu i’w sefydlu os nad ydynt yn bodoli eisoes. Bydd y fframwaith cenedlaethol, sy’n cael ei gyd-gynhyrchu gennym ni a rhanddeiliaid, yn hwyluso hyn. Y nod yw helpu i ddwyn pawb sy’n ymwneud â’r gwaith hwn ynghyd, boed yn fyrddau partneriaeth rhanbarthol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a’r trydydd sector.

Bydd y gwaith o ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol yn mynd rhagddo yn ystod tymor y Senedd (2021 i 2026). Trwy gydol y cyfnod hwn, bydd adborth o’r ymgynghoriad yn llywio’r broses o ddatblygu’r fframwaith, a bydd deialog yn parhau gyda’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i ddatblygu canllawiau comisiynu a setiau data craidd y fframwaith cenedlaethol, gan gefnogi’r ffordd orau o fonitro a gwerthuso cynnydd.

A. Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

1. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Mae Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru yn darparu gwybodaeth am effeithiau byd-eang COVID-19, gan amlinellu’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar blant. Er enghraifft:

Mae unigolion o gefndir incwm isel yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan faich dwbl, iechyd ac ariannol. Mae ansicrwydd ariannol yn arwain at ansicrwydd bwyd, yn cael effaith niweidiol ar ddatblygiad a llesiant plant.

Mae plant o gefndiroedd difreintiedig wedi cael eu taro’n galetach gan y pandemig oherwydd diffyg adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu cynnydd dysgu.

Mae 28% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol.

Mae yna lawer o bobl yng Nghymru o hyd sy’n parhau i fod wedi’u hallgáu yn ddigidol, gan gynnwys oedran hŷn, y rhai ar incwm isel, a phlant a phobl ifanc o aelwydydd difreintiedig.

Mae plant ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl yn fwy tebygol o gael eu heffeithio a chael effeithiau negyddol tymor hwy oherwydd diffyg cefnogaeth.

Bydd datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar bob person yng Nghymru, beth bynnag fo’u hoedran a’u cefndir, gan gynnwys plant. Bydd y fframwaith cenedlaethol yn amlinellu natur arfer gorau ac yn arwain y gwaith o sefydlu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol, gan ddarparu cyfleoedd i blant gysylltu â’r gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau. Gall y gwasanaethau sy’n cael eu darparu fod yn amrywiol ac adlewyrchu anghenion plant, sy’n gallu newid bob dydd, ond yn y pen draw byddan nhw’n gallu helpu i ddarparu llesiant cadarnhaol a pherthnasoedd cadarnhaol i blant.

Wrth symud ymlaen, gan ddefnyddio egwyddorion cenedlaethol Cyfranogaeth Cymru i ymgysylltu â’r cyhoedd, byddwn yn defnyddio ein strategaeth gyfathrebu fel canllaw i sicrhau ein bod yn galluogi ac yn annog plant, mewn ffordd amserol a hygyrch, i rannu eu safbwyntiau a chymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod y model arfaethedig yn hygyrch i bob grŵp, gan gynnwys plant. Ar ôl y cyfnod ymgynghori, byddwn yn parhau i ymgysylltu â sefydliadau cynrychioliadol perthnasol er mwyn datblygu a chyflwyno safon genedlaethol o ansawdd uchel. Mae ein strwythurau llywodraethu wedi cael eu datblygu i adlewyrchu’n holl wahanol randdeiliaid yn llawn, gan gynnwys plant, a bydd hynny’n parhau i ddigwydd.

Bydd datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gyflawni dyletswyddau presennol awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sydd wedi’u gosod o dan adran 15 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu neu drefnu darpariaeth gwasanaethau ataliol, y disgrifir eu dibenion yn adran 15(2). Un o’r dibenion a ddisgrifir yn y ddarpariaeth hon yw hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, lle bo hynny’n gyson â llesiant plant.

Mae datblygu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a’r effaith debygol ar hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cyd-fynd ag 'Erthygl 24, iechyd a gwasanaethau iechyd', yn benodol hawl pob plentyn i’r iechyd gorau posibl. Bydd y fframwaith cenedlaethol yn ceisio cyflawni hyn a chydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, trwy amlinellu arfer gorau ac arwain y gwaith o sefydlu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol ac ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol hygyrch.

2. Egluro sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Mae datblygu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a’r effaith debygol ar hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cyd-fynd ag ‘Erthygl 24, iechyd a gwasanaethau iechyd‘. Yn benodol, bod gan bob plentyn yr hawl i’r iechyd gorau posibl. Bydd y fframwaith cenedlaethol yn ceisio cyflawni hyn drwy amlinellu arfer gorau ac arwain y gwaith o sefydlu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol a gwasanaethau cysylltwyr cymunedol hygyrch.

Wrth ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol, byddwn yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth gan blant a’u cynrychiolwyr, er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn adlewyrchu eu hawliau, gan gynnwys hawliau grwpiau gwahanol o blant.

Troednodiadau

[1] Gweler: Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru.

[2] Megis sut rydym yn teimlo amdanom ein hunain a’n gallu i ddylanwadu ar bethau sy’n digwydd i ni, a ffactorau emosiynol, gan gynnwys sut rydym yn deall, yn rheoleiddio ac yn mynegi ein hemosiynau a sut rydym yn adnabod ac yn ymateb i emosiynau pobl eraill.

[3] Rempel et al. 2017.

[4] Polley, M.,¹ Bertotti, M.,² Kimberlee, R.,3 Pilkington, K.,4 a Refsum, C. 2017 ‘A review of the evidence assessing impact of social prescribing on healthcare demand and cost implications’. University of Westminster.

[5] Longwill, A, (2014) Independent Evaluation of Hackney Well Family Service, Family Action.

[6] Kellezi, B., Wakefield, J.R.H., Stevenson, C., McNamara, N., Mair, E. , Bowe, M., , Wilson, I. and Halder, M.M. (2019) The social cure of social prescribing: a mixed-¬methods study on the benefits of social connectedness on quality and effectiveness of care provision. BMJ Open 2019;9:e033137. doi:10.1136/ bmjopen-2019-033137

[7] Dayson, C. and Bashir, N. (2014) The Social and Economic Impact of the Rotherham Social Prescribing Pilot: Main evaluation report Sheffield Hallam University Centre for Regional Economic and Social Research.

[8] Torjesen, I (2016) Social prescribing could help alleviate pressure on GPs, British Medical Journal 352; 1436.

[9] Farmer, C., Fenu, E., O’Flynn, N., Guthrie, B. (2016) Clinical assessment and management of multimorbidity: summary of NICE guidance BMJ 2016;4843(September):i4843.

[10] Chatterjee, H.J., Carnie, P.H., Latyer, D. and Thomas, L.J. (2018) Non-clinical community interventions: A systematic review of social prescribing schemes Arts and Health 10(2):97-123.

[11] Kilgarriff-Foster, A. and O’Cathain, A. (2015) Exploring the components and impact of social prescribing Journal of Public Mental Health 14(3):127-134.

[12] Woodall, J., Trigwell, J., Burgon, A-M, Raine, G., Eaton, V., Davis, J., Hancock, L., Cunningham, M. and Wilkinson, S. (2018) Understanding the effectiveness and mechanisms of a social prescribing service: A mixed methods analysis BMC Health Services Research 18:604.

[13] Foster, A., Thompson, J., Holding, E., Ariss, S., Mukuria, C., Jacques, R., Akparido, R. and Haywood, A. (2020) Impact of social prescribing to address loneliness: A mixed methods evaluation of a national social prescribing programme Health and Social Care in the Community 29(5):1439-1449.