Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae datblygu'r gweithlu ar sail cymwyseddau yn helpu'r Grŵp Rhaglenni Clinigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Ymgymerodd y Grŵp Rhaglen Glinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu (GRhG) yng Ngogledd Cymru â phrosiect i edrych ar ddatblygiad cymwysterau a chredydau i gefnogi dull seiliedig-ar-gymhwysedd ar gyfer datblygu'r gweithlu. Ystyriwyd o fewn y Grŵp bod rhaglenni addysgol traddodiadol, a ysgrifennwyd ac a gyflwynwyd gan staff Addysg Bellach ac Uwch, yn rhy generig ac nad oeddynt yn cwrdd ag anghenion clinigol penodol, a bod hyfforddiant mewn swydd yn ysbeidiol ac yn amrywio o ran ei ansawdd. Roedd ar y GRhG felly angen cael darpariaeth addysg a hyfforddiant benodol iawn heb orfod oedi’n hir amdani. Datblygodd y prosiect naw uned hyfforddi newydd aliniedig i agenda moderneiddio'r gweithlu yn GIG Cymru.

Cynnydd a chanyniadau

Dangosodd allbynnau'r prosiect effeithiau cadarnhaol dysgu gydol oes gyda sicrwydd ansawdd, yn benodol:

  • Mae'r prosiect wedi galluogi'r clinigwyr a oedd yn gweithio yn PBC i nodi a datblygu pecynnau hyfforddi ac unedau achrededig. Fe wnaeth hyn danio brwdfrydedd ac ymroddiad i ffyrdd newydd o nodi a darparu addysg a hyfforddiant yng Ngogledd Cymru.
  • Mae unedau hyfforddiant mewn swydd gyda sicrwydd ansawdd bellach wedi'u cysylltu ag anghenion y gwasanaeth a'r clinigwyr yn PBC gan ddarparu proses 'addysg weithrediadol' a sgiliau trosglwyddadwy. Golyga hyn fod theori yn cael ei drosi’n gyflym i gymhwysiad ymarferol, sydd yn ei dro yn profi’n fuddiol ar gyfer ansawdd y gofal a roddir i gleifion a chanlyniadau i’r cleifion yn y pen draw.
  • Roedd yr unedau a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd i gwrdd â rôl glinigol a ddiffiniwyd yn glir yn fwy llwyddiannus na'r rhai a anelai at roi sgiliau mwy cyffredinol i staff.

Mae'r prosiect wedi torri trwy’r rhwystrau rhwng addysg a gwasanaeth ac mae tystiolaeth o newid diwylliannol ymysg staff mewn perthynas ag anghenion hyfforddi FfCChC. Gan ddefnyddio'r patrwm addysgol a sefydlwyd yn y prosiect, penderfynwyd y byddai dull seiliedig-ar-gymhwysedd ar gyfer datblygu rhaglenni ar draws holl lefelau FfCChC yn cael ei weithredu yn PBC yn unol ag agenda moderneiddio gwasanaethau GIG Cymru.

Byddai rolau newydd yn cysylltu â chynllunio'r gweithlu i sicrhau bod gweithlu a ailgynlluniwyd yn cael ei gynhyrchu.

‘.....Mae penderfynu ar a diffinio addysg gan glinigwyr sy'n gweithio yn yr ardal yn wych ac rwy'n credu bod hynny'n egwyddor dda iawn. Dydw i ddim yn meddwl ein bod yn gwneud hyn yn ddigon aml. Mae’n yn diffinio'n glir iawn beth rydym yn disgwyl i bobl gael eu haddysgu ar ei gyfer ac mae’n darparu proses hyblyg a throsglwyddadwy'

Arweinydd Uned, Bwrdd Iechyd Lleol PBC, Gogledd Cymru

Ffynhonnell: Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru: Adolygiad ansoddol o'i effaith