Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r dystysgrif yn ychwanegu gwerth at yr hyfforddiant y mae gyrwyr bysus, coetshis a lorïau yn ei gael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Roedd y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gyrwyr (TCP) a gynhaliwyd yn 2013 yn brosiect a roddodd gyfle i yrwyr bysiau, coetsys a lorïau i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol trwy FfCChC (CQFW) am yr wybodaeth a gawsant trwy hyfforddiant gorfodol. Dangosodd trafodaethau gyda chyflogwyr a gyrwyr yng Nghymru awydd i gael cydnabyddiaeth ffurfiol o fewn fframweithiau cymwysterau ar gyfer yr hyfforddiant hwn; i ychwanegu gwerth at brofiad hyfforddiant cyfnodol y gyrrwr a chefnogi nod y diwydiant o godi lefelau hunan-barch a phroffesiynoldeb yn y sector. Datblygodd y prosiect naw uned FfCChC a fapiwyd yn erbyn y pynciau Hyfforddiant Cyfnodol mwyaf poblogaidd a gynigir gan gyflogwyr a sefydliadau hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cynnydd a chanlyniadau

Roedd y buddion a ddeilliodd o’r prosiect yn cynnwys bod gweithwyr yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am yr wybodaeth a gawsant yn eu hyfforddiant cyfnodol. Roedd hyn yn arwyddocaol gan nad oedd llawer o yrwyr wedi ymgymryd ag unrhyw fath o hyfforddiant ers peth amser ac efallai eu bod wedi gadael yr ysgol gydag ond ychydig o gymwysterau academaidd. Roedd cydnabod yr hyfforddiant trwy gredydau FfCChC yn atgyfnerthu statws a gwerth y rhaglenni hyfforddi roedd gyrwyr yn eu dilyn ac yn helpu i ddatblygu eu hyder i ymgymryd â hyfforddiant a chymwysterau pellach. Ymhellach, mae cyflogwyr yn credu y byddai cysylltu hyfforddiant cyfnodol â chymwysterau cydnabyddedig yn codi proffil a statws cyflogaeth yn y sector ac yn ychwanegu gwerth sy'n gwella'r ddarpariaeth hyfforddiant cyfnodol TCP ar gyfer Gyrwyr a gynigir yng Nghymru. Mae cyflogwyr hefyd yn elwa o gael gyrwyr medrus a brwdfrydig, a chyfrannodd y prosiect at uchelgais y diwydiant i godi statws proffesiynol y 5,200 o yrwyr bysiau /coetsys proffesiynol a thua 13,100 o yrwyr Cerbydau Nwyddau Mawr yng Nghymru.

Ffynhonnell: Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru: Adolygiad ansoddol o'i effaith