Fframwaith cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg: ystadegau ac ymchwil gymdeithasol
Sut rydyn ni'n casglu ac yn rhannu ystadegau ac ymchwil gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Cytunwyd Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru fis Awst 2019. Pwrpas y Memorandwm yw amlinellu’r berthynas waith rhwng Comisiynydd y Gymraeg a’r Llywodraeth. Mae’n parchu annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg, ac mae hefyd yn amlinellu ble bydd cydweithio. Mae’r Memorandwm yn datgan fod cyd-weithio tuag at weithredu targedau Cymraeg 2050 yn ganolog i’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd.
Mae’n datgan y bydd pwyllgorau o swyddogion rhwng y ddau gorff yn cael eu sefydlu er mwyn trafod gwaith penodol yn ôl y galw, gyda rhai ohonynt yn cael eu sefydlu yn barhaol ac eraill dros-dro.
Mae’r Fframwaith Cydweithio hwn yn atodol i’r Memorandwm cydddealltwriaeth, ac yn cwmpasu Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol. Arwyddwyd Fframwaith Cydweithio Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol am y tro cyntaf fis Ionawr 2015, ac fe’i diweddarwyd fis Medi 2018. Lluniwyd y Fframwaith diweddaraf hwn fis Gorffennaf 2020.
Nod Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yw cefnogi’r broses o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn trwy archwilio effeithiolrwydd polisïau, ymyraethau a phrosiectau, a hwyluso gwelliannau ar sail tystiolaeth gadarn. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol i ymgymryd â’r gwaith hwn.
Rôl Gwasanaeth Ystadegol Llywodraeth Cymru yw cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, dyrannu arian a chyflawni gwaith ymchwil o fewn y Llywodraeth a’r gymuned ehangach trwy ddarparu gwasanaeth ystadegol dibynadwy ac effeithlon.
Cydweithio: egwyddorion
Bydd Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth ac yn adnabod cyfleoedd i weithio ar y cyd ym maes ystadegau ac ymchwil gymdeithasol â’r nod o hyrwyddo’r egwyddorion canlynol:
- datblygu sail tystiolaeth gadarn a chynhwysfawr ynghylch anghenion y Gymraeg a’i siaradwyr
- blaengynllunio’n strategol ac osgoi dyblygu gwaith
- osgoi gosod baich diangen ar randdeiliaid, ymatebwyr a phartneriaid ymchwil
- gwneud y defnydd gorau o adnoddau
Bydd achosion yn codi hefyd pan na fydd yn briodol i Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth nac i weithio ar y cyd.
Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth
Caiff gwaith Llywodraeth Cymru ym maes ymchwil a data ei gyflawni yn unol ag Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwaith Ymchwil a Gwerthuso (Egwyddorion Llywodraeth Cymru Gwaith Ymchwil a Gwerthuso) a Chod Ymarfer Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) (Cod Ymarfer Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth). Maent yn berthnasol i ansawdd y gwaith a gynhyrchir a hefyd i’r gweithdrefnau sydd yn rheoli cyhoeddi ymchwil.
Mae Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwaith Ymchwil a Gwerthuso
fel a ganlyn:
- rhoi ystyriaeth gynnar i waith gwerthuso o’r cychwyn cyntaf
- cynllunio gwaith ymchwil a gwerthuso yn effeithiol
- cyhoeddi ymchwil yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth)
- gweithredu ar ymchwil
- gwerth am arian
Rhaid i gyrff o fewn y DU sy’n gyfrifol am ystadegau swyddogol gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae’r Cod hwn yn seiliedig ar dri philer:
- dibynadwyedd
- ansawdd
- gwerth
Gyda’i gilydd mae’r pileri hyn yn cefnogi hyder y cyhoedd mewn ystadegau.
Mae’r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 yn nodi’r rheolau ac egwyddorion sydd i’w dilyn mewn perthynas â chaniatáu i bobl benodol weld mathau penodol o ystadegau ymlaen llaw cyn eu cyhoeddi’n swyddogol.
Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol Comisiynydd y Gymraeg
Yn ôl Adran 4(2) (e) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 caiff Comisiynydd y Gymraeg wneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i’w wneud. Mae’r Comisiynydd wedi ei enwi o dan Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013, ac mae disgwyl i’r Comisiynydd ddilyn Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Awdurdod Ystadegau’r DU.
Rhannu gwybodaeth: ystadegau ac ymchwil gymdeithasol
Bydd Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth am ystadegau ac ymchwil gymdeithasol.
Bydd hyn yn cynnwys:
- rhoi gwybod am waith ymchwil sydd eisoes ar y gweill gan y ddau sefydliad
- rhoi gwybod am waith ymchwil sy’n cael ei gynllunio gan y ddau sefydliad
- rhoi gwybod am gynlluniau o ran cyhoeddi ystadegau neu gynnyrch gwaith ymchwil (e.e. adroddiadau, seminarau)
- rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau ymchwil ehangach a allai fod o ddiddordeb i’r sefydliad arall
Yn unol ag Adran 4 y Memorandwm cyd-dealltwriaeth (‘Rhannu Gwybodaeth’), bydd y Comisiynydd yn rhoi gwybod i’r Llywodraeth o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw, gan amgáu copi, os bydd yn bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen. Yn yr un modd, bydd y Llywodraeth yn rhoi gwybod i’r Comisiynydd o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw os yw’n bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen sy’n effeithio’n uniongyrchol ar waith y Comisiynydd.
Bydd yr egwyddor o rannu gwybodaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd yn gysylltiedig â gofynion cyrff proffesiynol perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cydymffurfio Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) a phrotocol Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) o ran cyhoeddi data ac ymchwil.
Dulliau rhannu gwybodaeth
Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu gwybodaeth am waith ymchwil sydd ar y gweill neu sydd wedi ei gwblhau trwy’r dulliau isod:
- Cyfarfodydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am Ystadegau ac Ymchwil Gymdeithasol a Chomisiynydd y Gymraeg o leiaf bob chwe mis. Bydd cofnod yn cael ei baratoi o bob cyfarfod.
- Cyfarfodydd Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.
- Seminarau, cynadleddau a fforymau eraill a drefnir i hybu cydweithio â phartneriaid ym maes ymchwil a gwerthuso.
- Gohebiaeth e-bost pan fo hynny’n briodol.
- Cynllun Tystiolaeth Ymchwil ac Ystadegau am y Gymraeg: Llywodraeth Cymru.
- Cyfleoedd newydd a gaiff eu hadnabod wrth i’r Fframwaith Cydweithio gael ei ddatblygu a’i adolygu.
Gall y dulliau hyn hefyd fod yn ffordd o adnabod cyfleoedd i gomisiynu ymchwil ar y cyd.
Rhannu data
Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu data, yn ddibynnol ar hawl gyfreithiol, â chytundebau priodol yn eu lle. Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am eu dadansoddiadau eu hunain oni bai bod trefniadau cydweithio wedi eu cytuno o flaen llaw.
Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth pan fo’n briodol ar y canlynol:
- Cyfrifiad: yn cynnwys dadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad, ymateb i ymgynghoriad (ffurfiol neu anffurfiol) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Grŵp Ymgynghorol y Cyfrifiad ar gyfer Cymru a materion ehangach yn ymwneud â’r Cyfrifiad.
- Arolygon Defnydd Iaith: yn cynnwys dadansoddi canfyddiadau, lledaenu canfyddiadau ymhellach, a chynllunio arolygon defnydd yn y dyfodol.
- Data eraill yn ymwneud â’r Gymraeg: yn cynnwys data eraill a gasglwyd gan neu ar ran Llywodraeth Cymru (e.e. Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion), amcanestyniadau o’r iaith yn y dyfodol a dadansoddiadau eraill.
- Materion ystadegol: yn cynnwys datblygu materion polisi’r Gwasanaeth Ystadegol a mynychu cyfarfodydd am faterion ystadegol a all fod yn berthnasol i’r Gymraeg neu’n berthnasol i statws Comisiynydd y Gymraeg fel cynhyrchydd ystadegau, e.e. Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.
Yn unol â chymal 9.2 y Memorandwm cyd-ddealltwriaeth bydd Comisiynydd y Gymraeg yn darparu data a dadansoddiad ysgrifenedig i’r Llywodraeth yn flynyddol o sut mae ei waith wedi cyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050.
Adroddiadau 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg
Mae Adran 5 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Awst 2016. Yn unol ag Adran 5(3) y Mesur mae’r adroddiad hwn yn cynnwys adroddiad ar ganlyniadau’r Cyfrifiad 2011 ac asesiad o oblygiadau’r canlyniadau hynny i sefyllfa’r Gymraeg. Nid oes cyfyngiad ar y materion eraill y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.
Ar gais Comisiynydd y Gymraeg, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu data â’r Comisiynydd, i’w dadansoddi a’u cynnwys gan Gomisiynydd y Gymraeg yn yr adroddiad 5-mlynedd. Bydd hyn yn ddibynnol ar hawl gyfreithiol, â chytundebau priodol yn eu lle.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg ar faterion yn ymwneud â’r adroddiad, i sicrhau cywirdeb ffeithiol yr adroddiad neu i gadarnhau bod ffynonellau perthnasol wedi eu harchwilio.
Cyfleoedd i gomisiynu ymchwil ar y cyd
Pan fo’n briodol, bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn comisiynu ac yn cyhoeddi ymchwil ar y cyd. Bydd rhai amgylchiadau lle gallai comisiynu a chyhoeddi yn annibynnol fod o fantais yn y cyd-destun academaidd a dinesig ehangach. Mewn achosion o’r fath bydd angen sicrhau na fydd hyn yn effeithio’n negyddol ar ansawdd yr ymchwil ei hun.
Materion Penodol i Ystadegau: Cynhyrchwyr Ystadegau Swyddogol
Yn dilyn cadarnhad statws Comisiynydd y Gymraeg fel Cynhyrchydd Ystadegau Swyddogol bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chefnogaeth i Gomisiynydd y Gymraeg ar faterion penodol.
Adolygu
Mae’r Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn nodi y bydd y rhaniad rhwng cyfrifoldebau’r ddau sefydliad yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau bod amcanion Cymraeg 2050 yn cael eu gweithredu.
Llofnodwyd

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd
Llywodraeth Cymru
Dyddiad: 06/07/2020

Dyfan Sion
Cyfarwyddwr
Comisiynydd y Gymraeg
Dyddiad: 06/07/2020

Steven Marshall
Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Dyddiad: 06/07/2020