Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Wrth wraidd y fframwaith y mae cyfres o faterion allweddol y bydd unrhyw fodel cyfansoddiadol yn effeithio arnynt. Bwriad y Comisiwn yw:

  • llunio dadansoddiad sylfaenol ar sail y fframwaith, mor wrthrychol â phosibl
  • profi cadernid y canfyddiadau cychwynnol hyn o’u hystyried mewn nifer o senarios cyd-destunol gwahanol.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cyflwyno’r dadansoddiad sylfaenol ac unrhyw newidiadau i’r dadansoddiad hwnnw a fyddai’n angenrheidiol yn y senarios cyd-destunol gwahanol.

Wrth ystyried y fframwaith, mae’n hanfodol cofio na all systemau a strwythurau cyfansoddiadol ynddynt eu hunain gyflawni canlyniadau polisi penodol. Mewn democratiaeth, nid yw’n anochel y bydd gwerthoedd a rhagdybiaethau presennol yn cael eu rhannu gan blaid wleidyddol a ddaw i rym drwy’r blwch pleidleisio yn y dyfodol.

Felly, er ei bod yn briodol gwerthuso i ba raddau y bydd yr opsiynau gwahanol yn galluogi canlyniadau y mae’r Comisiwn (a chonsensws gwleidyddol ehangach ar hyn o bryd) efallai’n ystyried yn ddymunol, mae’n bwysig osgoi unrhyw ragdybiaeth y bydd unrhyw opsiwn yn cyflawni canlyniadau o’r fath yn awtomatig.

Meini prawf dadansoddi

Beth fyddai’r opsiwn hwn yn ei olygu ar gyfer:

Gwerthoedd y Comisiwn

1. Atebolrwydd

I ba raddau y ceir eglurder ynghylch ble achan bwy y gwneir penderfyniadau a sut y gellir dal ypenderfynwyr hynny i gyfrif.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 8

2. Galluogedd

I ba raddau y gall pobl Cymru arfer rheolaethneu ddylanwad dros y penderfyniadau allweddol a wneir yngNghymru sy’n effeithio ar eu bywydau ac i ba raddau y maeganddynt hyder bod llais Cymru yn cael ei glywed mewnpenderfyniadau y tu allan i Gymru.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 2, 10

3. Sybsidiaredd

I ba raddau y mae’n sicrhau bodpenderfyniadau’n cael eu gwneud mor agos ag sy’n ystyrlonbosibl i’r bobl a’r cymunedau y maent yn effeithio arnynt.

4. Cydraddoldeb a Chynhwysiant

I ba raddau y mae’n sicrhaucynhwysiant yn y broses ddemocrataidd i bawb sy’n byw yngNghymru ac, yn ehangach, yn galluogi polisïau i gael eu lluniosy’n sicrhau triniaeth a mynediad cyfartal o ran gwasanaethau ibawb yng Nghymru.

O theori i realiti

5. Dibyniaethau allanol

Beth fyddai angen digwydd o rancytundeb neu ewyllys da ar ran sefydliadau y tu allan i Gymru ialluogi’r opsiwn hwn i gael ei wireddu, gan gydnabod bodunrhyw ganlyniad yn dibynnu ar negodi.

6. Capasiti a chost

Pa gapasiti gwladol ychwanegol y byddaiangen i Gymru ei feithrin (e.e. i reoli plismona a chyfiawnderneu les, neu i sicrhau bod lle Cymru yn y byd yn cael ei gynnala’i hyrwyddo) er mwyn ei wireddu a beth fyddai effaith ariannolnet datblygu’r capasiti hwn, o’i gymharu â'r costau a awgrymirgan y status quo a'r opsiynau eraill ar gyfer newid.

Yr adnoddau i wneud y gwaith o lywodraethu Cymru

7. Sefydlogrwydd

I ba rad dau y mae’n darparu modelsefydlog a chynaliadwy i lywodraethu Cymru yn y tymor hir.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 1, 7

8. Llywodraeth Gydgysylltiedig

I ba raddau y mae’n hwyluso’rcydlynu angenrheidiol rhwng meysydd polisi gwahanol adarpariaeth gwasanaethau effeithiol ar draws y ffin â Lloegr.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 4

9. Arian Cyhoeddus

I ba raddau y mae’n darparu sail ariannolddigonol i gynnal a gwella gwasanaethau Cyhoeddus, o'igymharu â'r status quo a'r opsiynau eraill ar gyfer newid.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 5, 6, 9

Effaith ar yr economi a chymdeithas

10. Polisïau economaidd priodol

I ba raddau y mae’n debygolo alluogi polisïau macro- a micro-economaidd sy’n diwalluanghenion Cymru yn gynaliadwy, gan gynnwys anghenioncenedlaethau’r dyfodol.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 9

11. Sefydlogrwydd economaidd

I ba raddau (os o gwbl) ymae’n peri risg o ddadsefydlogi economi Cymru, o'i gymharu â'rstatus quo a'r opsiynau eraill ar gyfer newid.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 9

12. Llif pobl a nwyddau ar draws ffiniau

I ba raddau y mae’nhybu neu’n llesteirio unigolion a busnesau i weithio’n effeithiolar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr a sut y gallai effeithio arher ddemograffig Cymru.

Pwyntiau pwysau adroddiad interim: 3

Senarios

Fel y nodir uchod, bydd yn bwysig profi’r dadansoddiad yn erbynsenarios posibl gwahanol.

Dyma’r senarios yr ydym yn rhag-weld eu defnyddio ar gyfer yr ailgam:

  1. Sefyllfa lle ceir newid cyfansoddiadol mawr rywle arall ymMhrydain Fawr ac Iwerddon, h.y. yr Alban yn pleidleisio o blaidannibyniaeth (ac efallai’n ailymuno â’r UE), ailuno Iwerddon
  2. Sefyllfa lle ceir Llywodraeth y DU sydd â rhaglen sylweddol oddiwygio cyfansoddiadol sydd â’r nod o atgyfnerthu datganoli achynyddu datganoli rhanbarthol yn Lloegr
  3. Sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddiogoruchafiaeth Senedd y DU, heb gydsyniad Sewel i wneudnewidiadau pellach sy’n cael eu hystyried yng Nghymru ynnewidiadau sy’n tanseilio rolau a chyfrifoldebau Senedd Cymru aLlywodraeth Cymru e.e. galluogi Llywodraeth y DU i ymyrryd mewnmaterion iechyd neu addysg.

Yn ogystal, yn achos annibyniaeth byddwn hefyd yn ystyried y sefyllfa lle gallai Cymru annibynnol ymuno â’r UE.

Facebook @Comisiwn
Twitter @Comisiwn
Instagram @Comisiwn

Image
ICCFW logo