Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yw haen uchaf y system statudol o gynlluniau datblygu yng Nghymru. Mae'n nodi sut y dylid cynllunio a rheoli lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol drwy'r system gynllunio. Mae'r FfDC yn sefydlu'r fframwaith strategol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol, Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a phenderfyniadau ynghylch Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru (PCC), mae'n darparu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer penderfyniadau ynghylch cynllunio a datblygu ledled Cymru. 

Cafodd Cymru'r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040, sef y FfDC cyfredol, ei fabwysiadu yn 2021, ac mae’n gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu a defnydd tir yng Nghymru tan 2040. Ers iddo gael ei fabwysiadu, mae Cymru wedi parhau i wynebu newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur, amodau economaidd sy'n esblygu, pwysau demograffig, heriau o ran seilwaith, a galw cynyddol am wydnwch ac i ddiogelu ffynonellau ynni. 

Rydyn ni’n diwygio'r FfDC er mwyn adlewyrchu’r ymrwymiadau maniffesto’r Llywodraeth, a sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau a chyfleoedd y dyfodol. Mae diwygio’r FfDC hefyd yn darparu cyfle unigryw i gynnal sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn hytrach nag ymgynghori ar faterion yn ymwneud â'r polisi cynllunio yn unig, bydd y gwaith ymgysylltu drwy gydol y broses yn gwahodd pobl i ystyried dyfodol hirdymor y genedl a rôl lleoedd, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd a diwylliant wrth wireddu'r weledigaeth honno. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod cyd-drefniant gwell ar draws amryw o gynlluniau a strategaethau sy'n cael eu hyrwyddo trwy gyfnod y Llywodraeth hon, yn enwedig ar gyfer y rheiny lle mae goblygiadau yn croesi neu ble mae gwahanol gynlluniau gofodol yn rhyngweithio, er enghraifft Cynllunio Morol a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

2. Diben

Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl ac yn eu cynnwys wrth ddatblygu'r FfDC. Mae hefyd yn darparu manylion am y gofynion gweithdrefnol, yr amserlenni a'r gwaith ymgynghori yn ystod proses y FfDC. 

Bydd camau ymgynghori allweddol yn digwydd yn ystod y broses gan roi cyfleoedd i gyflwyno sylwadau. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriad ffurfiol yn ystod,

  • Cam 2: Ymgynghoriad ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd, y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol, a'r Galwad am Dystiolaeth. 
  • Cam 5: Cyhoeddi ac ymgynghori ar y prif faterion, yr opsiynau a'r opsiwn a ffefrir, a hynny wedi'i ategu gan adroddiadau ac asesiadau amgylcheddol. 
  • Cam 8: Ymgynghoriad ar y FfDC drafft. 

Diben y Cynllun Ymgysylltu hwn yw hwyluso sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ei chwarae wrth gyflawni'r dyfodol hwnnw. Bydd hyn yn helpu i lunio gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r FfDC diwygiedig a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llywio gan brofiadau, dyheadau a thystiolaeth pobl, cymunedau, sefydliadau a rhanddeiliaid ledled Cymru.

3. Amcanion

Nod ymgysylltu drwy broses y FfDC yw ceisio cyflawni'r amcanion canlynol, 

  • Datblygu gweledigaeth hirdymor gyffredin ar gyfer Cymru. 
  • Deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu rhannau gwahanol o Gymru. 
  • Nodi blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. 
  • Casglu tystiolaeth i lywio'r broses o ddiwygio'r FfDC. 
  • Archwilio sut y gall cynllunio gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. 
  • Sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu'r FfDC. 
  • Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o rôl cynllunio gofodol wrth lywio lleoedd a chymunedau. 
  • Meithrin perchnogaeth dros weledigaeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

4. Egwyddorion Ymgysylltu Allweddol

Bydd y sgwrs genedlaethol yn cael ei llywio gan yr egwyddorion canlynol: 

  • Cynhwysol – darparu cyfleoedd i bob unigolyn a chymuned gymryd rhan. 
  • Hygyrch – defnyddio amrywiaeth o ddulliau a fformatau er mwyn lleihau rhwystrau i ymgysylltu. 
  • Seiliedig ar le – cydnabod bod y cyfleoedd a'r heriau’n amrywio ledled Cymru. 
  • Cydweithredol – annog trafodaeth, dysgu ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth. 
  • Canolbwyntio ar y dyfodol – ystyried llesiant hirdymor cenedlaethau’r dyfodol.
  • Tryloyw – egluro'n glir sut mae adborth wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r FfDC. 

4.1 Themâu Ymgysylltu 

Er mwyn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r berthynas rhwng gwahanol weithgareddau defnydd tir (yn y system gynllunio a thu allan ohoni) a'r rhyngwyneb rhwng gweithgareddau tir a morol, rydym yn awyddus i gasglu amrywiaeth eang o farn a thystiolaeth i lunio dull mwy integredig o ddatblygu polisïau ledled y Llywodraeth.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn fwyaf tebygol o ymgysylltu â heriau hirdymor pan fydd y trafodaethau'n gysylltiedig â lle, hunaniaeth, diwylliant, llesiant a chenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'r Cynllun Ymgysylltu yn ceisio fframio'r sgwrs o amgylch y pynciau allweddol, themâu a’r blaenoriaethau hyn. 

Isod ceir rhestr o'r themâu rydym yn awyddus i dderbyn eich barn a tystiolaeth ynglŷn. Mae cwestiynau manwl wedi eu gosod yn yr Atodiad ac mae ffurflen ymateb rhyngweithiol ar gael ar y wefan. Mae'r prif feysydd thematig yn cael eu hamlinellu'n strategol i ddechrau, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan yn 2050 cyn canolbwyntio ar themâu penodol, sydd wedi'u rhestru'n nhrefn yr wyddor, yn unol â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, ni ddylid ystyried bod y drefn y maent yn ymddangos ynddi yn dynodi unrhyw flaenoriaeth na phwysigrwydd fel rhan o'r alwad hon am dystiolaeth.

Cymru yn 2050

Cymru Lewyrchus

  • Yr Economi a Swyddi
  • Ynnu
  • Carbon Isel / Sero 

Cymru Cydnerth

  • Cymunedau Cydnerth
  • Addasu i’r Hinsawdd
  • Tir
  • Morol
  • Natur

Cymru Iachach

  • Iechyd
  • Anghydraddoldebau
  • Lles

Mwy Cyfartal

  • Mynediad i wasanaethau (Iechyd, Addysg, Cyfleusterau Cymunedol
  • Cysylltedd Digidol

Cymunedau Cydlynus

  • Tai
  • Cludiant a Logisteg

Diwylliant bywiog a'r iaith Gymraeg yn ffynnu

  • Celfyddydau
  • Diwylliant
  • Treftadaeth
  • Adloniant
  • Chwaraeon
  • Iaith Gymraeg

Wrth ystyried y themâu uchod, bydd hefyd yn rhaid cymryd i ystyriaeth a fyddai gweithredoedd o'r fath yn gyfrifol yn fyd-eang ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i les byd-eang.

Bydd y trafodaethau’n cydnabod amrywiaeth Cymru ac yn archwilio sut y gall cyfleoedd a heriau amrywio rhwng cymunedau trefol, gwledig, arfordirol a chymoedd, yn ogystal â rhwng rhanbarthau gwahanol. 

4.2 Gweithgareddau'r Sgwrs Genedlaethol

Bydd y sgwrs genedlaethol yn ceisio ymgysylltu â phobl a sefydliadau o bob cwr o Gymru gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy'n anelu at annog trafodaeth am ddyfodol lleoedd a chymunedau. Gall y gweithgareddau gynnwys: 

  • Digwyddiadau trafod cenedlaethol a rhanbarthol. 
  • Sgyrsiau a gweithdai yn y gymuned. 
  • Cyfarfodydd Bord Gron i randdeiliaid a thrafodaethau ar gyfer sectorau penodol 
  • Ymgysylltu digidol a chyfranogiad ar-lein. 
  • Cyfranogiad drwy rwydweithiau, partneriaethau a sefydliadau cymunedol presennol. 
  • Ymgysylltu wedi'i dargedu â grwpiau a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Cyfleoedd i gyflwyno syniadau, tystiolaeth a safbwyntiau lleol. 

Bydd union fformat y gweithgareddau ymgysylltu yn esblygu wrth i'r FfDC gael ei baratoi, a bydd hyn yn cael ei adolygu'n barhaus er mwyn sicrhau bod y cyfranogiad yn ystyrlon, yn hygyrch ac yn cyrraedd ystod eang o ddiddordebau a chymunedau ledled Cymru. 

4.3 Gan bwy rydym am glywed?

Rydym am glywed gan bawb; pobl sy'n byw, yn gweithio, yn astudio ac yn buddsoddi yng Nghymru, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, busnesau, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a chyrff cynrychioliadol. Gwneir ymdrechion penodol i ymgysylltu â phobl a chymunedau nad yw eu barn bob amser yn cael ei chynrychioli mewn prosesau cynllunio. 

4.4 Adrodd yn Ôl

Rydym wedi ymrwymo i roi adborth drwy gydol y broses o baratoi'r FfDC. Bydd diweddariadau, crynodebau o weithgarwch ymgysylltu, ac adroddiadau ymgynghori yn egluro'r hyn a glywsom yn ystod y sgwrs genedlaethol a'r ffordd y mae hyn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun. 

5.0 Sut y bydd adborth yn dylanwadu ar ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru?

Bydd yr adborth a gesglir drwy'r sgwrs genedlaethol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio polisïau a strategaethau ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys y FfDC diwygiedig. Bydd y safbwyntiau, y syniadau, y wybodaeth leol a'r dystiolaeth a gesglir drwy weithgarwch ymgysylltu yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â thystiolaeth dechnegol, ymchwil ac asesiadau statudol er mwyn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r FfDC. 

Bydd yr adborth yn helpu i nodi'r materion sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru, tynnu sylw at gyfleoedd a heriau gwahanol rhwng lleoedd, a phrofi opsiynau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer datblygu'r genedl yn y dyfodol. Er na ellir bwrw ymlaen â phob awgrym, bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i gryfhau'r sail dystiolaeth a llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau drwy gydol y broses o baratoi'r cynllun. Os yw tystiolaeth yn fwy perthnasol i gefnogi datblygiad polisi mewn adran arall o Lywodraeth Cymru, yna bydd ar gael iddynt, yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd a gyhoeddwyd gyda'r ymgynghoriad galw am dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ymgynghori ar gamau allweddol, gan egluro'r hyn a glywsom drwy’r sgwrs genedlaethol a'r ffordd y mae hyn wedi dylanwadu ar esblygiad y FfDC. 

5. Sut y bydd adborth yn dylanwadu ar ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru?

Bydd yr adborth a gesglir drwy'r sgwrs genedlaethol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio polisïau a strategaethau ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys y FfDC diwygiedig. Bydd y safbwyntiau, y syniadau, y wybodaeth leol a'r dystiolaeth a gesglir drwy weithgarwch ymgysylltu yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â thystiolaeth dechnegol, ymchwil ac asesiadau statudol er mwyn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r FfDC. 

Bydd yr adborth yn helpu i nodi'r materion sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru, tynnu sylw at gyfleoedd a heriau gwahanol rhwng lleoedd, a phrofi opsiynau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer datblygu'r genedl yn y dyfodol. Er na ellir bwrw ymlaen â phob awgrym, bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i gryfhau'r sail dystiolaeth a llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau drwy gydol y broses o baratoi'r cynllun. Os yw tystiolaeth yn fwy perthnasol i gefnogi datblygiad polisi mewn adran arall o Lywodraeth Cymru, yna bydd ar gael iddynt, yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd a gyhoeddwyd gyda'r ymgynghoriad galw am dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ymgynghori ar gamau allweddol, gan egluro'r hyn a glywsom drwy’r sgwrs genedlaethol a'r ffordd y mae hyn wedi dylanwadu ar esblygiad y FfDC. 

Atodiad 1: Cwestiynau’r ymgynghoriad

Rhan A

Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd

Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd sy'n darparu manylion am y gofynion gweithdrefnol, yr amserlenni a'r broses ymgynghori ar gyfer mynd â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd yn ei flaen.

  1. I ba raddau ydych yn cytuno bod yr amserlen arfaethedig yn rhoi digon o gyfle i ymgysylltu'n ystyrlon a chasglu tystiolaeth?

    Cytuno'n Gryf, Cytuno, Ddim yn Cytuno/Anghytuno, Anghytuno, Anghytuno'n Gryf
     
  2. A oes unrhyw gamau eraill yn y broses lle byddai ymgysylltu neu ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol yn fuddiol, yn ogystal â'r rheini sy'n cael eu darparu ar gyfer Opsiynau, a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft? Os felly, esboniwch pam.
     
  3. Pa grwpiau o randdeiliaid a allai fod angen cymorth ychwanegol neu ymgysylltu penodol?
     
  4. A oes cymunedau neu grwpiau y mae eu barn yn cael ei thangynrychioli mewn prosesau cynllunio, a phwy ddylai gael sylw arbennig yn ystod y broses o ddiwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?
     
  5. A) I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r dulliau ymgysylltu a amlinellwyd?

    Cytuno'n Gryf, Cytuno, Ddim yn Cytuno/Anghytuno, Anghytuno, Anghytuno'n Gryf 

    B) A oes unrhyw ddulliau ychwanegol y dylid eu hystyried?

  6. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym am y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd drafft?

    Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol

Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol, sy'n ceisio fframio'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ei chwarae wrth gyflawni'r dyfodol hwnnw.

  1. A yw'r themâu arfaethedig (gweler 4.1 o’r Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol) yn cwmpasu’r materion pwysicaf ar gyfer dyfodol Cymru?

    Ydynt
    Nac ydynt
    Ddim yn gwybod
    Os na, beth sydd ar goll?
     
  2. A oes unrhyw lefydd, cymunedau neu faterion y dylid rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod y sgwrs genedlaethol?

    Testun rhydd
  3. Sut gallwn ni wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i gymryd rhan?

    Testun rhydd
     
  4. Beth yw'r ffordd orau o ymgysylltu â chi?

    Arolwg ar-lein
    Digwyddiad lleol
    Gweithdy
    Grwpiau ffocws
    Cyfryngau cymdeithasol
    Ymatebion Ysgrifenedig
    Arall
     
  5. A oes unrhyw sylwadau ychwanegol yr hoffech eu gwneud ynghylch y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol drafft?

Rhan B

Themâu'r Sgwrs Genedlaethol

Diben y cwestiynau canlynol yw hwyluso sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ar dir a môr ei chwarae wrth wireddu'r dyfodol hwnnw. Bydd hyn yn helpu i lunio gweledigaeth, amcanion a pholisïau cynlluniau a strategaethau amrywiol y mae'r llywodraeth hon yn mynd â nhw yn eu blaenau, gan gynnwys polisi defnydd tir gofodol i'w gynnwys mewn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.

Yng Nghymru, mae polisi a strategaeth gyhoeddus yn cael eu llywio gan saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a rhaid eu dilyn. Y rhain yw: 

  • Llewyrchus
  • Cydnerth
  • Iachach
  • Mwy cyfartal
  • Cymunedau Cydlynus
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae'r prif feysydd thematig yn cael eu disgrifio o safbwynt strategol yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan yn 2050 cyn canolbwyntio ar themâu penodol, sydd wedi'u nodi yn nhrefn yr wyddor, a’u halinio â 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Felly, ni ddylid ystyried bod y drefn y maent yn ymddangos ynddi yn dangos eu blaenoriaeth neu eu pwysigrwydd yn y cais hwn am dystiolaeth.

Cymru yn 2050

12. Am beth hoffech chi i Gymru fod yn adnabyddus amdano yn 2050? Sut gall cynllunio, datblygu a seilwaith helpu i wneud hyn ddigwydd?

13. Beth dylem ni ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol o ran cymunedau, ein hamgylchedd (tir a môr) a’n seilwaith?

14. Wrth edrych tuag at 2050, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf sy'n wynebu Cymru, a sut dylent ddylanwadu ar ddatblygu yn y dyfodol?

Cymru Lewyrchus

Economi a Swyddi

15. Pa rannau o Gymru ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer swyddi, buddsoddiad a thwf economaidd, a pham?

16. Sut gall cynllunio a seilwaith helpu i greu cyfleoedd i bobl a busnesau ar draws pob rhan o Gymru?

17. Pa ddiwydiannau ydych chi'n meddwl fydd bwysicaf i Gymru erbyn 2050, a pha dir, adnoddau naturiol neu seilwaith fydd eu hangen arnynt?

Ynni

18. Sut gall prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel ddod â'r buddion mwyaf i gymunedau lleol ac economi Cymru?

19. Beth dylid ei ystyried wrth benderfynu ble i leoli prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel?

20. Pa gyfleoedd sydd ar gael i leihau'r defnydd o ynni a diwallu mwy o'n hanghenion ynni yn lleol?

Sero Net a'r Economi Gylchol

21. Pa newidiadau i'r ffordd rydym yn cynllunio a datblygu lleoedd sydd eu hangen i gefnogi trawsnewidiad Cymru i sero net, economi gylchol, adferiad natur a chynaliadwyedd amgylcheddol ehangach?

22. Sut gall y newidiadau hyn gefnogi pontio teg sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn creu cyfleoedd ac yn deg i bobl a chymunedau ledled Cymru?

Cymru gydnerth

Gwydnwch Cymunedol a'r Newid yn yr Hinsawdd

23. Beth yw'r risgiau hinsawdd ac amgylcheddol mwyaf sy'n wynebu gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys llifogydd, stormydd, tonnau gwres, newid arfordirol, pwysau ar gyflenwadau dŵr, llygredd ac effeithiau ar seilwaith, gwasanaethau ac adnoddau naturiol, a sut y dylid cynllunio i ymateb i’r rhain?

Natur a Thir

24. Sut gall cynllunio helpu natur a systemau naturiol i addasu i newid yn yr hinsawdd fel eu bod yn parhau i gefnogi lles, gwydnwch ecosystemau a gwasanaethau hanfodol i bobl a chymunedau?

25. Sut dylai cynllunio defnydd tir amddiffyn a gwella natur wrth hefyd gefnogi tai, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd, pren, datblygu economaidd, cyfleoedd economi gylchol, gwydnwch rhag llifogydd a lles cymunedol?

26. Sut gall y system gynllunio helpu i sicrhau bod tirweddau pwysig, cynefinoedd, ardaloedd arfordirol a morol, ac adnoddau naturiol yn cael eu gwarchod, eu hadfer a'u rheoli'n effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth, gwydnwch hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol?

Môr ac Arfordir

27. Beth ydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf am y mor, a beth dylai ei ddarparu i genedlaethau'r dyfodol? Beth mae hyn yn ei olygu o ran sut i ddefnyddio a rheoli tir ac ardaloedd arfordirol?

Cymru Iachach

Iechyd a Llesiant

28. Sut dylai cynllunio a datblygu helpu i greu lleoedd iachach a gwella llesiant pobl?

29. Pa wasanaethau, cyfleusterau, seilwaith a nodweddion amgylcheddol sydd bwysicaf ar gyfer iechyd a llesiant pobl?

30. A oes unrhyw leoedd neu gymunedau sydd angen cymorth ychwanegol i wella'u hiechyd, llesiant neu gyfleoedd economaidd?

Mwy cyfartal

31. Sut gall cynllunio ei gwneud hi'n haws i bobl gael at swyddi, gofal iechyd, addysg, siopau, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol?

32. Pa mor bwysig yw cysylltiadau digidol da, fel band eang a chysylltiadau ar gyfer dyfeisiau symudol, ar gyfer dyfodol cymunedau a busnesau? Ble dylem ganolbwyntio’n hymdrechion?

Cymunedau Cydlynus

Cartrefi a Thai

33. Beth sy'n gwneud lle yn lle da i fyw ynddo, a sut gall cynllunio helpu i greu a chynnal y cymunedau hyn?

34. Pa fathau o gartrefi fydd eu hangen ar Gymru dros y 25 mlynedd nesaf, a ble y dylid eu hadeiladu?

Adfywio a Datblygu

35. Sut dylai trefi, dinasoedd, pentrefi a chymunedau gwledig newid a thyfu i ddiwallu anghenion y dyfodol?

Trafnidiaeth a logisteg

36. Sut dylai pobl a nwyddau deithio o amgylch Cymru yn 2050, a pha drafnidiaeth a seilwaith fydd eu hangen?

Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

37. Sut gall datblygu newydd a chynllunio helpu i gefnogi a chryfhau'r Gymraeg?

38. Sut y dylid adlewyrchu hanes, diwylliant a hunaniaeth leol mewn penderfyniadau ynghylch datblygiad newydd?

39. Sut gall gwahanol rannau o Gymru gyfrannu at weledigaeth ar y cyd ar gyfer y wlad wrth iddynt gadw eu cymeriad a'u hunaniaeth unigryw eu hunain?

Rhan C

Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y rôl y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig ei chwarae wrth ddiwallu anghenion Cymru, grymuso llywodraeth leol a lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu o fewn y system cynllunio datblygu tir.

Llywodraethu Effeithiol

40. Ydych chi'n cytuno y dylai cynghorau lleol a phartneriaethau rhanbarthol chwarae rôl gryfach wrth baratoi a chynnal y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, gan yr un pryd leihau biwrocratiaeth a dyblygu diangen? Esboniwch eich barn ac awgrymwch unrhyw welliannau.

Y System Gynllunio

41. A oes unrhyw faterion y dylid eu cynllunio ar eu cyfer ar lefel Cymru gyfan yn hytrach na thrwy gynlluniau rhanbarthol neu leol?

42. Sut y gellir osgoi gorgyffwrdd ac ailadrodd rhwng cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol?

Gwneud Penderfyniadau a Chynnal Datblygu

43. Sut gall y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol roi mwy o hyder a sicrwydd i gymunedau, datblygwyr a phenderfynwyr ynghylch datblygu yn y dyfodol?

44. Sut gellir gwneud penderfyniadau cynllunio yn gyflymach ond gan sicrhau yr un pryd bod pobl yn cael cyfle ystyrlon i ddweud eu dweud?

45. Beth yw'r prif rwystrau sy'n atal datblygiadau rhag cael eu cyflawni unwaith eu bod wedi cael cefnogaeth gynllunio?

Cynllunio a Chyflenwi Strategol

46. Sut gall y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol helpu i sicrhau bod seilwaith, fel trafnidiaeth, ynni, dŵr a rhwydweithiau digidol, yn cael ei ddarparu gyda datblygiad newydd?

47. Sut gall Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ddod ag amcanion o ran tai, adfywio, trafnidiaeth, twf economaidd a nodau seilwaith ynghyd mewn cynllun clir hirdymor ar gyfer Cymru?

48. Pa wybodaeth a thystiolaeth y dylid eu defnyddio i helpu i lunio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig?

Rhan D

Galwad am Dystiolaeth

Nodwch y dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r gwaith o ddiwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

*Cwymplen i gynnwys cyfle i lanlwytho tystiolaeth yn ôl thema*

  1. Cymru yn 2050
  2. Cartrefi a Chymunedau
  3. Economi a Ffyniant
  4. Cynllunio ar gyfer Adfer Natur, Gwrthsefyll Effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd, Economi Gylchol a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
  5. Symudiad a Chysylltedd
  6. Iechyd a Llesiant
  7. Diwylliant, Iaith a Chenedligrwydd 
  8. Cynllunio
  9. Ymchwil Academaidd
  10. Astudiaethau Lleol
  11. Arall