Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd drafft
Sut a beth y byddwch chi’n ei gyfrannu wrth i ni ddiwygio’r Fframwaith.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
1.1 Bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (FfDC) diwygiedig. Bydd yn disodli'r fersiwn gyntaf – Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2021.
1.2 Mae'r FfDC yn gynllun datblygu ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n nodi polisïau cynllunio cenedlaethol ac yn mynegi amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor Llywodraeth Cymru yn ofodol. Mae'r FfDC yn rhan o'r cynllun statudol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio, ac yn helpu wrth wneud penderfyniadau ynghylch Prosiectau Seilwaith Strategol.
1.3 Mae'r FfDC yn nodi lleoliadau strategol ar gyfer twf a seilwaith a thrwy gysylltu newid a buddsoddiad, mae'n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i Gymru. Mae'r FfDC yn nodi dyfodol uchelgeisiol i Gymru ac yn darparu'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar bob lefel er mwyn helpu i sicrhau dyfodol gwell.
1.4 Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi'r broses statudol ar gyfer diwygio'r FfDC. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfranogiad eang gan y cyhoedd yn y broses o'i ddiwygio yn unol â'r gofynion deddfwriaethol. Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys pobl wrth ei ddatblygu ac yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o sut a phryd y gallant ymgysylltu â'r broses o'i baratoi.
1.5 Mae pawb yn rhanddeiliad yn y FfDC, o ystyried ei bwysigrwydd wrth ddarparu fframwaith ar gyfer datblygiadau newydd ledled Cymru gyfan. Rydym yn croesawu ac yn annog sylwadau gan bawb, ac mae gan bob grŵp, sefydliad, busnes ac unigolyn gyfraniad i'w wneud wrth ddatblygu'r cynllun gofodol cenedlaethol.
2. Y Broses Baratoi a'r Amserlen
2.1 Mae'r amserlen ganlynol yn nodi'r camau a'r amserlenni ar gyfer diwygio'r FfDC ac yn amlygu pryd y cynhelir yr ymgynghoriad.
| Cam y FfDC | Digwyddiad | Amserlen amcangyfrifedig |
|---|---|---|
| Cam 1 | Paratoi'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol | Haf 2026 |
| Cam 2 | Ymgynghori ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd, y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol a'r Galwad am Dystiolaeth | Haf-Hydref 2026 (12 Wythnos) |
| Cam 3 | Ystyried yr ymatebion i'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd, y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol a'r Galwad am Dystiolaeth a pharatoi adroddiad ymgynghori | Hydref-Gaeaf 2026 |
| Cam 4 | Casglu tystiolaeth, datblygu'r weledigaeth, yr amcanion a'r opsiynau Ymgymryd â Gwaith Ymgysylltu | Gaeaf 2026-Hydref 2027 |
| Cam 5 | Cyhoeddi'r prif faterion, yr opsiynau a'r opsiwn a ffefrir, wedi'u hategu gan adroddiadau ac asesiadau amgylcheddol, ac ymgynghori arnynt. | Hydref 2027 -Gwanwyn 2028 (12 Wythnos) |
| Cam 6 | Ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y prif faterion, yr opsiynau a'r opsiwn a ffefrir a pharatoi adroddiad ymgynghori | Gwanwyn 2028 |
| Cam 7 | Paratoi FfDC drafft Ymgymryd â gwaith ymgysylltu | Haf 2028 – Gaeaf 2029 |
| Cam 8 | Ymgynghori ar y FfDC drafft | Gaeaf – Gwanwyn 2029 (12 Wythnos) |
| Cam 9 | Ystyried yr ymatebion i'r FfDC drafft a pharatoi adroddiad ymgynghori | Gwanwyn-Haf 2029 |
| Cam 10 | Y Senedd i ystyried y FfDC drafft (60 diwrnod 'eistedd') | Hydref 2029 |
| Cam 11 | Cyhoeddi'r FfDC | Gaeaf 2029/30 |
2.2 Mae'r amserlen baratoi yn nodi proses o tua phedair blynedd cyn mabwysiadu. Mae'n ymgorffori tri chyfnod penodol o ymgynghori cyhoeddus, pob un yn para deuddeg wythnos.
2.3 Mae'r amserlen yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i adolygu'r FfDC, a bydd yn caniatáu digon o amser ar gyfer ymgysylltu a deialog ystyrlon. Ni ragwelir y bydd yr amserlen yn newid, nac y bydd angen ymgyngoriadau ychwanegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson, fodd bynnag, ac yn cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r ddogfen hon os bydd angen.
2.4 Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth am ddatblygiad y FfDC ar gael yn ystod pob cam o'r broses a bydd swyddogion ar gael i roi cyngor a chymorth.
3. Cymryd Rhan
3.1 Wrth ddatblygu'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gall sicrhau,
- Y gall pobl gyfrannu at ddatblygiad y rhaglen gyfranogiad;
- Bod cyfranogiad yn gynhwysol, yn agored ac yn dryloyw a bod gan bobl gyfleoedd i gymryd rhan drwy gydol y broses;
- Dull cydweithredol;
- Bod y wybodaeth yn hygyrch;
- Y ceir adborth ar y sylwadau a wneir ar draws y broses.
3.2 Mae tri cham allweddol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cynnwys aelodau’r cyhoedd wrth baratoi’r FfDC, sef
- Gwybodaeth a Chymorth – sicrhau bod gwybodaeth am y FfDC ar gael drwy gydol y broses a bod cymorth ar gael i helpu pobl i gymryd rhan.
- Camau Ymgynghori Allweddol – codi ymwybyddiaeth o ymgyngoriadau a darparu cyfleoedd i gyflwyno sylwadau.
- Y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol – Mae diwygio’r FfDC yn rhoi cyfle unigryw i gynnal sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn hytrach nag ymgynghori ar faterion yn ymwneud â'r polisi cynllunio yn unig, bydd y gwaith ymgysylltu drwy gydol y broses yn gwahodd pobl i ystyried dyfodol hirdymor y genedl a rôl lleoedd, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd a diwylliant wrth wireddu'r weledigaeth honno. Mae'r Cynllun Ymgysylltu yn gosod yr egwyddorion ar gyfer y sgwrs genedlaethol hon.
3.3 Wrth ddiwygio'r FfDC mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth am ei ddatblygiad ar gael i bawb; bod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd; ac y gall pawb gysylltu â swyddogion i ddysgu rhagor am y broses. Bydd yn gwneud y canlynol,
- Gwefan
- Llinell Gymorth a Negeseuon E-bost
- Cyfryngau Cymdeithasol
- Erthyglau a'r Wasg
- Cylchlythyr
- Cronfa Ddata ar gyfer yr Ymgynghoriad
3.4 Yn ystod camau 2, 5 ac 8, cynhelir ymarferion ymgynghori, pob un yn para deuddeg wythnos. Mae'r rhain yn gerrig milltir allweddol ym mhroses y FfDC, pan gyhoeddir dogfennau a cheisir barn pobl arnynt. Y ffocws allweddol yn ystod y camau hyn yw rhoi cyhoeddusrwydd eang i'r ymgynghoriad, sicrhau bod y dogfennau a'r dystiolaeth y maent yn seiliedig arni ar gael, ac annog pobl i edrych arnynt a gwneud sylwadau. Bydd y camau hyn yn hanfodol wrth lunio'r FfDC diwygiedig ac mae'n bwysig bod pobl yn manteisio ar y cyfle i ystyried yr hyn a gynigir a gwneud sylwadau.
3.5 Yn ogystal â'r camau uchod i gefnogi pobl, bydd Llywodraeth Cymru, yn ystod y camau allweddol hyn, yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i'r ymgynghoriad ac yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i chi leisio eich barn ar y FfDC. Rydym yn bwriadu ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid er mwyn asesu lefel y diddordeb a'r galw, a chynnig amrywiaeth o ffyrdd o gyfrannu yn ystod y camau ymgynghori, gan gynnwys y canlynol,
- Cyhoeddi dogfennau allweddol a thystiolaeth ategol.
- Cyfarfodydd a Digwyddiadau Uniongyrchol.
- Codi Ymwybyddiaeth.
3.6 Mae'n bwysig y gall pobl fod yn rhan o'r gwaith o baratoi dogfennau allweddol y FfDC cyn iddynt gael eu cyhoeddi er mwyn ymgynghori arnynt. Mae ymgysylltu effeithiol yn golygu y bydd pobl wedi cael y cyfle i gyfrannu at y FfDC sy'n dod i'r amlwg cyn y camau ymgynghori, gan gynnwys darparu tystiolaeth y maent yn teimlo y dylid ei hystyried fel rhan o'r broses.
4. Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
4.1 Mae cynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd mewn perthynas â'r FfDC yn ofyniad deddfwriaethol o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, a rhaid iddo gynnwys asesiad o'r effeithiau tebygol ar y defnydd o'r Gymraeg. Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol hefyd yn ofynnol i asesu effaith y cynllun ar y cyfraniad at gyflawni datblygu cynaliadwy ac i sicrhau ei fod wedi'i integreiddio'n llawn yn y broses o baratoi'r cynllun.
4.2 O ystyried natur a chwmpas y FfDC, mae asesiadau effaith statudol ac anstatudol eraill y mae angen eu cynnal hefyd. Felly mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymgymryd ag Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd er mwyn darparu golwg fwy cyflawn o'r goblygiadau a'r cyfleoedd sy'n deillio o'r FfDC. Ochr yn ochr â gofynion yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol, bydd yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd hefyd yn ymgorffori'r asesiadau canlynol.
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
- Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, fel sy'n ofynnol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010).
- Asesiad o'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol – Deddf Cydraddoldeb 2010)
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).
- Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a'r Polisi ar Adnoddau Naturiol fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016). Hefyd, integreiddio ystyriaeth ar gyfer Bioamrywiaeth / Adran 6 / Asesiad Adfer Natur.
- Asesiad o'r Effaith ar Iechyd– fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025
- Gofynion anneddfwriaethol asesiadau sy'n ymwneud ag
- Asesiad Prawfesur Gwledig;
- Asesiad Newid Hinsawdd; ac
- Asesiad o'r Effaith Economaidd.
4.3 Mae integreiddio'r asesiadau hyn yn sicrhau bod dull cydweithredol yn cael ei fabwysiadu ar gyfer materion gwahanol, gan rannu gwybodaeth a chydnabod cysylltiadau rhwng pynciau mewn modd cyson a thryloyw. Mae hyn yn darparu dull cadarn a thrylwyr ar gyfer nodi problemau a chyfleoedd, asesu effeithiau, gan gynnwys effeithiau cronnol ac anuniongyrchol, ac ymgymryd â gwaith monitro cyfannol.
4.4 Bydd yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd yn sicrhau bod polisïau a chynigion yn cael eu llywio gan wybodaeth berthnasol ac yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan. Mae ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan allweddol o’r broses hon.
4.5 O dan Gyfarwyddeb gan yr UE, mae hefyd yn ofynnol cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer y FfDC. Bydd yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn asesu a yw'r cynllun yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar safle Ewropeaidd o bwysigrwydd er cadwraeth natur ym Mhrydain Fawr neu ar safle cadwraeth natur morol alltraeth Ewropeaidd. Mae'r broses yn gofyn am sgrinio'r opsiynau a'u hasesu'n briodol. Dim ond os canfyddir na fydd y FfCD yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd dynodedig y bydd modd ei mabwysiadu. Os na ellir diystyru effaith o'r fath, dylid diwygio'r FfDC er mwyn atal effeithiau o'r fath rhag digwydd. Dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol y gellir mabwysiadu'r cynllun sy'n debygol o gael effaith o'r fath. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn cyfrannu at Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd y FfDC.
4.6 Bydd yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael eu cynnal ochr yn ochr â datblygu'r FfDC. Mae'r tabl isod yn dangos camau allweddol yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a sut y byddant yn cyd-fynd â chamau'r FfDC fel y'u hamlygir yn y tabl ym mharagraff 2.1.
| Cam y FfDC | Camau'r Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd | Amserlen amcangyfrifedig |
|---|---|---|
| Cam 2 | Gosod y cyd-destun a’r amcanion, nodi’r llinell sylfaen a phenderfynu ar y cwmpas | Haf-Hydref 2026 |
| Cam 3 | Ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd | Gaeaf 2026/27 (12 Wythnos) |
| Cam 4 | Ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a pharatoi adroddiad ymgynghori
Cyhoeddi Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd
Paratoi Adroddiad Interim yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd ac adroddiad rhagarweiniol yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd | Gaeaf 2026 – Hydref 2027 |
| Cam 5 | Cyhoeddi ac ymgynghori ar Adroddiad Interim yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd ac adroddiad rhagarweiniol yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ochr yn ochr ag adroddiad Materion, Opsiynau ac Opsiwn a Ffefrir y FfDC | Hydref 2027 - Gwanwyn 2028 |
| Cam 6 | Ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a pharatoi adroddiad ymgynghori | Gwanwyn 2028 |
| Cam 7 | Paratoi Adroddiad Amgylcheddol yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd ac Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac Asesiad Priodol os oes angen. | Haf 2028 – Gaeaf 2029 |
| Cam 8 | Ymgynghori ar Adroddiad Amgylcheddol yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd ac Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac Asesiad Priodol os oes angen | Gaeaf – Gwanwyn 2029 |
| Cam 9 | Ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad | Gwanwyn – Haf 2029 |
| Cam 10 | Y Senedd i ystyried y FfDC drafft (60 diwrnod 'eistedd') | Hydref 2029 |
| Cam 11 | Cyhoeddi'r FfDC, y Datganiad Ôl-fabwysiadu a'r Datganiad o Fanylion, ynghyd â'r trefniadau ar gyfer gweithredu, monitro ac adolygu | Gaeaf 2029/30 |
