Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Gorffennaf 2025, mae lefelau uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel a ganlyn:

  • lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio
  • lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Pennir lefel 3 (monitro uwch) pan fydd Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon difrifol yn ymwneud â sefydliad y GIG. Bydd monitro’n digwydd yn amlach nag o dan drefniadau arferol, a hynny o bosibl drwy amrywiaeth ehangach o ffyrdd, gan gynnwys rhyngweithiadau a chyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chyflwyno diweddariadau ysgrifenedig ar gynnydd a thystiolaeth, gan gynnwys cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru a data ansoddol a meintiol. Bydd angen i sefydliad y GIG ddangos ei fod yn ymateb mewn modd rhagweithiol i'r lefel uwchgyfeirio, a bydd angen iddo roi prosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon neu broblemau hyn ac ysgogi gwelliant ei hun. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro cynnydd yn agos, ei herio a'i adolygu.

Hanes uwchgyfeirio

Cyllid, strategaeth a chynllunio

Ym mis Medi 2023, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer cyllid a chynllunio.

Ym mis Ionawr 2024, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd o fonitro uwch i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Ym mis Gorffennaf 2025, isgyfeiriwyd y bwrdd iechyd i lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. 

Perfformiad a chanlyniadau

Ym mis Ionawr 2024, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru

Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y 5 lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.

Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:

  • yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
  • ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
  • yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
  • yn cael eu cynnal mewn modd agored, yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru

Tra bydd y bwrdd iechyd yn destun uwchgyfeirio:

  • Bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a chyfarfodydd y tîm gweithredol ar y cyd.
  • Caiff cynnydd ei asesu'n ffurfiol yn erbyn y meini prawf uwchgyfeirio yn ystod cyfarfodydd chwemisol y tîm gweithredol ar y cyd, a gadeirir gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y grŵp iechyd, gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
  • Defnyddir y cyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig misol a arweinir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff y pryderon yn ymwneud â'r parth perfformiad a chanlyniadau eu goruchwylio'n effeithiol yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio gofal brys a gofal mewn argyfwng yn fisol.

Isgyfeirio

Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo'n bosibl, mae'r meini prawf uwchgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy'n destun uwchgyfeirio.

Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o'r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad y cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).

Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni'r meini prawf isgyfeirio.

Mae 2 ddull isgyfeirio:

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i'w galluogi i ystyried a yw'n briodol isgyfeirio'r trefniadau ymyrryd a roddwyd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i'r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni'r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
  • Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barch penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i'r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.

Rolau a chyfrifoldebau

Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:

  • cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
  • cyfeirio at arferion gorau, canllawiau a fframweithiau perthnasol
  • gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd
  • adolygu a rhoi adborth ar gynhyrchion a ddatblygwyd
  • cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
  • galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
  • cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
  • gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)

Rolau a chyfrifoldebau'r bwrdd iechyd yw:

  • penodi uwch-swyddog cyfrifol
  • sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
  • llunio cynllun uwchgyfeirio mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
  • cyflwyno adroddiadau cynnydd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
  • rhoi sicrwydd bod prosesau adolygu ffurfiol ar waith yn y bwrdd iechyd i fonitro a chyflawni'r gwelliannau gofynnol

Cyllid, strategaeth a chynllunio

Cyllid

Mae'r ffocws a'r ymyrraeth ariannol ar lefel 3 yn cwmpasu 5 maes:

  • amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol
  • deall y diffyg presennol a ffactorau ysgogi allweddol
  • datblygu a gwireddu cyfleoedd
  • cynllun a strategaeth ariannol glir
  • cyflawni'r cynllun ariannol

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol drwy:

  • adroddiadau ariannol, gan gynnwys y dadansoddiad a'r esboniad naratif sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r rheolwyr a'r bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau, er enghraifft drwy adborth neu ddulliau hunanasesu
  • adroddiadau perfformiad integredig sy'n nodi ac yn monitro metrigau yn glir yn erbyn detholiad cynhwysfawr o ffactorau allweddol sy'n rheoli costau gweithgarwch a'r gweithlu
  • y rhaglen waith Archwilio Mewnol sy'n cwmpasu trefniadau'r amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol ac yn adrodd arnynt yn barhaus

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos dealltwriaeth o'r diffyg presennol a'r ffactorau allweddol, a rhaid iddo:

  • ddangos dealltwriaeth glir o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd mewn diffyg ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys dadansoddiad penodol yn ôl maes gwasanaeth allweddol a ffactor sy'n rheoli costau
  • adolygu buddsoddiadau'r flwyddyn flaenorol i asesu a yw'r buddiannau a gynlluniwyd wedi cael eu cyflawni
  • rhoi proses gadarn ar waith ar gyfer herio diffygion sylfaenol a nodir ar lefelau is-adrannol lleol
  • deall y ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd mewn meysydd penodol, cynnwys ffocws penodol ar y gweithlu a gwariant nad ydynt ymwneud â chyflogau

O ganlyniad i'r uchod, mae dulliau trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn datblygu ac yn gwireddu cyfleoedd, a rhaid iddo:

  • droi cyfleoedd cenedlaethol a nodir drwy'r bwrdd gwerth a chynaliadwyedd yn gynlluniau arbedion lleol
  • meddu ar broses glir ar gyfer datblygu a chyflwyno cyfleoedd strategol i gefnogi cynaliadwyedd y bwrdd iechyd

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos strategaeth a chynllun ariannol clir drwy:

  • gynllun blynyddol integredig a thrionglog, gyda thybiaethau cynllunio clir a realistig i gyflawni sefyllfa (reolaidd) o adennill costau dros y tymor canolig, gyda map ffordd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd roi'r cynllun ariannol ar waith, a rhaid iddo:

  • cyflawni'r sefyllfa o adennill costau a gynlluniwyd ar gyfer 2025 i 2026, gan gynnwys cynnydd pellach mewn perthynas â nodi a chyflwyno cyfleoedd rheolaidd i gefnogi cynllun 3 blynedd cytbwys

Meini prawf isgyfeirio 

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:

  • cynnal gwelliant mewn perthynas â lleihau'r diffyg sylfaenol, gan reoli ffactorau sy'n rheoli costau a nodwyd a chyflawni arbedion
  • datblygu, cymeradwyo a chyflwyno cynllun tymor canolig 3 blynedd cytbwys y gellir ei gyflawni
  • cyflawni sefyllfa o adennill costau

Strategaeth a chynllunio

Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â strategaeth a chynllunio ar lefel uwchgyfeirio 3 yn cwmpasu'r meysydd canlynol.

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd roi'r cynllun a gymeradwywyd ar waith a dangos ei fod wedi cyflawni cerrig milltir ynddo, a rhaid iddo:

  • gyflawni cynllun tymor canolig integredig credadwy a chytbwys yn ariannol
  • gwneud cynnydd da o ran cyflawni'r targedau gweinidogol, camau galluogi, meini prawf atebolrwydd a gofynion monitro uwch

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos ei fod wedi cyflawni strategaeth glinigol, a rhaid iddo:

  • ddangos sut mae'r cynllun yn llywio'r penderfyniadau a wneir ym mhob rhan o'r sefydliad

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:

  • cyflawni'r cerrig milltir a'r camau gweithredu yn y cynllun tymor canolig 3 blynedd
  • dangos map ffordd clir a rhoi cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith
  • cynyddu hyder Llywodraeth Cymru ynghylch cyflawni yn seiliedig ar hunanasesiad yn erbyn y matrics cynllunio aeddfedrwydd y cytunwyd arno

Perfformiad a chanlyniadau

Gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Mae'r ffocws a'r ymyrraeth ar lefel 3 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn cwmpasu'r meysydd canlynol.

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau cynaliadwy, a rhaid iddo:

  • sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith a bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith, yn unol ag ymarfer ar sail tystiolaeth a gofynion cenedlaethol
  • sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau gofal heb ei drefnu diogel, amserol ac effeithiol
  • cyflawni gweithgarwch yn unol â llwybrau y cytunwyd arnynt a rhoi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith pan fydd perfformiad yn gostwng islaw'r llwybr disgwyliedig
  • dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth gan gleifion yn ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut mae'n ymdrin â nhw, asesu digwyddiadau parhad busnes a ddatganwyd, gan gynnwys y rhesymau pam, y camau a gymerwyd, a'r gwersi a ddysgwyd
  • cyflawni'r camau galluogi ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
  • sicrhau bod cleifion yn glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth, gan eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau mewn argyfwng

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo:

  • weithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol a rhoi'r argymhellion hynny ar waith, gan gynnwys y:
    • rhaglen gofal sylfaenol strategol
    • 6 nod ar gyfer gofal brys
    • rhaglenni diagnostig ac endosgopi cenedlaethol
  • cefnogi'r broses o roi cyfleodd a nodir gan GIRFT ac adolygiadau o raglenni cenedlaethol ar waith a'u gwireddu
  • datblygu ymateb prydlon i unrhyw arolygiadau dirybudd gan AGIC ac argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, a datblygu a chwblhau cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • gostyngiad parhaus o 15% y mis o leiaf yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am 3 mis yn olynol (o linell sylfaen o 859 ym mis Tachwedd 2023)
  • gwelliant misol parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 5% o gleifion yn aros am fwy na 12 awr
  • ni ddylai'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol yn fwy na 60 munud, a chynnal hynny am 3 mis

Y metrigau galluogi ar gyfer isgyfeirio yw:

  • gostyngiad parhaus o 5% y mis o leiaf (o linell sylfaen ym mis Tachwedd 2023) yn nifer y bobl sy'n cael eu derbyn fel achos brys sy'n aros yn yr ysbyty am fwy na 21 diwrnod, am 3 mis yn olynol
  • gostyngiad parhaus o 5% y mis o leiaf yn nifer y materion mewn asesiadau llwybrau gofal am 3 mis yn olynol (o linell sylfaen ym mis Tachwedd 2023)