Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: Mawrth 2026
Fframwaith uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys y meini prawf ymyrryd ac isgyfeirio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Mehefin 2025, lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw lefel 4.
Lefel 4 yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chamau ac ymyriadau uniongyrchol, ac yn eu cydlynu, i gefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti i ysgogi gwelliannau. Mae'n cynnwys cyfres o ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i ddatrys y problemau o fewn amserlen resymol. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi'r ymyriadau ar waith. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.
Hanes yr uwchgyfeirio
Hydref 2022
Uwchgyfeiriwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio am na allai'r bwrdd iechyd lunio cynllun tair blynedd cytbwys yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru a Fframwaith Cynllunio'r GIG, y gellid ei ystyried i'w gymeradwyo o dan adran 175(2A) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”).
Ionawr 2024
Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd ar Fro yn parhau i fod yn lefel 3, monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.
Mawrth 2025
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei uwchgyfeirio i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio oherwydd dirywiad pellach yn y diffyg ariannol a'r anallu i gyrraedd cyfanswm y rheolaeth targed a osodwyd ar gyfer 2024/25.
Gorffennaf 2025
Uwchgyfeiriwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel 4 oherwydd diffyg ariannol cynyddol, ansawdd, amseroedd aros gofal a gynlluniwyd, a heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth.
Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrraeth, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
- ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
- yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
- yn cael eu cynnal mewn modd agored; yn dryloyw; gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru
Isgyfeirio
Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau yn erbyn pob maes uwchgyfeirio.
Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o’r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad yn cael ei isgyfeirio o lefel 3 i lefel 1 (trefniadau arferol).
Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer uwchgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos cynnydd yn erbyn cynlluniau gwella y cytunwyd arnynt a'r meini prawf isgyfeirio dros ddau chwarter yn olynol.
Ceir 2 ddull isgyfeirio:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i’w galluogi i ystyried a yw’n briodol isgyfeirio’r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i’r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni’r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddynt ddangos cynnydd yn erbyn y cynllun gwella y cytunwyd arno gyda gwelliannau parhaus yn erbyn y meini prawf isgyfeirio dros ddau chwarter yn olynol.
- Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi’u bodloni a’u cynnal am y cyfnod y cytunwyd arno. Os yw sefydliad y GIG yn bodloni’r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, bydd yn cael ei isgyfeirio i’r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i’r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
- cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
- cyfeirio at ganllawiau arferion gorau a fframweithiau perthnasol
- adolygu cynhyrchion a ddatblygwyd a rhoi adborth arnynt
- galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
- cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i feysydd sy'n peri pryder
- gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailgynllunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)
Mae rolau a chyfrifoldebau’r bwrdd iechyd fel a ganlyn:
- penodi Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer uwchgyfeirio ac arweinwyr prosiect priodol. Argymhellir y dylai'r Uwch Swyddog Cyfrifol fod y Prif Swyddog Gweithredol
- sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth o’r Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
- llunio cynllun lefel 4 mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau i sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
- cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
Ymyrraeth Lefel 4
Fe wnaeth asesiad Llywodraeth Cymru o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn erbyn y meysydd cynnydd ym mis Mehefin 2025 godi pryderon yn ymwneud â chyllid, ansawdd, gwasanaethau clinigol, arweinyddiaeth a llywodraethu. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, penderfynwyd uwchgyfeirio'r sefydliad i lefel 4. Wrth wneud hynny, cydnabuwyd bod yna lawer o feysydd o fewn y sefydliad sy'n gweithio'n effeithiol, ond bod angen asesiad a chefnogaeth ar draws y sefydliad ar gyfer ansawdd, newid diwylliant, llywodraethu ac arweinyddiaeth.
Crynodeb o bryderon lefel uchel fel y nodwyd ym mis Mehefin 2025
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud â pherfformiad a chanlyniadau yn cynnwys:
- Nid yw'r bwrdd iechyd yn rhagweld cyrraedd y targedau a osodwyd ar gyfer canran y cleifion sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad cleifion allanol cyntaf, dros 104 wythnos i gael eu hatgyfeirio am driniaeth a thros 8 wythnos ar gyfer diagnosteg.
- Gofal a gynlluniwyd: ni chyflawnodd y bwrdd iechyd y sefyllfa diwedd Ch4 2024 i 2025 na chyflawni'r targed. Mae cynllun Ch1 2025 i 2026 wedi gofyn am ymyrraeth bellach i sicrhau cyflawni.
- Diagnosteg: ym mis Ebrill 2025, dim ond 42.4% o lwybrau a oedd aros am brawf diagnosteg penodol a fu'n aros llai nag 8 wythnos, y perfformiad gwaethaf yn unrhyw fwrdd iechyd. Dim ond 17.6% oedd yn aros llai nag 8 wythnos am endosgopi diagnostig a 33.9% am NOUS, mae'r ddau y perfformiad gwaethaf ar draws Cymru.
- Gofal brys a gofal mewn argyfwng: ar y cyfan, mae'r bwrdd iechyd wedi perfformio'n dda yn y maes hwn ond mae'n parhau i gyflawni’n is na'r targedau cenedlaethol.
- Perfformiad iechyd meddwl oedolion: mae rhan 1A ar gyfer oedolion yn parhau i fod yn heriol gyda'r targed o 80% wedi’i gyflawni unwaith yn unig dros y 12 mis diwethaf a pherfformiad ym mis Ebrill 2025 ond yn 29.6%. Ychydig iawn o welliant sydd wedi bod yn rhan 2 dros y deuddeg mis diwethaf ac mae'n parhau i fod yn is na'r targed.
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud ag ansawdd yn cynnwys:
- lefel uchel o ddigwyddiadau byth, gyda 16 wedi digwydd ers Ionawr 2024, gan gynnwys chwech ers Ionawr 2025
- nid oes gan y sefydliad grŵp llywodraethu sefydledig ar hyn o bryd i oruchwylio gweithredu NatSSIPs2, sy'n ofyniad craidd
- cydymffurfiaeth wael â pholisïau a gweithdrefnau megis mabwysiadu rhestr wirio Sefydliad Iechyd y Byd a chanllawiau IPC
- cyfraddau heintio IPC: Mae cyfraddau C.difficile ac E. coli yn amrywiol, sy'n awgrymu bylchau mewn mesurau atal heintiau cyson
- mae cyfradd cau cwynion y bwrdd iechyd wedi bod yn gostwng ers mis Awst 2024
- tuedd marwolaethau cynyddol yn datblygu neu farwolaethau yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer toriadau clun a marwolaethau yn dilyn strôc
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n gysylltiedig â gwasanaethau clinigol yn cynnwys:
- Nifer sylweddol o risgiau gwasanaeth clinigol, a gwasanaethau bregus neu heriol o fewn y bwrdd iechyd, gan gynnwys mêr esgyrn a bôn-gelloedd, gofal critigol, gofal critigol pediatrig, gastroenteroleg, endosgopi a niwrowyddoniaeth.
- Strôc: mae canran y cleifion strôc sy'n cael thrombolysis wedi bod yn gostwng ers mis Mai 2024. Mae rhywfaint o dystiolaeth o welliant dros y ddau fis diwethaf wrth i gyfraddau gynyddu i bron 10% ym mis Chwefror 2025.
- Wedi'i nodi fel allanolyn yn y Rhaglen Archwilio Newyddenedigol Genedlaethol (NNAP) ac yn flaenorol yn archwiliadau MBRRACE ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'r uned newyddenedigol ar lefel uwchgyfeirio 3 gyda NJCC.
- Yn chwarter 4 2024 i 2025 (Mawrth), roedd 55.8% o'r shifftiau newyddenedigol wedi'u staffio yn unol â chanllawiau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM) o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol NNAP o 82.5%.
- Roedd adroddiadau arolwg AGIC ac adolygiad gwahoddedig y Coleg Seiciatreg Brenhinol o wasanaethau iechyd meddwl yn tynnu sylw at broblemau gyda phrosesau asesu risg, cynllunio gofal ac ymchwilio.
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n deillio o adolygiadau gwasanaeth mewnol ac allanol o HSDU, theatrau, cardioleg, iechyd meddwl oedolion ac AMD gwlyb yn cynnwys:
- ymddygiad amhroffesiynol, gan gynnwys rhegi, bwlio, aflonyddu ac ymddygiad gorfodol
- materion sy'n ymwneud â diogelwch seicolegol a chorfforol
- diffyg rheolaeth ac arweinyddiaeth effeithiol
- gwaith tîm gwael a diffyg ymddiriedaeth
- polisïau AD a gymhwyswyd yn anghyson, a goddef ymddygiadau gwael systemig
- pryderon am degwch mewn dyrchafiadau a chydbwysedd gwaith-bywyd
- diffyg diwylliant adrodd, absenoldeb llwybrau wedi'u safoni ac arferion anghyson
- methiant i adrodd, uwchgyfeirio neu ddysgu o wallau, achosion, ac achosion fu bron â digwydd
- pryderon am y gallu i fynegi pryder
- risgiau diogelwch parhaus a phroblemau gydag asesu a mynd i'r afael â risg
- dogfennaeth wael, cadw cofnodion a chadw at bolisïau
- aneffeithlonrwydd gweithredol a diffyg cynllunio strategol
- cyflwr gwael yr ystad yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a morâl staff
- diffyg fframweithiau llywodraethu cadarn
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud â llywodraethu ac arweinyddiaeth yn cynnwys:
- pryderon am y gallu i gyflawni ailgynllunio a newid sefydliadol
- mae arolygon y gweithlu yn tynnu sylw at bryderon yn ymwneud â diwylliant a llesiant
- diogelu ac ymddygiad staff wedi cael ei godi mewn nifer o fforymau mewnol ac allanol
- mae 5 risg wedi sgorio 25, a 62 wedi sgorio 20 ar gofrestr risg gorfforaethol y Bwrdd Iechyd
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud ag atal ac iechyd y boblogaeth yn cynnwys:
- mae cynaliadwyedd gwasanaethau meddygol cyffredinol wedi'i gofnodi ar gofrestr risg y Bwrdd Iechyd fel lefel risg 20 i 25
- nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi gallu gweithredu'r llwybr gofal sylfaenol a chymunedol ar gyfer rheoli cwyr clust ac nid yw'n gallu symud ymlaen i gynyddu nifer yr ymarferwyr awdioleg uwch sy'n bwynt cyswllt cyntaf.
- nodwyd bod y bwrdd iechyd yn allanolyn ar lefel “alarm” yn yr Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2023-24 ar gyfer HbA1c cymedrig wedi'i addasu (30.5%)
- yn hanesyddol, mae cyfraddau manteisio ar frechiadau ac imiwneiddio o fewn y bwrdd iechyd wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru, yn enwedig o ran brechiadau mewn plentyndod
Mae crynodeb o'r pryderon lefel uchel sy'n ymwneud â chyllid, strategaeth a chynllunio yn cynnwys:
- mae'r bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg diwedd blwyddyn o £58.2 milliwn, yn uwch na'r cyfanswm rheolaeth o £9.1 milliwn, a mwy na dwbl diffyg alldro 2024 i 2025 o £27.1 milliwn
- nid oedd y bwrdd iechyd yn gallu cyflwyno cynllun tymor canolig integredig cytbwys yn ariannol na chynllun blynyddol cefnogol a derbyniol
- yr hunanasesiad yn erbyn y matrics aeddfedrwydd cynllunio oedd lefel 1
- mae nifer o swyddi gwag o fewn y swyddogaeth cynllunio strategol
- rheoli ystad y bwrdd iechyd a’i gyflwr
Cymorth ymyrraeth
Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y materion mewnol hyn ac mae wedi dechrau cyfres o'i ymyriadau ei hun ac mae ganddo raglenni mewn sawl maes sy’n ymateb i'w pryderon mewnol dros y flwyddyn ddiwethaf; mae hyn yn cynnwys:
- trawsnewid iechyd meddwl
- siapio ein rhagoriaeth ansawdd yn y dyfodol
- siapio cenedlaethau'r dyfodol
- ail-ddylunio sefydliadol a'r model gweithredu yn y dyfodol
- cymunedol o’r Cychwyn
- cynllun gwasanaethau clinigol
- cynllun iechyd y boblogaeth
- cynllun pobl a diwylliant
- cynllun digidol ac ystadau
Mae'r bwrdd iechyd yn tendro am arbenigedd i'w helpu i nodi opsiynau a dewisiadau ariannol i alluogi mynegi cynllun ariannol credadwy ar gyfer 2026 i 2027 a thu hwnt.
Mae'r rhaglenni hyn ar y gweill ac ar wahanol gamau datblygu a chyflawni ac yn cynnwys elfennau o gymorth darparwyr annibynnol allanol. Mae angen i ymyrraeth Llywodraeth Cymru asesu a yw'r rhaglenni hyn yn ddigonol o ran eglurder, graddfa a chyflymder ac a fyddant yn targedu'r achosion sylfaenol ac o bosibl yr achosion trawsbynciol.
Bydd yr ymyrraeth hwn yn cynnwys 2 gam.
Cam 1: Y cyfnod gwerthuso
Bydd Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Perfformiad a Gwella GIG Cymru, ar y cyd ag arweinyddiaeth y bwrdd iechyd, yn trefnu adolygiad annibynnol yn erbyn y meysydd sy'n peri pryder cynyddol a'i gamau arfaethedig i ddeall a chynghori pawb perthnasol ynghylch:
- achosion sylfaenol y meysydd uwchgyfeirio a herio gyda ffocws penodol ar lywodraethu, diwylliant sefydliadol ac arweinyddiaeth
- barn ar ddilysrwydd ac effeithiolrwydd tebygol y cynlluniau gwella sefydledig
- amlinelliad o'r dull o ymdrin â rhaglen ymyrraeth Cam 2
Bydd Cam 1 yn cymryd oddeutu 8 i 12 wythnos, ac yn cael ei gynnal gan unigolion annibynnol a medrus sydd â phrofiad gweithredol uwch a chefndir arweinyddiaeth feddygol uwch i gefnogi dealltwriaeth o'r ddeinameg ddiwylliannol glinigol sylfaenol o fewn y sefydliad.
Cam 2: Y cyfnod cyflawni
Bydd cylch gorchwyl y cytunwyd arno ar gyfer y cam cyflawni yn cael ei gytuno ar ôl allbynnau Cam 1.
Monitro ac asesu
Yn ystod cyfnod ymyrraeth lefel 4, bydd trefniadau monitro ac adrodd yn cynnwys:
- cyfarfod Bwrdd Uwchgyfeirio bob deufis dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru a nifer fach o aelodau'r bwrdd iechyd a Thîm Gweithredol Llywodraeth Cymru
- goruchwyliaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet yn unol â'r Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio
- cyfarfodydd perfformiad a chyflawni gweithredol misol Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gefnogi gwelliannau gweithredol ar draws ystod o feysydd
Meini Prawf Isgyfeirio
Arweinyddiaeth a llywodraethiant
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- rhoi tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o ddatblygiad arweinyddiaeth a llywodraethu drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis, wedi'i ategu gan y matrics aeddfedrwydd llywodraethu
- tystiolaeth bod systemau llywodraethiant a sicrwydd clir ar waith gyda materion yn cael eu huwchgyfeirio’n briodol drwy strwythurau a phrosesau clir, gyda goruchwyliaeth effeithiol gan y bwrdd a fframwaith clir sy’n ysgogi gwelliant
- arddangos bod y bwrdd a'r pwyllgorau priodol yn goruchwylio'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau ac yn craffu arnynt mewn modd effeithiol yn gyson
- tystiolaeth bod trefniadau rheoli risg ar waith ar gyfer nodi, cofnodi, a rheoli risgiau ar draws y sefydliad.
- gweithredu a gwerthuso bod rhaglenni arweinyddiaeth ar waith i gefnogi datblygiad parhaus sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel
- adrodd bod mwy o staff yn cymryd rhan yn arolygon GIG Cymru
- tystiolaeth bod cynlluniau ar waith i ddatblygu a chynnal gweithlu cynaliadwy sy'n cael ei enghreifftio gan well lefelau cadw staff, llesiant staff, gostyngiad yn nifer y swyddi gwag a nifer y staff dros dro a staff asiantaeth
Ansawdd a diogelwch
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- Tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o ansawdd a diogelwch, llywodraethu ansawdd a chynnydd o ran gwella ansawdd trwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob 2 flynedd.
- Cynnal nifer yr achosion cronnus o achosion C.difficile, achosion E.coli BSI ac MRSA BSI a gafwyd yn yr ysbyty i fod yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan dros 2 chwarter yn olynol.
- Cau 65% o'r cwynion o fewn 30 diwrnod gwaith (yn ôl dyddiad derbyn) dros 2 chwarter yn olynol.
- Gostyngiad parhaus mewn digwyddiadau byth (yn ôl dyddiad digwyddiad) dros 2 chwarter yn olynol.
- Mae'r bwrdd iechyd yn adrodd am welliant dros 2 chwarter o ran yr is-sgôr codi pryderon yn arolwg staff y GIG.
- Dadansoddiad ac archwiliad dwfn pan fo cyfradd marwolaethau ysbyty o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyniad brys yn dilyn torri clun mewn cleifion dros 64 oed, a chyfradd marwolaethau ysbyty o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyniad brys yn dilyn strôc, yn gwyro oddi wrth gyfartaledd Cymru gyfan.
Gwasanaethau clinigol
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cynnydd mewn tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) yn erbyn pob gwasanaeth clinigol drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis
- dangos cynnydd dros ddau chwarter yn erbyn y pum mesur canlyniadau ar gyfer pob gwasanaeth sy'n peri pryder:
- ansawdd ac IPC
- gweithlu
- canlyniadau
- adborth cleifion, teulu a staff
- dangosyddion perfformiad allweddol gweithredol
Perfformiad a chanlyniadau
Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer gofal a gynlluniwyd a chanser, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd dros ddau chwarter yn erbyn:
- cynnal perfformiad o 60% yn erbyn targed y Llwybr Lle'r Amheuir Canser
- 100% o lwybrau cleifion allanol agored yn aros llai na 52 wythnos
- 100% o lwybrau agored yn aros llai na 104 wythnos
- 80% o lwybrau agored yn aros llai na 52 wythnos
- Lleihad o 15% yn nifer y cleifion sy'n wynebu oedi o 100% ar gyfer eu hapwyntiad dilynol am dri mis yn olynol (yn seiliedig ar linell sylfaen Gorffennaf 2025).
- sicrhau bod gan 65% o lwybrau cleifion offthalmoleg R1 amseroedd aros sydd o fewn neu heb fod yn hirach na 25% o'u dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol
- 80% o gleifion sy'n aros am brawf diagnostig yn aros am lai nag 8 wythnos
- 80% o gleifion sy'n aros am endosgopi diagnostig yn aros am lai nag 8 wythnos
- 80% o gleifion sy'n aros am NOUS ac MRI nad yw'n un cardiaidd yn aros am lai nag 8 wythnos
- 85% o gleifion sy'n aros am therapïau yn aros am lai na 14 wythnos
Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos:
- gostyngiad parhaus o 11% yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am dri mis yn olynol (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- gwelliant parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 7% o gleifion yn aros mwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
- ni ddylai'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol fod yn fwy na 60 munud
- gostyngiad parhaus o 5% yn achos llwybrau wedi'u gohirio (yn seiliedig ar y llinell sylfaen y cytunwyd arno)
Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer iechyd meddwl oedolion, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd dros ddau chwarter yn erbyn:
- cynnal 80% o asesiadau iechyd meddwl y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (LPMHSS) o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y daw'r atgyfeiriad i law
- dechrau 65% o ymyriadau therapiwtig o fewn 28 diwrnod yn dilyn asesiad gan LPMHSS.
- sicrhau bod gan 80% o drigolion y bwrdd iechyd sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth dilys
Iechyd y boblogaeth ac atal ymyrraeth
Er mwyn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth ar gyfer iechyd y boblogaeth ac atal, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd dros ddau chwarter yn olynol ar gyfer:
- sicrhau bod canran y plant sydd wedi cael y brechiadau gofynnol erbyn 5 oed yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan
- sicrhau bod cyfradd y plant sy’n manteisio ar y brechlyn HPV erbyn 15 oed yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan
- canran yr oedolion sy'n smygu sy'n gwneud ymgais rhoi'r gorau i smygu drwy wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn symud tuag at y targed o ran cydymffurfiaeth dros y cyfnod mesur o 12 mis
- camau cadarnhaol wedi’u cymryd i liniaru cofrestr risg cynaliadwyedd Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2025
- camau cadarnhaol wedi’u cymryd mewn ymateb i'r allanolyn ar lefel “alarm” yn Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2023-24 ar gyfer HbA1c cymedrig wedi'i addasu (30.5%)
Cyllid
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- rhoi tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o gynnydd yn erbyn pob maes ariannol drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis
- dangos bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf
- gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer lefel 4, gan gynnwys camau i wella dealltwriaeth y sefydliad o'r diffyg presennol a'r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd
- datblygu cynllun blynyddol gyda chymeradwyaeth y Bwrdd gan ddangos llwybr gwelliant ariannol sylweddol a chyflawni'r cyfanswm rheoli targed, o leiaf
Strategaeth a chynllunio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- rhoi tystiolaeth (drwy ddogfennaeth a gyflwynwyd) o strategaeth a gwelliannau cynllunio drwy hunanasesiad y cytunwyd arno bob chwe mis, wedi'i ategu gan y matrics aeddfedrwydd cynllunio
- cyflwyno cynllun blynyddol credadwy yn unol â'r fframwaith cynllunio cyfredol
- tystiolaeth o drywydd clir a rhoi strategaeth a chynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith
