Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Chwefror 2026
Fframwaith uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys y meini prawf ymyrryd ac isgyfeirio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Mehefin 2025, mae lefelau uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel a ganlyn:
- Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng
- Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn destun dwy lefel uwchgyfeirio:
Lefel 4 yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd ac yn cydgysylltu camau gweithredu ac yn cyfarwyddo ymyriadau uniongyrchol i gefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti er mwyn ysgogi gwelliannau. Mae'n cynnwys cyfres o ymyriadau sydd â'r nod o unioni'r problemau mewn cyfnod rhesymol o amser. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru fydd yn ymgymryd â'r ymyriadau, dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.
Pennir lefel 3 pan fydd Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon difrifol yn ymwneud â sefydliad y GIG. Bydd monitro’n digwydd yn amlach nag o dan drefniadau arferol, a hynny o bosibl drwy amrywiaeth ehangach o ffyrdd, gan gynnwys rhyngweithiadau a chyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chyflwyno diweddariadau ysgrifenedig ar gynnydd a thystiolaeth, gan gynnwys cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru a data ansoddol a meintiol. Bydd angen i sefydliad y GIG ddangos ei fod yn ymateb mewn modd rhagweithiol i'r lefel uwchgyfeirio, a bydd angen iddo roi prosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon/problemau hyn ac ysgogi gwelliant ei hun. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro cynnydd yn agos, herio a'i adolygu.
Hanes uwchgyfeirio
Tachwedd 2022
Cynyddwyd y lefel uwchgyfeirio ar gyfer cynllunio a chyllid i fonitro uwch am nad oedd y bwrdd iechyd wedi gallu llunio cynllun tair blynedd cytbwys y gellid ei gymeradwyo.
Cynyddwyd y lefel uwchgyfeirio ar gyfer ansawdd mewn perthynas â pherfformiad ac amseroedd aros hir i ymyrraeth wedi'i thargedu yn dilyn pryderon ynghylch gofal brys a gofal mewn argyfwng, gofal a gynlluniwyd a chanser a CAMHS.
Ebrill 2024
Isgyfeiriwyd y parthau ansawdd a llywodraethiant o fonitro uwch (lefel 3) i drefniadau arferol (lefel 1).
Isgyfeiriwyd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol o fonitro uwch (lefel 3) i drefniadau arferol (lefel 1).
Tachwedd 2024
Isgyfeiriwyd perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â mesurau gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) i lefel 3 (monitro uwch).
Mawrth 2025
Isgyfeiriwyd perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â mesurau gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) i lefel 1 (trefniadau arferol).
Isgyfeiriwyd perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd a chanser i lefel 3 (monitro uwch).
Gorffennaf 2025
Yn olaf, isgyfeiriwyd cyllid, strategaeth a chynllunio i lefel 1 (trefniadau arferol).
Chwefror 2026
Isgyfeiriwyd perfformiad a chanlyniadau’n ymwneud â chanser i lefel 1.
Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
- ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
- yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
- yn cael eu cynnal mewn modd agored; yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru
Tra bydd y bwrdd iechyd yn destun uwchgyfeirio:
- bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig a chyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd.
- caiff cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar a Prif Weithredwr GIG Cymru, bydd y rhain yn ymdrin â chynnydd yn y parthau ar lefel 4 a lefel 3, ond yn craffu'n fanylach ar gamau gweithredu ac effaith yn y parthau ar lefel 4
- defnyddir y cyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig misol a arweinir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff y pryderon yn ymwneud â'r parth perfformiad a chanlyniadau eu goruchwylio'n effeithiol yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio gofal brys a gofal mewn argyfwng yn fisol
Isgyfeirio
Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo'n bosibl, mae'r meini prawf uwchgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy'n destun uwchgyfeirio.
Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o'r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad y cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).
Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni'r meini prawf isgyfeirio.
Mae 2 ddull isgyfeirio;
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i'w galluogi i ystyried a yw'n briodol isgyfeirio'r trefniadau ymyrryd a roddwyd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i'r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni'r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
- Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barch penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i'r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.
Rolau a chyfrifoldebau
Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:
- cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
- cyfeirio at arferion gorau, canllawiau a fframweithiau perthnasol
- gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd
- adolygu cynlluniau gweithredu a rhoi adborth arnynt
- cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
- galluogi dulliau gweithredu a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol mewn sefydliadau yng Nghymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
- cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
- gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)
Rolau a chyfrifoldebau'r bwrdd iechyd yw:
- penodi Uwch-swyddog(ion) Cyfrifol
- sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio.
- llunio cynllun uwchgyfeirio mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun.
- cyflwyno adroddiadau cynnydd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru.
- rhoi sicrwydd bod prosesau adolygu ffurfiol ar waith yn y bwrdd iechyd i fonitro a chyflawni'r gwelliannau gofynnol.
Perfformiad a chanlyniadau
Gofal brys a gofal mewn argyfwng
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 4 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau cynaliadwy, a rhaid iddo:
- sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith a bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith, yn unol ag ymarfer ar sail tystiolaeth a gofynion cenedlaethol
- sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau gofal heb ei drefnu diogel, amserol ac effeithiol
- cyflawni gweithgarwch yn unol â llwybrau y cytunwyd arnynt a rhoi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith pan fydd perfformiad yn gostwng islaw'r llwybr disgwyliedig
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth gan gleifion yn ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut mae'n ymdrin â nhw
- asesu digwyddiadau parhad busnes a ddatganwyd, gan gynnwys y rhesymau pam, y camau a gymerwyd, a'r gwersi a ddysgwyd
- sicrhau y caiff y camau galluogi ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yng nghanllawiau cynllunio 2025-28 eu cyflawni
- sicrhau bod cleifion yn glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth, gan eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau mewn argyfwng
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo:
- gweithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys y Rhaglen Gofal Sylfaenol Strategol, y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill, a rhoi'r argymhellion hynny ar waith
- cefnogi'r broses o roi cyfleodd a nodir gan GIRFT ac adolygiadau o raglenni cenedlaethol ar waith a'u gwireddu
- datblygu ymateb prydlon i unrhyw arolygiadau dirybudd gan AGIC ac argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- gostyngiad parhaus o 11% yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- gwelliant parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 7% o gleifion yn aros am fwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
- ni ddylai'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol fod yn fwy na 60 munud, a chynnal hynny am dri mis
- gostyngiad parhaus o 5% mewn llwybrau gofal gohiriedig (gan ganolbwyntio ar y rhai sy'n deillio o broblemau asesu) am dri mis yn olynol a chynnal hynny (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
Gofal a gynlluniwyd
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 3 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau gofal a gynlluniwyd cynaliadwy, a rhaid iddo:
- datblygu cynllun gwella cadarn yn unol â gofynion cenedlaethol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- gwella mynediad at wasanaethau gofal a gynlluniwyd gan leihau amseroedd aros yn unol â'r meini prawf isgyfeirio
- cyflawni'r camau galluogi ar gyfer gofal brys yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth gan gleifion yn ymwneud â gofal a gynlluniwyd, a sut mae'n ymdrin â nhw
- sicrhau bod cynllun trawsnewid ar gyfer cleifion allanol yn cael ei roi ar waith yn unol â gofynion y rhaglen gofal a gynlluniwyd
- defnyddio trefniadau gweithio rhanbarthol i wella canlyniadau a gwella mynediad at wasanaethau
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo:
- gweithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill, a rhoi'r argymhellion hynny ar waith
- cefnogi'r broses o roi gofynion y polisi tri A, GIRFT, rhaglenni optimeiddio theatrau, rhaglenni optimeiddio rhwydweithiau gweithredu clinigol ac argymhellion gwella cenedlaethol cysylltiedig ar waith a'u gwireddu
- sicrhau ymatebion effeithiol i arolygiadau dirybudd gan AGIC, argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, a rhaid iddo sicrhau:
- ymgysylltu ac ystyrlon â chleifion mewn perthynas â newidiadau i wasanaethau, polisïau amseroedd aros a darparu cymorth priodol sy'n cadw cleifion yn iach wrth iddynt aros
- bod cleifion yn glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth
- bod buddiannau llwybrau newydd fel profi yn syth, rheoli gofal sylfaenol, hunanreoli a sylw yn ôl symptomau yn cael eu cyfleu'n effeithiol
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio, rhaid iddo:
- sicrhau bod gan 100% o lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 52 wythnos a chynnal hynny am dri mis
- cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 75% o'r holl lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 26 wythnos
- sicrhau bod gan 100% o lwybrau agored amseroedd aros o lai na 104 wythnos a chynnal hynny am dri mis.
- cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 80% o'r holl lwybrau agored amseroedd aros o lai 36 wythnos
- sicrhau gostyngiad parhaus o 12% yn nifer y cleifion sy'n wynebu oedi o 100% ar gyfer eu hapwyntiad dilynol am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- sicrhau bod gan 68% o lwybrau cleifion offthalmoleg R1 amseroedd aros sydd o fewn neu heb fod yn hirach na 25% o'u dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am brawf diagnostig yn aros am lai nag wyth wythnos a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am endosgopi diagnostig yn aros am lai nag wyth wythnos a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am NOUS ac MRI nad yw'n un cardiaidd yn aros am lai nag wyth wythnos a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 90% o gleifion sy'n aros am therapïau yn aros am lai na 14 wythnos a chynnal hynny am dri mis
