Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Medi 2025
Fframwaith uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys y meini prawf ymyrryd ac isgyfeirio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Gorffennaf 2025, mae lefelau uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel a ganlyn:
- lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng, ansawdd gofal mewn perthynas â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a gwasanaethau bregus
- lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd, canser ac arweinyddiaeth a llywodraethiant
Lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chamau ac ymyriadau uniongyrchol i gefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti i ysgogi gwelliannau. Maent yn cynnwys cyfres o ymyriadau a gynlluniwyd i ddatrys y problemau o fewn amserlen resymol. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi'r ymyriadau ar waith. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.
Pennir lefel 3 (monitro uwch) pan fydd Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon difrifol yn ymwneud â sefydliad y GIG. Bydd gweithgarwch monitro yn digwydd yn amlach o gymharu â threfniadau arferol, ac mae’n bosibl y bydd angen dulliau monitro ehangach, er enghraifft rhyngweithio a chyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â diweddariadau cynnydd ysgrifenedig a chyflwyno tystiolaeth, gan gynnwys cynlluniau gweithredu wedi’u diweddaru a data ansoddol a meintiol. Bydd angen i sefydliad y GIG ddangos ei fod yn ymateb mewn modd rhagweithiol i'r lefel uwchgyfeirio, a bydd angen iddo roi prosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon/problemau hyn ac ysgogi gwelliant ei hun. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro cynnydd yn agos, ei herio a'i adolygu.
Hanes uwchgyfeirio
Medi 2022
Cynyddwyd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd o fonitro uwch i ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyllid a chynllunio. Parhaodd y bwrdd iechyd i fod yn destun monitro uwch yn dilyn pryderon yn ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng, gofal a gynlluniwyd, gan gynnwys canser, gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc a niwroddatblygiad.
Ionawr 2024
Uwchgyfeiriwyd y bwrdd iechyd i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu). Roedd y ffaith bod y sefydliad cyfan wedi'i uwchgyfeirio i lefel 4 yn adlewyrchu pryderon cynyddol ym mhob un o barthau'r fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio.
Mawrth 2025
Isgyfeiriwyd y bwrdd iechyd i lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd, CAMHS ac arweinyddiaeth a llywodraethiant.
Gorffennaf 2025
Isgyfeiriwyd y bwrdd iechyd i lefel 3 ar gyfer canser, ac i lefel 1 ar gyfer CAMHS.
Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y 5 lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
- ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
- yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
- yn cael eu cynnal mewn modd agored ac yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru
Tra bydd y bwrdd iechyd yn destun uwchgyfeirio:
- bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) a chyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd (JET)
- caiff cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar a Prif Weithredwr GIG Cymru, bydd y rhain yn ymdrin â chynnydd yn y parthau ar lefel 4 a lefel 3, ond yn craffu'n fanylach ar gamau gweithredu ac effaith yn y parthau ar lefel 4. Bydd cyfarfodydd mis Mai a mis Tachwedd yn rhan o gyfarfod y Tîm Gweithredol ar y Cyd
- cytunir ar amlder y cyfarfodydd cyswllt lefel 4 ynghylch cyllid, strategaeth a chynllunio â Perfformiad a Gwella GIG Cymru, bydd y rhain yn archwilio'r cynnydd a wnaed yn erbyn y cofnodlyfr gweithredu, yn adolygu tystiolaeth ac yn cytuno ar allbynnau i'w cynnwys yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio a arweinir gan Lywodraeth Cymru
- defnyddir y cyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig misol a arweinir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff y pryderon yn ymwneud â'r parth perfformiad a chanlyniadau eu goruchwylio'n effeithiol yn barhaus
Isgyfeirio
Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo'n bosibl, mae'r meini prawf uwchgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy'n destun uwchgyfeirio.
Bydd y broses isgyfeirio yn digwydd un lefel ar y tro, a bydd lefel yr oruchwyliaeth a’r ymyrraeth yn lleihau yn ystod pob cam isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad y cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).
Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni'r meini prawf isgyfeirio.
Mae 2 ddull isgyfeirio;
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i'w galluogi i ystyried a yw'n briodol isgyfeirio'r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i'r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni'r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
- Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i'r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig.
Swyddogaethau a chyfrifoldebau
Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:
- cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
- cyfeirio at ganllawiau arferion gorau a fframweithiau perthnasol
- gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd
- adolygu cynlluniau gweithredu a rhoi adborth arnynt
- cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
- galluogi dulliau gweithredu a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol mewn sefydliadau yng Nghymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
- cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
- gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)
Rolau a chyfrifoldebau'r bwrdd iechyd yw:
- penodi Uwch-swyddog(ion) Cyfrifol ar gyfer pob maes uwchgyfeirio
- sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
- cynhyrchu cynllun lefel 3 a lefel 4 realistig a chyflawnadwy mewn ymateb i'r meysydd sy'n peri pryder ac yn unol â'r meini prawf isgyfeirio y cytunwyd arnynt
- cyflwyno adroddiadau cynnydd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
- rhoi sicrwydd bod prosesau adolygu ffurfiol ar waith yn y bwrdd iechyd i fonitro a chyflawni'r gwelliannau gofynnol
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Cyllid
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth ariannol ar lefel 4 yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd weithredu a:
- Dangos bod y prosesau llywodraethiant a rheolaeth ariannol yn gadarn a rhoi sicrwydd digonol eu bod yn effeithiol drwy gynnal adolygiad o'r trefniadau rheolaeth ariannol sydd ar waith yn erbyn fframweithiau arferion gorau priodol a datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau, a'i roi ar waith.
- Cyfleu ffactorau ysgogi'r diffyg presennol yn glir er mwyn llywio dull trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu a fydd yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau costau mewn modd cynaliadwy, ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
- Tystiolaeth o bolisïau a phrosesau clir sy'n cefnogi'r gwaith o nodi, cyflawni a monitro pob cynllun arbedion a chyfle. Dylai hyn gynnwys llunio fframwaith cyfleoedd clir a chadarn (a llif) sy'n cynnwys cyfleoedd realistig i gefnogi a rheoli'r heriau byrdymor a wynebir, ynghyd ag ysgogi'r newidiadau trawsnewidiol ar raddfa fwy a fydd yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor.
- Dangos tystiolaeth o strategaeth a dull cynllunio integredig i gyflawni sefyllfa alldro 2024 i 2025 a osodwyd ar gyfer y bwrdd iechyd o leiaf, gyda map ffordd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni cynllun adennill costau dros y tymor canolig. Dylai hyn gynnwys tybiaethau cynllunio clir a realistig sy'n triongli ag amcanion strategol tymor hwy y sefydliad mewn perthynas â darparu gwasanaethau, y gweithlu, seilwaith, ac ati.
- Herio a chynnal prawf straen o gynllun y bwrdd iechyd ar gyfer 2025 i 2026 a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella.
- Darparu llwybr ariannol gwell yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd gan Fwrdd y sefydliad, gan gynnwys cynnydd sylweddol tuag at gydbwysedd ariannol yn ystod y flwyddyn dros y 3 blynedd nesaf.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol drwy:
- fframwaith llywodraethiant ariannol yn y bwrdd iechyd sy'n gadarn o ran cynllun a gweithrediad, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau arferion gorau
- strwythur y pwyllgor ariannol; wedi'i gyfleu yn glir ac yn mynd i'r afael â risgiau allweddol
- adroddiadau ariannol a chyflwyniadau ategol sy'n cynnwys y dadansoddiad a'r esboniad naratif sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r rheolwyr a'r bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau
- rheolaethau ariannol yn y bwrdd iechyd sy'n gadarn o ran eu dyluniad a'r broses o'u rhoi ar waith, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau model, adolygiad o'r broses o roi'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog ar waith, adolygiadau archwilio mewnol ac adolygiadau o reolaethau eraill
- swyddogaeth gyllid sydd â'r galluogrwydd angenrheidiol i gefnogi anghenion y sefydliad ehangach
- deiliaid cyllidebau a rheolwyr i roi cyfrif am gyflawni eu cynlluniau ariannol
- cyflawni ei gynllun gweithredu i wella'r amgylchedd rheoli ariannol a llywodraethu ariannol
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos dealltwriaeth o'r diffyg presennol a'r ffactorau allweddol, a rhaid iddo:
- ddangos bod dealltwriaeth glir o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd yn y diffyg ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys dadansoddiad penodol yn ôl maes gwasanaeth allweddol a ffactor sy'n rheoli costau
- adolygu buddsoddiadau'r flwyddyn flaenorol i asesu a yw'r buddiannau a gynlluniwyd wedi cael eu cyflawni
- rhoi proses gadarn ar waith ar gyfer herio diffygion sylfaenol a nodir ar lefelau is-adrannol lleol
- deall bod y ffactorau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am dwf y gweithlu yn cael eu deall yn dda; yn cael eu hadolygu am werth parhaus; ac yn cael eu monitro trwy'r adroddiad perfformiad integredig
- sicrhau bod adroddiadau perfformiad integredig yn nodi ac yn monitro metrigau yn erbyn ffactorau sy'n rheoli costau gweithgarwch allweddol
- O ganlyniad i'r uchod, mae dulliau trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn datblygu ac yn gwireddu cyfleoedd, a rhaid iddo:
- fod â phroses a dull clir ym mhob rhan o'r sefydliad er mwyn cefnogi'r broses o nodi, cyflawni a monitro'r holl gynlluniau arbedion
- datblygu fframwaith cyfleoedd cynhwysfawr gyda llif cyson o gyfleoedd, a sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer datblygu cyfleoedd yn gynlluniau arbedion a chyflawni'r cynlluniau arbedion hyn o ganlyniad i hynny
- troi cyfleoedd cenedlaethol a nodir drwy'r Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd yn arbedion lleol.
- rhoi polisïau a phrosesau clir ar waith i alluogi deiliaid cyllidebau a rheolwyr i wireddu a chyflawni'r cynlluniau arbedion a nodir
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio egwyddorion gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth ar draws y sefydliad trwy wasanaethau a llwybrau penodol
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos strategaeth a chynllun ariannol clir drwy:
- gynllun blynyddol integredig a thrionglog, gyda thybiaethau cynllunio clir a realistig i gyflawni sefyllfa (reolaidd) o adennill costau dros y tymor canolig, gyda map ffordd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni
- cynllun ymgysylltu clir i gyfleu'r angen am welliannau ariannol ym mhob rhan o'r sefydliad
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn cyflawni cynllun drwy:
- sicrhau gwelliant clir o ran y trywydd ariannol a gynlluniwyd ar gyfer 2025 i 2026 (er enghraifft, cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r cyfanswm rheoli targed), gan gynnwys cynnydd pellach tuag at nodi a chyflawni cyfleoedd rheolaidd
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- dangos bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol cadarn ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf
- gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer lefel 4, gan gynnwys camau i wella dealltwriaeth y sefydliad o'r diffyg presennol a'r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd
- dangos llwybr gwella ariannol sylweddol i gyflawni o leiaf sefyllfa alldro 2024 i 2025 a chynnydd tuag at lwybr tair blynedd i sicrhau cydbwysedd ariannol yn y flwyddyn
Strategaeth a chynllunio
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â strategaeth a chynllunio ar lefel uwchgyfeirio 4 yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd roi'r cynllun a gymeradwywyd ar waith a dangos ei fod wedi cyflawni cerrig milltir ynddo, a rhaid iddo:
- ddangos tystiolaeth o waith cynllunio integredig gwell ym mhob rhan o'r sefydliad i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig y gellir ei gymeradwyo, gan roi trywydd ar gyfer cyflawni uchelgais tymor hwy y bwrdd iechyd
- cyflawni cynllun blynyddol credadwy fel cam tuag at gynllun tymor canolig integredig llawn a mantoledig
- gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r targedau gweinidogol, y disgwyliadau o ran cyflawni a'r camau galluogi (a nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2028), y meini prawf atebolrwydd a'r gofynion ar gyfer lefel 4
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae cyflawni cynllun a strategaeth glinigol yn cefnogi:
- penderfyniadau cynllunio a buddsoddi yn y dyfodol
- gwneud penderfyniadau ar draws y sefydliad
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae cynllunio rhanbarthol yn cefnogi'r bwrdd iechyd i:
- sicrhau y caiff amcanion allweddol eu cyflawni drwy'r Cyd-bwyllgor â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan ddangos cydweithredu rhanbarthol lle y bo angen i sicrhau diogelwch parhaus, ansawdd a hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus gwasanaethau rhanbarthol, gan gynnwys orthopedeg ac offthalmoleg
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cyflwyno cynllun blynyddol derbyniol yn unol â'r fframwaith cynllunio cyfredol
- dangos tystiolaeth o waith cynllunio integredig ym mhob rhan o'r sefydliad sy'n cefnogi'r broses o ddatblygu cynllun blynyddol cydlynol a chyflawnadwy
- dangos map trywydd clir a rhoi cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith
- cynyddu hyder Llywodraeth Cymru ynghylch cyflawni yn seiliedig ar hunanasesiad yn erbyn y matrics cynllunio aeddfedrwydd y cytunwyd arno
- dangos tystiolaeth o'r cynnydd a wnaed gyda chynllunio rhanbarthol mewn perthynas ag orthopaedeg, offthalmoleg, gwasanaethau strôc, wroleg, a gwasanaethau gastroberfeddol uchaf yn 2025 i 2026 fel y dangosir gan gynlluniau ar y cyd, gwell trefniadau gwaith, a mwy o weithgarwch a gyflawnir trwy weithio rhanbarthol
Gwasanaethau clinigol
Bydd y ffocws ar ymyrraeth mewn perthynas â gwasanaethau bregus ar lefel 4 yn newid dros amser mewn ymateb i heriau o ran y gweithlu a'r ystad. Bydd y ffocws presennol ar y naw maes clinigol a nodwyd yng nghynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd:
- Gofal critigol
- Dermatoleg
- Orthopedeg ddewisol
- Offthalmoleg
- Wroleg
- Llawfeddygaeth gyffredinol frys
- Strôc
- Endosgopi
- Radioleg
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- tystiolaeth bod gan y bwrdd iechyd y dull priodol i ddeall y ffactorau ysgogi y tu ôl i wasanaeth bregus drwy driongli pwyntiau data allweddol, gan gynnwys lefelau staffio, adborth gan staff a chleifion, pryderon, digwyddiadau, adborth gan randdeiliaid (AGIC, Archwilio Cymru, Crwneriaid EF, y Colegau Brenhinol, Llais ac ati), adolygiadau marwolaethau, y ddyletswydd ansawdd/gonestrwydd, atal a rheoli heintiau, perfformiad, arweinyddiaeth glinigol a meddygol
- dangos bod gwasanaethau bregus yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth glinigol gref, ac mae ganddynt gynllun gwella integredig effeithiol, strwythur rheoli prosiectau a chymorth trawsnewid effeithiol
- dangos bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni metrigau perfformiad allweddol
- tystiolaeth y caiff holl argymhellion y Colegau Brenhinol, AGIC ac adolygiadau eraill sy'n ymwneud yn benodol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu cadarnhau a naill ai eu dilysu neu eu cadarnhau neu eu hamserlennu i gael eu cyflawni fel rhan o gynllun gwella tymor hwy y bwrdd iechyd
- tystiolaeth bod y Bwrdd yn canolbwyntio ar wasanaethau bregus a bod ganddo ymateb a chynllun gweithredu cadarn ar gyfer pob maes
- sicrhau bod gan 65% o lwybrau cleifion offthalmoleg R1 amseroedd aros sydd o fewn neu heb fod yn hirach na 25% o'u dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a chynnal hynny am 3 mis
Perfformiad a chanlyniadau
Gofal brys a gofal mewn argyfwng
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 4 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos bod gwasanaethau'n gynaliadwy, a rhaid iddo:
- sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith a bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith, yn unol ag ymarfer ar sail tystiolaeth a gofynion cenedlaethol
- gwella perfformiad gofal heb ei drefnu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal heb ei drefnu diogel, amserol ac effeithiol ar gael i gleifion, gan leihau amseroedd aros, oedi a gwella ansawdd
- cyflawni gweithgarwch yn unol â llwybrau y cytunwyd arnynt a rhoi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith pan fydd perfformiad yn gostwng islaw'r llwybr disgwyliedig
- cyflawni'r camau galluogi ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth gan gleifion yn ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut mae'n ymdrin â nhw, fel rhan o'r cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol
- asesu digwyddiadau parhad busnes a ddatganwyd, gan gynnwys y rhesymau pam, y camau a gymerwyd, a'r gwersi a ddysgwyd
- sicrhau bod cleifion yn glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth, gan eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau mewn argyfwng
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo:
- weithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys y Rhaglen Gofal Sylfaenol Strategol, y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill, a rhoi'r argymhellion hynny ar waith
- cefnogi'r broses o roi cyfleodd a nodir gan GiRFT ac adolygiadau o raglenni cenedlaethol ar waith a'u gwireddu
- datblygu ymateb prydlon i unrhyw arolygiadau dirybudd gan AGIC ac argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- gostyngiad parhaus o 11% yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- gwelliant misol parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 7% o gleifion yn aros am fwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
- gwelliant parhaus o ran sicrhau nad yw'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol yn fwy na 60 munud
- gostyngiad parhaus o 5% mewn llwybrau gofal gohiriedig (gan ganolbwyntio ar y rhai sy'n deillio o broblemau asesu) am dri mis yn olynol a chynnal hynny (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
Y metrigau galluogi ar gyfer isgyfeirio yw:
- gostyngiad parhaus o 5% y mis o leiaf (o linell sylfaen ym mis Tachwedd 2023) yn nifer y bobl sy'n cael eu derbyn fel achos brys sy'n aros yn yr ysbyty am fwy na 21 diwrnod, am dri mis yn olynol
- gostyngiad parhaus o 5% y mis o leiaf yn nifer y materion mewn asesiadau llwybrau gofal am dri mis yn olynol (o linell sylfaen ym mis Tachwedd 2023)
Ansawdd gofal mewn perthynas â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd
Mae'r ymyrraeth perfformiad a chanlyniadau lefel 4 a'r ffocws ar gyfer ansawdd gofal sy'n gysylltiedig â Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd (HCAIs) yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae'n darparu gwasanaethau cynaliadwy drwy:
- sefydlogi'r trywydd cynyddol o achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a thystiolaeth o welliant parhaus ynghyd â dull a chynllun gwella ansawdd cadarn sy'n cael eu goruchwylio a'u monitro gan y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad a'r Bwrdd
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos llywodraethiant a arweinyddiaeth briodol drwy:
- gynllun gwella clir yn seiliedig ar ddadansoddiad o achosion sylfaenol er mwyn mynd i'r afael ag achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd sy'n dechrau mewn ysbyty
- prosesau ymateb clir ac effeithiol ar waith i ymateb i frigiadau o achosion, gan adrodd yn uniongyrchol i'r Bwrdd
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- lleihau nifer yr heintiau C-Diff sy'n dechrau yn yr ysbyty 25% a chynnal hynny am dri mis (o linell sylfaen o nifer cyfartalog o achosion yn chwarter 3 (2023 i 2024) o 8 achos i ddim mwy na 6 y mis)
- lleihau nifer yr heintiau Staffylococws Awrëws sy'n dechrau yn yr ysbyty 33% a chynnal hynny am dri mis (o linell sylfaen o nifer cyfartalog o achosion yn chwarter 3 (2023 i 2024) o 3 achos i ddim mwy na 2 y mis)
- lleihau nifer yr heintiau E-Coli sy'n dechrau yn yr ysbyty 25% a chynnal hynny am dri mis (o linell sylfaen o nifer cyfartalog o achosion yn chwarter 3 (2023 i 2024) o 7 achos i ddim mwy na 5 y mis)
Gofal a gynlluniwyd a chanser
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 3 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal a gynlluniwyd a chanser yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae ganddynt wasanaethau gofal a gynlluniwyd a chanser cynaliadwy drwy:
- gynllun gwella cadarn yn unol â gofynion cenedlaethol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth
- gwell mynediad at wasanaethau gofal a gynlluniwyd a chanser gan leihau amseroedd aros yn unol â'r meini prawf isgyfeirio
- cyflawni'r camau galluogi ar gyfer gofal brys a chanser yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
- sicrhau cydymffurfiaeth â phob agwedd ar y llwybrau delfrydol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau canser a chynnal perfformiad ym maes canser yn unol â'r safonau y cytunwyd arnynt a sicrhau y caiff yr ôl-groniad o gleifion sy'n aros rhwng 62 a 104 diwrnod eu cadw i'r lefel isaf posibl y cytunwyd arni
- sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth gan gleifion yn ymwneud â gofal a gynlluniwyd a chanser, a sut mae'n ymdrin â nhw yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol
- rhoi cynllun trawsnewid ar gyfer cleifion allanol ar waith yn unol â gofynion y rhaglen gofal a gynlluniwyd.
- defnyddio trefniadau gweithio rhanbarthol i wella canlyniadau a gwella mynediad at wasanaethau
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo:
- weithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd, y Rhaglen Adfer ar ôl Canser a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill, a rhoi'r argymhellion hynny ar waith
- cefnogi'r broses o roi gofynion y polisi tair A, GiRFT, rhaglenni optimeiddio theatrau, rhaglenni optimeiddio rhwydweithiau gweithredu clinigol ac argymhellion gwella cenedlaethol cysylltiedig ar waith a'u gwireddu
- ymateb yn effeithiol i arolygiadau dirybudd gan AGIC, argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos gwell cyfathrebu ac ymgysylltu trwy:
- ymgysylltu yn effeithiol ac ystyrlon â chleifion mewn perthynas â newidiadau i wasanaethau, polisïau amseroedd aros a darparu cymorth priodol sy'n cadw cleifion yn iach wrth iddynt aros
- sicrhau bod cleifion yn glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth
- sicrhau bod buddiannau llwybrau newydd fel profi yn syth, rheoli gofal sylfaenol, hunanreoli a sylw yn ôl symptomau yn cael eu cyfleu'n effeithiol
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cynnal cydymffurfiaeth o 63% o leiaf am dri mis yn erbyn y targed ar gyfer achosion posibl o ganser.
- sicrhau bod gan 100% o lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 52 wythnos a chynnal hynny am dri mis
- cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 75% o'r holl lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 26 wythnos
- sicrhau bod gan 100% o lwybrau agored amseroedd aros o lai na 104 wythnos a chynnal hynny am dri mis
- cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 80% o'r holl lwybrau agored amseroedd aros o lai 36 wythnos
- sicrhau gwelliant misol parhaus tuag at gyflawni gostyngiad o 12% yn nifer y cleifion sy'n wynebu oedi o 100% ar gyfer eu hapwyntiad dilynol am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am brawf diagnostig yn aros am lai nag wyth wythnos a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am endosgopi diagnostig yn aros am lai nag wyth wythnos a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am NOUS ac MRI nad yw'n un cardiaidd yn aros am lai nag wyth wythnos a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 90% o gleifion sy'n aros am therapïau yn aros am lai na 14 wythnos a chynnal hynny am dri mis
Llywodraethiant ac arweinyddiaeth
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 3 mewn perthynas â llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn cwmpasu'r meysydd canlynol a bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd weithredu a dangos y canlynol.
Rhaid i'r bwrdd iechyd ddatblygu gwell llywodraethiant i ddangos:
- bod pob rhan o'r sefydliad yn glir ynghylch atebolrwydd a disgwyliadau ar bob lefel er mwyn sicrhau cyflawni llwyddiannus
- bod prosesau gwneud penderfyniadau effeithiol ar waith sy'n cefnogi rheolaeth ariannol effeithiol, gwelliant mewn perfformiad, a gofal diogel, amserol ac o ansawdd
- bod prosesau gweithredu safonol diwygiedig ar waith yn dilyn yr ailstrwythuro sefydliadol a’u bod wedi'u harchwilio'n llwyddiannus
- strwythur rheoli rhaglenni effeithiol, sy'n pennu amcanion ar gyfer y gwaith gwella, gyda chynlluniau sy'n dangos sut mae'r gwaith yn cael ei gyflawni a pha rwystrau a allai effeithio ar sicrhau canlyniadau; strwythurau gyda threfniadau effeithiol, agored a thryloyw ar gyfer adrodd, gyda goruchwyliaeth strategol effeithiol gan y Bwrdd
- bod y bwrdd iechyd yn sefydliad sy'n seiliedig ar ddata sy'n sicrhau y caiff data eu deall a'u defnyddio wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel
- bod y Bwrdd a'r Pwyllgorau priodol yn goruchwylio'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau ac yn craffu arnynt mewn modd effeithiol yn gyson
- bod cynlluniau dilyniant a datblygu ar waith i sicrhau effeithlonrwydd gweithredol bob amser
Rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos a gweithredu gwell arweinyddiaeth drwy:
- gyflawni ac arweinyddiaeth sy'n galluogi'r sefydliad i roi amcanion rhaglenni strategol cenedlaethol ar waith
- gwelliant o ran darparu gwasanaethau cynaliadwy gan roi mwy o ffocws ar y tymor byr a'r tymor canolig.
- sgiliau arwain a rheoli yn cael eu datblygu'n barhaus ar bob lefel/ym mhob proffesiwn er mwyn cryfhau aeddfedrwydd yr arferion rheoli
- canolbwyntio ar bob agwedd ar gynllunio strategol ar gyfer y gweithlu a gwneud y defnydd gorau posibl o sgiliau ei staff presennol.
- parhau i ymgorffori a dangos ymddygiadau a gwerthoedd bywyd ym mhob rhan o'r sefydliad.
- arweinyddiaeth glinigol weladwy ac effeithiol
- newidiadau cadarnhaol mewn diwylliant mewn meysydd allweddol fel gweithio amlddisgyblaethol.
- uwch-arweinwyr yn gosod y diwylliant a'r tôn a ddymunir ar gyfer y sefydliad sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant, didwylledd a thryloywder
- mae diwylliant o wrando, dysgu a gwella yn cael ei ymgorffori ym mhob rhan o'r sefydliad yn seiliedig ar driongli cynnar a chyflym a datrys problemau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys canlyniadau cleifion ac adborth gan staff a defnyddwyr
Rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae hunanasesiad y Bwrdd yn cefnogi:
- adolygu risgiau strategol a sicrhau bod y ffordd y caiff risgiau eu rheoli yn gyson ag awydd y bwrdd iechyd
- fframwaith llywodraethiant priodol ar waith, yn enwedig mewn perthynas â chraffu'n briodol ar berfformiad, arddull arwain ac ymarfer
- cynnal hunanasesiad rheolaidd yn erbyn matrics aeddfedrwydd y cytunwyd arno
- ymateb i ganlyniad hunanasesiadau ac arsylwadau ac asesiadau allanol drwy bennu amcanion a fydd yn gwella effeithiolrwydd
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- mae prosesau gweithredu safonol diwygiedig ar waith yn dilyn yr ailstrwythuro sefydliadol a aseswyd gan archwiliad mewnol effeithiol
- gwaith goruchwylio a chraffu effeithiol gan y Bwrdd a'r Pwyllgor(au) priodol mewn perthynas â'r ddarpariaeth bresennol fel y dangoswyd gan bapurau'r Pwyllgor(au) a'r Bwrdd, gan gynnwys tystiolaeth y Bwrdd yn ystyried y Ddyletswydd Ansawdd i lywio ei benderfyniadau
- mae strwythur rheoli rhaglenni a pherfformiad effeithiol ar waith, gyda goruchwyliaeth effeithiol gan y Bwrdd a fframwaith perfformiad a chyflawni clir sy'n ysgogi gwellian
- Caiff y Bwrdd wybod am risgiau allweddol a meysydd sy'n peri pryder yn rheolaidd a gall graffu'n adeiladol ar berfformiad a goruchwylio a chraffu'n effeithiol
- mae systemau llywodraethiant a sicrwydd clir ar waith a chaiff materion eu huwchgyfeirio'n briodol drwy strwythurau a phrosesau clir
- tîm llawn a pharhaol o Gyfarwyddwyr Gweithredol a strwythur sefydliadol clir, ac mae cynlluniau dilyniant a datblygu cadarn ar waith i sicrhau capasiti a galluogrwydd digonol ym mhob rhan o'r sefydliad i ddarparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel
- mae rhaglenni arwain effeithiol ar waith i gefnogi'r broses barhaus o feithrin sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel / ym mhob proffesiwn i atgyfnerthu aeddfedrwydd rheoli
- ymgysylltu gwell gan staff yn arolygon GIG Cymru
- hunanasesiad yn erbyn y matrics aeddfedrwydd llywodraethu ac arweinyddiaeth sy'n dangos y lefel y cytunwyd arni
- mae'r Bwrdd yn mynd i'r afael yn briodol â phryderon a godwyd drwy reoleiddwyr y GIG a'r Colegau Brenhinol
