Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru: Mai 2025
Fframwaith uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan gynnwys y meini prawf ymyrryd ac isgyfeirio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Chwefror 2025, lefel uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â rhaglenni mawr.
Dyma'r tro cyntaf i Iechyd a Gofal Digidol Cymru fod yn destun uwchgyfeirio.
Pennir lefel 3 (monitro uwch) pan fydd Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon difrifol yn ymwneud â sefydliad y GIG. Bydd monitro’n digwydd yn amlach nag o dan drefniadau arferol, a hynny o bosibl drwy amrywiaeth ehangach o ffyrdd, gan gynnwys rhyngweithiadau a chyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chyflwyno diweddariadau ysgrifenedig ar gynnydd a thystiolaeth, gan gynnwys cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru a data ansoddol a meintiol. Bydd angen i sefydliad y GIG ddangos ei fod yn ymateb mewn modd rhagweithiol i'r lefel uwchgyfeirio, a bydd angen iddo roi prosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon neu broblemau hyn ac ysgogi gwelliant ei hun. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro cynnydd yn agos, ei herio a'i adolygu.
Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y 5 lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob corff iechyd ei asesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
- ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
- yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
- yn cael eu cynnal mewn modd agored, yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG
Tra bydd y sefydliad yn destun uwchgyfeirio:
- bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a chyfarfodydd y tîm gweithredol ar y cyd
- bydd cyfarfodydd y tîm gweithredol ar y cyd ym mis Mehefin a mis Hydref 2025 yn bwyntiau adolygu ffurfiol fel rhan o'r monitro uwch
- caiff cyfarfodydd cyswllt monitro uwch eu hintegreiddio â chyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a amserlennwyd a'u defnyddio i archwilio'r cynnydd a wnaed yn erbyn y cofnodlyfr gweithredu, adolygu tystiolaeth a chytuno ar allbynnau i'w cynnwys yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio a arweinir gan Lywodraeth Cymru
Rolau a chyfrifoldebau
Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:
- cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
- cyfeirio at arferion gorau, canllawiau a fframweithiau perthnasol
- gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd
- adolygu a rhoi adborth ar gynhyrchion a ddatblygwyd
- cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
- galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
- cyfarwyddo Gweithrediaeth y GIG neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth lle bo angen ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r sefydliad i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
- penodi arbenigwr digidol allanol i gefnogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn perthynas â galluogwyr pwysig sy'n gysylltiedig â gwasanaethau digidol
- cyflwyno llywodraethiant diwygiedig i'r system i gefnogi'r broses o gyflawni rhaglenni cenedlaethol
Rolau a chyfrifoldebau Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw:
- penodi uwch-swyddog cyfrifol
- sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
- llunio cynllun monitro uwch mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
- cyflwyno adroddiadau cynnydd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
- rhoi sicrwydd bod prosesau adolygu ffurfiol ar waith yn y sefydliad i fonitro a chyflawni'r gwelliannau gofynnol
Ymyrraeth mewn perthynas â pherfformiad
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â pherfformiad ar lefel uwchgyfeirio 3 yn ymdrin â chyflawni rhaglenni mawr.
Bydd yn ofynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn cyflawni rhaglenni cenedlaethol, ac yn ystod 2025 i 2026, rhaid iddo gytuno ar y cerrig milltir craidd sy'n gysylltiedig â'r canlynol, a'u cyflawni:
- targed cenedlaethol presennol ac i'r dyfodol ar gyfer datblygu a dylunio saernïaeth prosesau busnes
- Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd (DSPP), gan ganolbwyntio ar ddarparu ap GIG Cymru sy'n helpu i adfer y system a gwella canlyniadau cleifion
- cysylltu gofal â'r cwmpas a'r achos busnes y cytunwyd arnynt, ar ôl cytuno arnynt
- saernïaeth data, gan gynnwys yr Adnodd Data Cenedlaethol a Safonau Data
- rhaglenni diagnostig, yn benodol y rhaglen Caffael System Gwybodeg Radioleg (RISP) a rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LIMS) a'u defnydd yn y bwrdd iechyd
- gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys y broses barhaus o symud i Egton Medical Information Systems o VISION In Practice Systems (Cegedim), a chymorth ar gyfer rhaglenni gofal sylfaenol cenedlaethol
- meddyginiaethau a rhagnodi digidol, gan gynnwys cyflwyno system ragnodi electronig a datblygu cofnod meddyginiaethau a rennir
- gofal dwys drwy gynnal asesiad ar gamau nesaf y rhaglen hon, a'r adnoddau y dylid eu darparu ar ei gyfer a'r ffordd y dylid ei reoli
- cytuno ar gerrig milltir ar gyfer y Rhaglen Gwybodeg Canser, sy'n disodli'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r sefydliad gael ei isgyfeirio, rhaid iddo:
- gyflawni cerrig milltir y cytunwyd arnynt
- rheoli rhaglenni, risgiau a gwaith cynllunio drwy gytuno ar ddulliau gweithredu a gweithdrefnau diwygiedig mewn perthynas â chynllunio, perfformiad, a risgiau a rheoli rhaglenni, a'u rhoi ar waith
- gwneud cynnydd da yn erbyn cerrig milltir yn y cynllun gweithredu sy'n gysylltiedig â'r argymhellion o'r arolwg rhanddeiliaid
