Diweddariad ar sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun i gefnogi mudwyr i ymgartrefu'n dda mewn cymunedau ledled Cymru.
Cynnwys
Llwyddiannau
- Eleni fe wnaethom gryfhau'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i Fframwaith Integreiddio Mudwyr Cymru ac ehangu ein gallu i ddeall profiadau mudwyr ar draws meysydd polisi allweddol.
- Diweddarodd timau ystadegau ledled Llywodraeth Cymru sawl dangosydd sy'n llywio'rFframwaith, gan gynnwys mesurau sy'n gysylltiedig â gwaith, megis canran y bobl mewn cyflogaeth sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol.
- Mae dadansoddiadau newydd wedi'u cynnal ar setiau data sy'n cynnwys ffactorau newidiol gwlad enedigol. Cynhyrchodd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) ymchwil sy'n archwilio'r sawl sydd wedi cofrestru â meddygon teulu a gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag iechyd ymhlith mudwyr, gan ddefnyddio data gweinyddol ac arolygon. Dadansoddodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ganlyniadau iechyd a lles ymhlith disgyblion a anwyd yn y DU a disgyblion nad ydynt wedi'u geni yn y DU o Arolygon Iechyd a Lles Myfyrwyr Uwchradd 2017 a 2021.
- Mae gwlad enedigol bellach wedi'i hychwanegu at nifer o gasgliadau data gweinyddol newydd, gan gynnwys y Gronfa Gynghori Sengl, cynllun peilot Cymorth Digartrefedd, a Chynnig Gofal Plant Cymru. Bydd y datblygiadau hyn yn helpu i fonitro'r defnydd o wasanaethau cynghori, atal digartrefedd a chefnogi teuluoedd yn well.
- Mae goleuni pellach ar hawliau ymfudwyr yn dod i'r golwg trwy rwydwaith VOICES y Groes Goch Brydeinig. Yn sgil cyllid a hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru, bydd arbenigwyr ar sail eu profiad yn ymgymryd â grwpiau ffocws yn 2026 i gasglu gwybodaeth a barn ymfudwyr am eu hawliau.
- Mae gwaith hefyd wedi mynd rhagddo ar sut y bydd data'r Fframwaith yn cael eu cyflwyno. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, asesodd astudiaeth ddichonoldeb gan fyfyriwr ôl-raddedig opsiynau ar gyfer arddangos dangosyddion mewn ffyrdd sy'n ystyrlon ac yn hygyrch i ddefnyddwyr terfynol. Bydd y canfyddiadau yn llywio cam nesaf y datblygiad yn 2026.
- Er mwyn cyfrannu at gyflawni'r gwaith, mae ystadegydd wedi'i ychwanegu at y tîm sy'n gyfrifol am reoli casglu, dadansoddi a lledaenu data sy'n gysylltiedig â'r Fframwaith Integreiddio Mudwyr.
- Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu prosiect ymchwil sy'n archwilio cwmpas, ymwybyddiaeth a phrofiad defnyddwyr cyfredol y Fframwaith. Yn sgil hynny, mae cyfweliadau â rhanddeiliaid wedi'u cynnal i ddeall canfyddiadau, rhwystrau a chyfleoedd i wella.
- Mae cyhoeddi'r Fframwaith Integreiddio Mudwyr a'i ddiweddariadau blynyddol rheolaidd yn cyflawni'r ymrwymiad yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i gyhoeddi fframwaith cenedlaethol ar integreiddio mudwyr.
Cynnydd yn ôl maes
Maes 1: gwaith
- Addasrwydd ar gyfer cyflogaeth: Diweddaru dangosyddion o ystadegau marchnad lafur Llywodraeth Cymru, a gwaith parhaus i sicrhau adroddiadau rheolaidd.
- Diogelwch swyddi ac enillion: Mae data ynghylch y cyflog byw gwirioneddol a'r math o gontract mewn perthynas â mudwyr yn parhau i gael eu diweddaru gan ddefnyddio ystadegau swyddogol.
- Tlodi incwm: Mireinio parhaus i ymgorffori dadansoddiad yn ôl nodweddion demograffig.
- Boddhad mewn swydd ac ansicrwydd ariannol: Archwilio parhaus o'r posibiliadau o ran cysylltu arolygon, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021.
Maes 2: tai
- Gorlenwi a diogelwch tenantiaeth: Mae’r ddibyniaeth ar Gyfrifiad 2021 yn parhau; ac mae ffynonellau amgen sy'n seiliedig ar arolygon yn cael eu hadolygu.
- Digartrefedd: Mae cynnwys gwlad enedigol mewn cynllun peilot newydd Cymorth Digartrefedd yn dangos cynnydd a fydd yn taflu goleuni ar ddatblygu dangosyddion yn y dyfodol.
- Boddhad o ran llety: Mae'r gwaith yn parhau ar y cysylltiad posibl rhwng Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021.
Maes 3: iechyd a gofal cymdeithasol
- Iechyd a lles: Mae tystiolaeth newydd gan YDG Cymru a'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn taflu goleuni pellach ar ymddygiadau iechyd a lles mudwyr.
- Cofrestru gyda meddyg teulu: Mae dadansoddiad YDG Cymru wedi cryfhau dealltwriaeth o'r patrymau mewn perthynas â mudwyr sydd wedi neu sydd heb gofrestru â meddygon teulu.
- Ymddygiadau iach a lles meddyliol: Mae setiau data amgen, gan gynnwys Understanding Society a chasgliadau sy'n seiliedig ar arolygon, yn parhau i gael eu hadolygu.
- Boddhad o safbwynt gofal cymdeithasol. Mae gwelliannau yn y dyfodol yn dibynnu ar ddatblygu setiau data â ffocws ar fudwyr.
Maes 4: cysylltiadau cymdeithasol
- Perthyn a chydlyniant cymunedol: Mae'r gwaith i gysylltu Cyfrifiad 2021 ag arolygon eraill yn parhau i gael ei archwilio.
- Cyfranogiad diwylliannol a gwirfoddoli: Nodwyd gwelliannau posibl trwy drafodaethau am gysylltu arolygon.
- Mathau amrywiol o gyfeillgarwch: Mae diffyg data addas yn bodoli o hyd; gallai ymchwil ansoddol yn y dyfodol wella'r dangosyddion.
Maes 5: addysg a sgiliau
- Sgiliau iaith: Cyfrifiad 2021 yw'r brif ffynhonnell o hyd; bydd angen casglu data newydd ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol.
- Cyrhaeddiad TGAU: Gwaith yn mynd rhagddo i asesu dichonoldeb ffactorau newidiol yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
- Y defnydd o’r rhyngrwyd: Ymchwilio i Understanding Society a setiau data arolygon eraill.
- Addysg drydyddol a chymwysterau: Adolygu casgliadau data ôl-16 i lenwi bylchau ac o bosib gynnwys ffactor newidiol gwlad enedigol.
Maes 6: diogelwch a sefydlogrwydd
- Tegwch cyfiawnder troseddol, diogelwch a throseddau casineb: Mae'r gwaith yn parhau i archwilio opsiynau cyhoeddi arferol y dadansoddiadau o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr.
- Boddhad â'r ardal leol: Ymchwilio i gysylltiad pellach rhwng Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021.
Maes 7: hawliau a chyfrifoldebau
- Cofrestru pleidleiswyr: Parhau i fonitro argaeledd data ar ddinasyddion yr UE; archwilio ffynonellau data eraill.
- Y defnydd o wasanaethau cynghori a gwybodaeth am hawliau: Bydd cynnwys gwlad enedigol yn set ddata'r Gronfa Gynghori Sengl yn gwella'r dangosyddion yn y dyfodol.
- Gwybodaeth am hawliau: Bydd gwaith grŵp ffocws rhwydwaith VOICES yn cynnig data ansoddol newydd ar gyfer dangosydd 3.
Heriau
- Mae bylchau data yn parhau ar draws sawl maes, yn enwedig ar gyfer dangosyddion sy'n gofyn am ddiweddariadau rheolaidd, neu sy'n ymwneud â phynciau lle nad oes ffynhonnell ddata yn bodoli ar hyn o bryd sy'n cynnwys dyfais adnabod mudwyr.
- Bydd setiau data newydd sydd â ffocws ar fudwyr yn cymryd amser iddynt fod ar gael i'w dadansoddi. Er enghraifft, disgwylir bod angen dwy neu dair blynedd hyd nes y bydd setiau data gwell ar ddigartrefedd a gofal cymdeithasol yn cynhyrchu allbynnau defnyddiol.
- Mae data darniog yn parhau i gyflwyno heriau. Mae data sy'n benodol i fudwyr yn dod o nifer o ffynonellau, gan gynnwys Cyfrifiad 2021, setiau data arolygon a chasgliadau gweinyddol, gan wneud cydgysylltu ac adroddiadau cyson yn gymhleth.
- Roedd y cyfyngiadau ar adnoddau a chapasiti, yn enwedig cyn penodi'r ystadegydd newydd, yn cyfyngu'r gallu i wneud cynnydd mewn rhai meysydd yn gyflym. Mae dibyniaeth barhaus ar bartneriaid allanol i gael defnyddio setiau data arbenigol a'u dehongliadau ohonynt hefyd yn peri heriau.
- Mae ymwybyddiaeth a defnydd o'r Fframwaith yn amrywio ymhlith rhanddeiliaid. Mae canfyddiadau cynnar o gyfweliadau'n awgrymu bod angen canllawiau cliriach ar rai defnyddwyr am y ffordd y gallai'r dangosyddion gael eu defnyddio ac am eu cyfyngiadau.
Edrych i'r dyfodol
- Defnyddio canfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb (MSc) i ddatblygu model cyflwyno data clir a hygyrch ar gyfer 2026.
- Sefydlu'r arfer o gyhoeddi dadansoddiadau data am fudwyr o setiau data gweinyddol a setiau data arolygon a ddiweddarwyd yn rheolaidd.
- Datblygu dull cyson o gysylltu arolygon, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru, â Chyfrifiad 2021 i wella'r wybodaeth sydd ar gael sy'n benodol am fudwyr.
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ffactorau newidiol gwlad enedigol a chenedligrwydd yn cael eu cynnwys mewn setiau data sy'n bodoli ac i ddatblygu casgliadau newydd o ddata lle bo angen.
- Ymgorffori canfyddiadau ymchwil rhanddeiliaid i gam nesaf y gwaith o ddatblygu'r Fframwaith i sicrhau bod yr adnodd yn hygyrch, yn berthnasol ac yn ymarferol i ddefnyddwyr.
- Cefnogi grwpiau ffocws rhwydwaith VOICES yn 2026 i gryfhau'r ddealltwriaeth o ymwybyddiaeth mudwyr o'u hawliau.
