Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Bwriad y ‘Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol’ yw hyrwyddo mesurau ac arferion a fydd yn arwain at leihau arferion cyfyngol. Mae’r fframwaith yn ceisio sicrhau hefyd, pan fo arferion cyfyngol yn cael eu defnyddio, bod hyn yn cael ei lywio gan waith cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o fewn cyd-destun lleoliad y gwasanaeth ac mewn modd sy’n diogelu’r unigolyn, y rhai y mae’n ymwneud â nhw, a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau ar ei gyfer. I blant, mae hyn yn golygu gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac mae hyn wedi'i nodi yn y fframwaith. 

Mae’r Fframwaith yn nodi disgwyliad clir Llywodraeth Cymru y dylai defnyddio arferion cyfyngol fod o fewn cyd-destun y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac yn unol â’r egwyddorion a ddisgrifir yn y Fframwaith Hawliau Dynol ar gyfer Ataliaeth a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae’r dull o weithredu a gyflwynir yn y Fframwaith hwn yn ceisio hyrwyddo’r hawliau a’r egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Defnyddir arferion cyfyngol ar brydiau mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae plant anabl, plant ag ASD, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant ag anawsterau iechyd meddwl a phlant sy'n cael profiad o ofal yn llawer mwy tebygol o brofi arferion cyfyngol na'u cyfoedion yn rhannol am eu bod yn defnyddio lleoliadau a gwasanaethau lle gellir defnyddio arferion cyfyngol yn gyfreithlon. Maent hefyd yn fwy tebygol o fynychu'r lleoliadau a'r gwasanaethau y mae'r fframwaith yn berthnasol iddynt. 

Bwriad y cynigion yw helpu i sicrhau mai dim ond pan fetho popeth arall y defnyddir arferion cyfyngol, er mwyn atal niwed i'r plentyn neu i eraill. Bwriedir i'r cynigion fod o fudd i bob plentyn sy'n defnyddio lleoliadau a gwasanaethau ond maent yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar blant anabl, plant ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant ag anawsterau iechyd meddwl a phlant â phrofiad o fod o dan ofal. Mae plant yn y grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod yn destun cynlluniau unigol i’w cefnogi ac mae'r Fframwaith yn hyrwyddo dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn wrth fynd ati i greu cynlluniau er budd ac ar y cyd â phlant a'u teuluoedd er mwyn eu helpu i wireddu eu hawliau. Defnyddir arferion cyfyngol mewn ymateb i'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'ymddygiadau sy'n herio’. Mae cynllunio a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn helpu i leihau'r achlysuron pan fydd plant yn defnyddio ymddygiadau sy'n herio fel ffordd o gyfleu eu hanghenion a'u teimladau, drwy gefnogi eu lles a diwallu eu hanghenion. Mae'r Fframwaith yn cyfeirio at hyn ond gwnaed ymdrechion i beidio â gorddefnyddio'r termau 'ymddygiad heriol' neu 'ymddygiadau sy'n herio' gan y gellid dehongli hyn fel sail resymegol uniongyrchol dros ddefnyddio arferion cyfyngol. 

Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Lloegr adroddiad yn 2019 ar blant ag anableddau dysgu ac awtistiaeth sy'n byw mewn ysbytai iechyd meddwl a chanfu eu bod yn destun arferion gwael a chyfyngol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi nodi y gall defnyddio arferion cyfyngol fod yn arbennig o niweidiol i blant wrth iddynt ddatblygu.  

Cynrychiolwyd Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru ar y Grŵp Cynghori a lywiodd ddatblygiad y Fframwaith. Cyhoeddwyd fersiwn o’r Fframwaith sy’n addas i bobl ifanc yn rhan o’r pecyn ymgynghori ffurfiol. Bwriad y Fframwaith yw llywio canllawiau manylach ar gyfer pob sector/gwasanaeth/lleoliad ac mae'n darparu cyngor ar gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau wrth adolygu a datblygu polisi ac ymarfer.

Mae'r Fframwaith yn ceisio lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol, sy'n drawmatig ac mewn rhai achosion yn arwain at anaf corfforol i blentyn. Mae'r Fframwaith yn nodi'r ffyrdd y gall proses gynllunio ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn leihau'r achlysuron pryd y defnyddir arferion cyfyngol, a chefnogi lles plentyn. 

Ystyr cynllunio ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn yw rhoi hawliau a lles gorau'r plentyn yn gyntaf; ystyried eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau; hyrwyddo a pharchu eu hurddas; parchu eu nodweddion, eu diwylliant a'u credoau a darparu cymorth priodol i'w helpu i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

2. Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Mae’r Fframwaith yn ceisio hyrwyddo’r hawliau a’r egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Yn benodol: 

Erthygl 3 (Budd pennaf y plentyn)

Mae plant yn datblygu'n gorfforol ac yn seicolegol sy'n eu gwneud yn arbennig o agored i niwed. Mae gan arferion cyfyngol oblygiadau difrifol posibl i les plant. Mae'r Fframwaith yn nodi’r disgwyliadau o ran defnyddio proses gynllunio sy'n canolbwyntio ar y plentyn er mwyn lleihau'r defnydd a wneir o arferion cyfyngol a hefyd er mwyn cefnogi lles plant. Mae'r Fframwaith yn glir mai dim ond pan fetho popeth arall y dylid defnyddio arferion cyfyngol, er mwyn atal niwed i blentyn neu eraill. Mae'r Fframwaith yn cynnwys cyngor y dylai sefydliad:

sicrhau bod hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth ar gael i ymarferwyr a fydd yn eu cynorthwyo i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar hawliau, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn deall trawma.

Erthygl 12 (yr hawl i gael eu clywed) / erthygl 13 (yr hawl i gael gwybodaeth) 

Mae angen gwybodaeth ar blant a'u teuluoedd/gofalwyr am eu hawliau mewn perthynas â’r defnydd a wneir o arferion cyfyngol a sut i fynegi pryderon, ac mae hyn wedi'i nodi yn y Fframwaith.  Mae'r Fframwaith yn hyrwyddo dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth fynd ati i greu cynlluniau er budd ac ar y cyd â phobl a’r rhai sy’n bwysig iddynt, ac mae’r cyngor yn nodi bod hyn, i blant, yn golygu ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eiriolaeth. Mae gwybodaeth am y Fframwaith ar gyfer pobl a'r bobl sy'n bwysig iddynt wedi'i datblygu i'w chyhoeddi gyda'r Fframwaith ac mae fersiwn ar gyfer Pobl Ifanc wedi'i chomisiynu hefyd. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei hyrwyddo ar draws sectorau. 

Erthygl 19 (diogelwch rhag trais corfforol neu feddyliol a chamdriniaeth) 

Gall arferion cyfyngol achosi niwed corfforol a seicolegol. Mae'r Fframwaith yn glir wrth nodi mai dim ond pan fetho popeth arall y dylid eu defnyddio, er mwyn atal niwed i'r plentyn neu i eraill. Mae’r Fframwaith yn nodi bod ‘plant yn agored i niwed oherwydd eu hoedran a'r ffaith eu bod yn datblygu'n gorfforol ac yn seicolegol, sy'n golygu y gallant ddioddef trawma a niwed o ganlyniad i arferion cyfyngol’.

Mae ymrwymiad sefydliadol clir i hawliau dynol yn bwysig er mwyn cefnogi diwylliant lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch a lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i leisio eu barn os nad yw hyn yn digwydd. 

Mae’r Fframwaith yn datgan ‘Dylai unrhyw arwydd bod arferion cyfyngol yn cael eu defnyddio’n amhriodol gael ei gofnodi a’i adrodd fel pryder diogelu.’ Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys cyngor ar gofnodi a monitro'r defnydd o arfer cyfyngol a dysgu a chymorth ar ôl digwyddiadau pryd y defnyddiwyd arfer cyfyngol. Mae cyngor ar sicrhau bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau diogelu/sut i fynegi pryder diogelu a pholisïau chwythu'r chwiban ar gyfer y sefydliad wedi'i gynnwys.

Erthygl 23 – (Plant anabl) 

Mae'r Fframwaith yn nodi disgwyliadau ar gyfer lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae plant anabl yn fwy tebygol na'u cyfoedion o fynd i  lleoliadau felly ac o gael eu cefnogi gan wasanaethau a gwmpesir gan y Fframwaith. Mae plant ag anabledd dysgu a phlant ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig yn fwy tebygol na'u cyfoedion o ymateb i sefyllfaoedd lle nad ydynt yn teimlo'n ddiogel nac yn gyfforddus mewn ffyrdd y gellir eu hystyried yn 'ymddygiadau sy'n herio’ ymarferwyr. Defnyddir arferion cyfyngol yn aml mewn ymateb i hyn. Mae’r Fframwaith yn darparu cyngor ar ddefnyddio adnoddau asesu i ganfod yr ystyr i’r unigolyn a chanllawiau ar sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a’u diwallu mewn ffyrdd mwy diogel. Mae'r Fframwaith yn glir mai dim ond pan fetho popeth arall y dylid defnyddio arferion cyfyngol er mwyn atal niwed i'r plentyn neu i eraill. 

Erthygl 24 – Gofal iechyd) 

Mae plant ag anawsterau iechyd meddwl yn fwy tebygol na'u cyfoedion o ymateb i sefyllfaoedd lle nad ydynt yn teimlo'n ddiogel nac yn gyfforddus mewn ffyrdd y gellir eu hystyried yn 'ymddygiadau sy'n herio’ ymarferwyr. Defnyddir arferion cyfyngol yn aml mewn ymateb i hyn. Canfu Comisiynydd Plant Lloegr arfer gwael a defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau iechyd meddwl ar gyfer plant ag anableddau dysgu ac Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Mae'r Fframwaith yn cynnwys lleoliadau iechyd, byddai hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd meddwl. Bwriad y cyngor a geir yn y Fframwaith yw lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol fel rhan o broses gynllunio sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae'r Fframwaith yn glir mai dim ond pan fetho popeth arall y dylid defnyddio arferion cyfyngol er mwyn atal niwed i'r plentyn neu i eraill.

Mae'r dull o gynllunio cymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn gyda phlant ac ar eu rhan yn debygol o gyfrannu at gwell canlyniadau iechyd a lles i bob plentyn sy'n destun cynlluniau unigol.  

Dyma Sylw Cyffredinol Pwyllgor CCUHP ar Erthygl 24 CCUHP: Dim ond pan fydd y plentyn yn peri bygythiad uniongyrchol o anaf iddo'i hun neu i eraill y gellir defnyddio ataliad neu rym, a dim ond pan fydd pob dull arall o reoli wedi'i ddihysbyddu. Ni ddylid defnyddio ataliad i sicrhau cydymffurfiaeth ac ni ddylai byth olygu bod poen yn cael ei achosi'n fwriadol. Nid ddylai fyth gael ei ddefnyddio fel dull i gosbi. Dylai'r defnydd o ataliad neu rym, gan gynnwys ataliadau corfforol, mecanyddol a meddygol neu ffarmacolegol, fod o dan reolaeth agos, uniongyrchol a pharhaus gweithiwr meddygol a/neu seicolegol proffesiynol. Dylai staff y cyfleuster gael hyfforddiant ar y safonau perthnasol a dylid cosbi’n briodol aelodau o'r staff sy'n defnyddio ataliad neu rym yn groes i'r rheolau a safonau. Dylai Gwladwriaethau gofnodi, monitro a gwerthuso pob achos o atal neu ddefnyddio grym a sicrhau ei fod yn cael ei leihau i isafswm.

Mae'r Fframwaith yn nodi’r disgwyliad bod yn rhaid i'r defnydd o arferion cyfyngol fod yn gyfreithlon bob amser a'u bod yn cael eu defnyddio dim ond pan fetho popeth arall i atal niwed i'r plentyn neu i eraill. Mae'r Fframwaith yn glir na ddylid defnyddio ataliadau sy'n achosi poen ac na ddylid defnyddio arwahanu ar gyfer plant. Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys cyngor ar hyfforddiant i ymarferwyr i leihau arferion cyfyngol a sicrhau pan ddefnyddir hwy mai dyma'r dewis olaf ac y'u defnyddir yn ddiogel. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar gofnodi achosion ac ar fonitro data ar ddefnyddio arferion cyfyngol. 

Erthygl 28 (disgyblaeth ysgol) 

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynnal ymchwiliad i’r broses o gofnodi a monitro'r defnydd o arferion cyfyngol mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr a gyhoeddir cyn hir. Lansiwyd yr ymchwiliad oherwydd pryderon ynghylch graddau'r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau addysg a diffyg data ar gyfer monitro'r defnydd ohonynt. 

Bwriad y Fframwaith yw lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau addysg a hyrwyddo proses gynllunio sy'n canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer plant unigol fel y gallant dderbyn addysg sy'n hyrwyddo eu hurddas a'u hawliau dynol.

Erthygl 37 (diogelwch rhag artaith, triniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol)

Mae'r Fframwaith yn cynnwys gwybodaeth y gallai plant fod yn arbennig o agored i niwed o ganlyniad i arferion cyfyngol. Mae rhai ymatebion i'r ymgynghoriad wedi gofyn i ni wneud hyn yn fwy eglur ac yn ychwanegu testun at y drafft terfynol. Mae’r Fframwaith yn nodi: Dim ond yn unol ag egwyddorion y dewis lleiaf cyfyngol a'r dewis olaf y dylid defnyddio ataliaeth. Hwnnw yw’r dull lleiaf cyfyngol gyda'r grym lleiaf (yn gymesur â'r risg) am yr amser lleiaf posibl. Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y dylid ei ddefnyddio (os oes cred wirioneddol bod niwed yn debygol o ddigwydd i'r unigolyn neu i eraill os na chaiff ei ddefnyddio, ac os yw dulliau llai cyfyngol eraill wedi'u rhoi ar waith ac wedi methu). Ni ddylai dulliau atal sy'n achosi poen yn fwriadol fyth gael eu defnyddio.

Mae'r Fframwaith hefyd yn esbonio arwahaniad:

Weithiau mae arferion sy’n cael eu disgrifio fel amser ymdawelu, amser ymlacio neu ynysu, yn cynnwys y defnydd o bebyll synhwyraidd, yn bodloni’r diffiniad o arwahaniad os yw’r plentyn neu’r oedolyn yn cael ei roi mewn ystafell ac yn methu gadael heb ganiatâd.  Mae cyngor pellach yn nodi ‘ni argymhellir arwahanu plant mewn unrhyw leoliad.

Yn sylw cyffredinol Pwyllgor CCUHP Rhif. 13 (2011) ar hawl y plentyn i ryddid rhag pob math o drais, gan hefyd dargedu 16.2 o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy, mae'r Pwyllgor yn annog Gwladwriaethau i wneud y canlynol: 

(b) Diddymu pob dull o ataliaeth a ddefnyddir yn erbyn plant at ddibenion disgyblu ym mhob lleoliad sefydliadol, preswyl a dibreswyl, a gwahardd defnyddio unrhyw dechneg a gynlluniwyd i achosi poen ar blant

(c) Sicrhau bod dulliau ataliad ond yn cael eu defnyddio yn erbyn plant i atal niwed i'r plentyn neu i eraill, a dim ond pan fetho popeth arall

(d) Casglu a chyhoeddi yn systematig a rheolaidd ddata a ddatgyfunwyd ar y defnydd o ataliad ac ymyriadau cyfyngol eraill yn erbyn plant er mwyn monitro priodoldeb disgyblaeth a rheoli ymddygiad plant ym mhob lleoliad, gan gynnwys mewn lleoliadau addysg, carchardai, lleoliadau iechyd meddwl, lleoliadau lles a mewnfudo.

Mae'r Fframwaith yn nodi disgwyliad bod rhaid i'r defnydd o arferion cyfyngol fod yn gyfreithlon bob amser ac y dylent gael eu defnyddio pan fetho popeth arall yn unig er mwyn atal niwed i'r plentyn neu i eraill. Mae'r Fframwaith yn glir na ddylid defnyddio ataliadau sy'n achosi poen ac na ddylid defnyddio arwahaniad ar gyfer plant. Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys cyngor ar hyfforddiant i ymarferwyr i leihau arferion cyfyngol a sicrhau pan ddefnyddir hwy mai dyma'r dewis olaf ac y'u defnyddir yn ddiogel. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar gofnodi achosion ac ar fonitro data ar ddefnyddio arferion cyfyngol.

Casgliad 

Bwriad polisi cyffredinol y cynigion yw lleihau arferion cyfyngol, hyrwyddo lles plant drwy gynllunio unigol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer eu cefnogi a helpu i sicrhau, pan ddefnyddir arferion cyfyngol fel dewis olaf i atal niwed, y gwneir hyn mewn ffordd sy'n parchu hawliau dynol plant o dan y CCUHP.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu ymgyrch gyfathrebu ar gyfer codi ymwybyddiaeth i gefnogi dechrau rhoi’r Fframwaith ar waith ar draws sectorau ac i wneud y rhai sy'n defnyddio lleoliadau a gwasanaethau yn ymwybodol o'r uchelgais i leihau arferion cyfyngol a nodir yn y Fframwaith.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y disgwyliadau a nodir yn y Fframwaith hwn wrth adolygu neu ddatblygu polisïau a chanllawiau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys polisïau a chanllawiau sy'n benodol i'r sector neu'r gwasanaeth i nodi sut y gellir bodloni'r disgwyliadau hyn ym mhob maes polisi/sector/gwasanaeth.  Bydd y gwaith hwn yn cynnwys rhoi sylw dyledus i CCUHP. 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu ar draws lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn adolygu eu polisïau, eu trefniadau datblygu'r gweithlu a'u hymarfer er mwyn nodi unrhyw newidiadau a mesurau sydd eu hangen i helpu i roi'r Fframwaith hwn ar waith.  Mae'r Fframwaith yn nodi y dylid ystyried hyrwyddo hawliau dynol plant o dan CCUHP wrth wneud y gwaith hwn. 

Yn y cyfnod rhwng cyhoeddi ar 19 Gorffennaf 2021 a 31 Mawrth 2022, bydd swyddogion yn Is-adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol yn y sectorau hynny y mae'r Fframwaith yn berthnasol iddynt, gofal plant, addysg, gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Byddant yn gweithio gyda sectorau, comisiynwyr a darparwyr i godi ymwybyddiaeth, ac i ystyried a chytuno ar unrhyw waith sydd ei angen i gefnogi rhoi’r Fframwaith ar waith, hynny drwy bolisi penodol a chymorth ar gyfer ymarfer, yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 a thu hwnt.

Mae’r Fframwaith yn cynnwys cyngor y gall prosesau cofnodi a chasglu data effeithiol dynnu sylw at broblemau cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â llywio penderfyniadau ynghylch datblygu'r gweithlu ymhellach a nodi unigolion pan fo angen adolygu a gwella'r dull presennol o’u cefnogi.  Mae'r Fframwaith yn awgrymu y dylai'r data a gesglir gynnwys o leiaf cofnodi nodweddion gwarchodedig pobl y defnyddir arferion cyfyngol yn eu herbyn yn y lleoliad neu'r gwasanaeth, gan gynnwys eu hoedran. 

Maes o law byddwn yn gofyn i Weinidogion Cymru gymeradwyo adolygiad o weithrediad y Fframwaith a'i effaith yn 2024 pan y rhagdybir y caiff yr Asesiad Effaith Integredig hwn ei ailystyried.