Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Gwnaed y penderfyniad pwysig hwn yn dilyn cyfarfodydd y grŵp teirochrog sy'n cynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Archwilio Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023. Cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn yn benodol er mwyn trafod pryderon ynghylch darparu gwasanaethau, ansawdd a diogelwch gofal ac effeithiolrwydd sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r penderfyniad hwn i uwchgyfeirio i fesurau arbennig yn adlewyrchu pryderon difrifol sydd wedi bodoli ers tro ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheoli ariannol.

Cytunodd y cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau annibynnol o'r Bwrdd i ildio eu lle, ac mae nifer o benodiadau uniongyrchol wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau sefydlogrwydd y bwrdd dros y 12 mis nesaf. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Cadeirydd newydd a rhai Aelodau Annibynnol yn uniongyrchol.

Y cefndir

Ar 8 Mehefin 2015, cafodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y bwrdd iechyd) ei osod o dan fesurau arbennig o ganlyniad i fethiannau o ran darparu gwasanaethau, effeithiolrwydd sefydliadol, ac ansawdd a diogelwch y gofal mewn nifer o wahanol feysydd, gan gynnwys darparu gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau mamolaeth a gofal sylfaenol gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau.

Cyhoeddwyd pecyn o gymorth strategol ar gyfer y bwrdd ar 3 Tachwedd 2020. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r grŵp teirochrog ar 13 Tachwedd 2020 er mwyn trafod y cynnydd a wnaed gan y bwrdd. Gwelodd fod y bwrdd wedi gwneud cynnydd mewn rhai o'r meysydd a oedd yn faterion a oedd yn peri pryder yn flaenorol, a nododd fod y bwrdd iechyd yn darparu ymateb cydlynol a chynhwysfawr i'r pandemig, gan ddangos ei fod yn ymgysylltu â phartneriaid yn well. Gwnaed penderfyniad i symud y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig, ac fe'i rhoddwyd o dan statws ymyrraeth wedi'i thargedu ym mis Tachwedd 2020 ar gyfer y meysydd canlynol:

  • iechyd meddwl (oedolion a phlant)
  • strategaeth, cynllunio a pherfformiad
  • arweinyddiaeth (gan gynnwys llywodraethiant, trawsnewid a diwylliant)
  • ymgysylltu (cleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid)

Ym mis Mai 2022, yn sgil materion o ran diogelwch cleifion, llywodraethiant a sicrwydd a ddaeth i'r amlwg drwy nifer o ddigwyddiadau difrifol ac arolygiadau, penderfynwyd ehangu'r statws ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnwys:

  • Ysbyty Glan Clwyd, diogelwch cleifion, llywodraethiant, arweinyddiaeth, goruchwyliaeth weithredol, llywodraethu diogelwch clinigol gan gynnwys cadw cofnodion, rheoli digwyddiadau, gweithio mewn tîm, rhoi gwybod am bryderon a chydsyniad
  • Gwasanaethau Fasgwlaidd
  • Yr Adran Argyfwng yn Ysbyty Glan Clwyd

Ar ben y cymorth strategol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, roedd ehangu'r mesurau ymyrraeth wedi'i thargedu ym mis Mai 2022 wedi arwain at becyn cymorth mwy i'r bwrdd iechyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar Ysbyty Glan Glwyd.

Dros y 12 mis diwethaf mae nifer o bryderon wedi cael eu codi sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheoli ariannol yn y bwrdd. Roedd digon o dystiolaeth i ddangos nad oedd gwelliant sylweddol nac amserol yn cael ei wneud o dan ymyrraeth wedi'i thargedu, ac ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ac yn briodol i uwchgyfeirio'r bwrdd ymhellach o dan yr amgylchiadau hyn. Roedd pryderon ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd unedol i ddatblygu a gweithredu newid a gwelliant yn ffactor pwysig.

Penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alw ar Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG (2014) sy'n nodi'r broses ar gyfer cymryd camau i fynd i’r afael â phryderon difrifol (atodiad 1) a chododd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd i fesurau arbennig.

Mesurau arbennig

Mesurau arbennig yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf yn fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth GIG Cymru. Mae nifer o feysydd sy'n peri pryder a arweiniodd at roi'r sefydliad o dan fesurau arbennig. Bydd pob un o'r rhain yn cael ymyrraeth wedi'i thargedu, cymorth a chynlluniau isgyfeirio. Bydd y cynllun ymyrraeth ar gyfer pob maes yn bwydo i'r broses mesurau arbennig cyffredinol, a fydd yn cynnwys meysydd a oedd o dan y statws ymyrraeth wedi'i thargedu yn flaenorol.

Y meysydd yw:

  • llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio
  • y gweithlu a datblygu sefydliadol
  • llywodraethiant a rheoli ariannol
  • arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol 
  • llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch
  • cyflawni gweithredol
  • cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
  • gwasanaethau clinigol

Cytunwyd ar y canlyniadau canlynol ar gyfer y cyfnod sefydlogi o'r mesurau arbennig:

  • bwrdd sy'n gweithredu'n dda
  • cynllun clir, cyflawnadwy ar gyfer 2023 i 2024
  • arweinyddiaeth ac ymgysylltu cryfach 
  • gwella mynediad, canlyniadau a phrofiadau i ddinasyddion
  • sefydliad sy'n dysgu ac sy'n gwella ei hun

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i oruchwylio'r blaenoriaethau a nodwyd yn y fframwaith cynllunio, y fframwaith perfformio a'r fframwaith canlyniadau drwy drefniadau rheoli perfformiad mewn cyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig. Mae'r gwaith o fonitro a llywodraethu mesurau arbennig yn broses fonitro ar wahân ond eto yn gysylltiedig.

O ganlyniad i gymhlethdod a chwmpas y gwaith yn y meysydd, bydd pedair lefel i'r broses er mwyn helpu i sicrhau isgyfeirio, sy'n cynnwys:

  • darganfod, o fis Mawrth i fis Mai 2023 
  • sefydlogi, yn dechrau ym mis Mehefin 2023 
  • safoni
  • cynaliadwyedd

Tîm Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth Llywodraeth Cymru sy’n arwain y cymorth a’r ymyrraeth mesurau arbennig sydd wedi eu mandadu, gyda chefnogaeth Gweithrediaeth GIG Cymru.

Mae nifer o Gynghorwyr Annibynnol wedi cael eu penodi i greu tîm gwella a chefnogi bwrdd iechyd. Caiff rhagor o gynghorwyr eu penodi os bydd angen, ond bydd angen cytuno ar hyn â'r bwrdd iechyd. Bydd y tîm hwn, yn dibynnu ar eu sgiliau, eu cefndiroedd a'u profiad unigol eu hunain, yn ymgymryd â'r canlynol:

  • rhoi cyngor am llywodraethiant y bwrdd ac effeithiolrwydd y bwrdd
  • cynnig mentora a chymorth i'r bwrdd ac i aelodau unigol o'r bwrdd fel y cytunwyd
  • darparu cymorth adnoddau dynol arbenigol i'r cadeirydd newydd a'r bwrdd er mwyn adolygu’r strwythur sefydliadol, maint cysylltiedig a chynnwys y portffolios a'r trefniadau dirprwyedig perthnasol sy'n ategu’r portffolios hyn, wrth helpu i sicrhau ansawdd y systemau a'r prosesau sylfaenol
  • darparu cyngor a chymorth wrth helpu'r bwrdd i ddeall pan fo’n ofynnol cynyddu capasiti a gwella arbenigedd ar gyfer cynllunio gwasanaethau clinigol yn y sefydliad er mwyn sicrhau bod y cynllun clinigol yn cael ei ddatblygu, ei roi ar waith a'i ymwreiddio
  • darparu cymorth i helpu i wella perfformiad gweithredol a chyflawni'r newid trawsnewidiol y cytunwyd bod angen amdano; mae blaenoriaethau gweithredol a chyflawni, prosesau llywodraethu i'w gwella a'u rheoli, risgiau i'r ystad i'w lliniaru a chynllun adfer/trawsnewid i'w ddatblygu

Dylid nodi y gallai'r rhestr hon gynyddu neu newid wrth i'r cynghorwyr ddod i ddeall yn well yr heriau a'r cyfleoedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Bydd angen darparu cyngor, yn arbennig mewn portffolios unigol, ynghylch y ffordd y caiff y gwaith ei flaenoriaethu ar y dechrau.

Ni fydd y cynghorwyr annibynnol yn gyfrifol am unrhyw swyddogaethau gweithredol na rheoli o ddydd i ddydd. Nid oes gan y cynghorwyr gyfrifoldeb dros benderfynu ar achosion posibl o dorri safonau rheoleiddio proffesiynol na materion perfformiad. Os bydd unrhyw wybodaeth yn codi a allai arwain at bryder o'r fath, caiff hyn ei uwchgyfeirio trwy Dîm Uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru drwy lwybrau y cytunir arnynt a chaiff proses adborth ei datblygu i sicrhau bod y pryder wedi'i asesu yn briodol a bod penderfyniad ar y camau gofynnol wedi cael ei wneud. Rhoddir ystyriaeth yn y llwybrau i hysbysu'n allanol pan fo wedi ei bennu gan ofyniad statudol.

Er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn effeithiol ac i ddarparu'r gwelliannau gofynnol, caiff y mesurau canlynol eu rhoi ar waith.

  • Rhaglen o gymorth cynhwysfawr ar gyfer y cadeirydd a'r aelodau annibynnol.
  • Swyddogion i weithio gyda'r Bwrdd newydd, wedi eu cefnogi gan dîm annibynnol a elwir yn gynghorwyr annibynnol i ddarparu arbenigedd i'r sefydliad, i weithio gyda'r gweithredwyr i bennu sut siâp ddylai fod ar y tîm gweithredol a phwy sydd yn y lle gorau i gyflawni'r dyletswyddau gweithredol perthnasol, gan gydnabod y bydd gan nifer o'r gweithredwyr rolau statudol ac atebol sy'n adrodd i sefydliadau allanol. 
  • Ymchwiliadau i gael eu comisiynu mewn cysylltiad â gofal cleifion, penodiadau interim a hepgoriadau tendro.
  • Ystyriaeth i gael ei roi i gryfhau swyddogaethau'r tair cymuned iechyd integredig er mwyn sicrhau dylanwad effeithiol ym mhob rhan o wasanaethau clinigol a chorfforaethol.
  • Swyddogion i weithio gyda chyfarwyddwyr gweithredol i adolygu cwmpas ac ehangder y cyfrifoldebau, adolygu pa mor effeithiol yw'r strwythur a sicrhau cymorth proffesiynol er mwyn rhoi cyfle i'r Bwrdd ailystyried ei ffordd o weithio a'r ffordd y mae'n arwain y sefydliad i ddarparu gofal a phrofiad sy'n ddiogel ac o ansawdd uchel i gleifion a'u teuluoedd/gofalwyr yn y pen draw; wrth gadarnhau enw da'r sefydliad fel gweithle deniadol mewn perthynas â chadw a recriwtio staff hefyd.
  • Cytundeb ar flaenoriaethau ar gyfer y cyfnod darganfod a sefydlogi o fesurau arbennig i’w sicrhau a chytundeb ar gymorth ar gyfer y blaenoriaethau hyn â'r Tîm Gwella a Chefnogi (cynghorwyr annibynnol) wedi ei sicrhau.

Egwyddorion arweiniol

Bydd yr egwyddorion canlynol yn llywio'r holl gamau ac ymyriadau mesurau arbennig:

  • gleifion yn gyntaf; dylai pawb sy'n defnyddio gwasanaethau ddisgwyl cael safonau uchel cyson o ofal a thriniaeth
  • grymuso staff; sicrhau bod yr amodau gweithio a'r adnoddau iawn ganddynt i gefnogi eu llesiant eu hunain ac i ddarparu'r gofal a'r gwasanaethau gorau posibl, a rhannu arferion gorau
  • ethos ansawdd a diogelwch wrth wraidd popeth
  • darparu gwasanaethau sy'n gwella iechyd y boblogaeth ac sy'n gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd ar y cyd â phartneriaid ar sail ymddiriedaeth, parch a dysgu
  • ag arweinyddiaeth gref a thosturiol wedi ei hategu gan systemau llywodraethu cryf ac effeithiol
  • yn darparu gofal brys ac argyfwng yn ogystal â gofal a gynlluniwyd sy'n ddiogel ac o ansawdd uchel

Gwerthoedd ac ymddygiad

Mae'r gosodiadau isod yn nodi'r gwerthoedd a'r ymddygiad craidd sydd wrth wraidd yr uwchgyfeirio:

  • canolbwyntio ar y claf; caiff penderfyniadau, argymhellion a chamau gweithredu eu hysgogi’n bennaf gan ystyriaethau diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion
  • gwerthfawrogi pobl; mae gweithlu brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n cael ei arwain yn dda, yn ofyniad sylfaenol ar gyfer darparu gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf
  • agored a thryloyw; yn amodol ar gyfyngiadau cyfrinachedd cleifion a diogelu data, caiff y gwaith ei gynnal a chaiff y penderfyniadau eu gwneud mewn modd agored a thryloyw
  • cynhwysol; ymgysylltu â staff, cleifion a rhanddeiliaid gan fynd ati i’w cynnwys yn y broses oruchwylio a gwella
  • cydweithredol; o fewn amgylchedd o graffu a herio cadarn, cydweithio â'r bwrdd iechyd i wneud y gorau o'r broses wella ac i osgoi biwrocratiaeth ddiangen a dyblygu ymdrech ac adnoddau

Cyfnodau 1 a 2

Darganfod a sefydlogi

Cytuno ar flaenoriaethau'r bwrdd a'u cyflawni

Mae'r adran ganlynol yn amlinellu ffocws y gweithgareddau i'r Bwrdd ar gyfer y 9 mis cyntaf o fesurau arbennig rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023. Bydd nifer o'r meysydd hyn yn parhau ar ôl mis Rhagfyr 2023 gyda ffocws mwy manwl pan fo angen.

Sefydlogi'r bwrdd
  • Adolygu llywodraethiant y Bwrdd, gan gynnwys pwyllgorau.
  • Adolygu penderfyniadau allweddol a wnaed cyn mis Mawrth 2023 a rhwng mis Ebrill a mis Medi 2023.
  • Penodi aelodau annibynnol newydd, a darparu cyfnod sefydlu a datblygu cenedlaethol a lleol ar eu cyfer.
  • Enwebu a phenodi aelodau annibynnol yr awdurdod lleol, prifysgol ac undeb llafur.
  • Gwneud nifer o benodiadau uniongyrchol tymor byr ychwanegol, fel sy'n briodol, i'r Bwrdd cyn dechrau ymgyrch i gael aelodau newydd.
  • Recriwtio prif weithredwr newydd.
  • Ymateb i ran 2 o adroddiad Geraint Evans.
  • Comisiynu rhaglen cefnogi bwrdd a datblygu bwrdd.
Adolygu'r strwythur sefydliadol
  • Pennu sut siâp ddylai fod ar y tîm gweithredol a phwy sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni'r dyletswyddau gweithredol hynny.
  • Pennu sut siâp ddylai fod ar y tîm llywodraethu er mwyn sicrhau bod cyngor a chymorth cadarn yn cael eu rhoi i'r bwrdd a'r sefydliad ehangach.
  • Adolygu'r model gweithredol.
  • Ystyriaeth i gael ei roi i gryfhau swyddogaethau'r tair cymuned iechyd integredig er mwyn sicrhau dylanwad effeithiol ar draws gwasanaethau clinigol a rheoli a gwneud yn siŵr bod dysgu a gwelliant yn cael eu rhannu rhwng cymunedau iechyd integredig.
  • Adolygu cwmpas ac ehangder y cyfrifoldebau, adolygu pa mor effeithiol yw'r strwythur.
  • Adolygu swyddi interim ac argymhellion i gael swyddi parhaol yn eu lle (yn amodol ar gytuno ar strwythurau corfforaethol a gweithredol priodol).
  • Adolygu strategaethau a chynlluniau gweithlu, gan gynnwys y gweithlu meddygol, nyrsio, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a'r gweithlu ategol ymhlith eraill. Ystyried sut y gall gweithlu hyblyg weithio'n wahanol ac ystyried rolau newydd y gall fod yn ofynnol y tu hwnt i ffiniau mwy traddodiadol.
Diwylliant, arweinyddiaeth a llywodraethiant
  • Adolygu llywodraethiant, prosesau a threfniadau gwneud penderfyniadau bwrdd y dyfodol, gan gynnwys yr angen i sicrhau bod asesiadau effaith addas yn cael eu cwblhau a bod y Ddyletswydd Ansawdd yn cael ei hystyried.
  • Cytuno ar y proffil sgiliau gofynnol ar gyfer y Bwrdd er mwyn llywio'r gwaith o recriwtio aelodau parhaol o'r Bwrdd.
  • Ymateb i Adolygiad Archwilio Cymru o Effeithiolrwydd y Bwrdd.
  • Sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni ei gyfrifoldebau mewn cysylltiad â llunio'r cyfrifon blynyddol a'r adroddiadau llywodraethiant sy'n ofynnol ar gyfer 2022 i 2023. (Gweler Cyllid a Chynllunio hefyd).
  • Cytuno ar y dull y dylid ei ddefnyddio i bennu'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2023 i 2024, gan sicrhau hyblygrwydd i ymateb i risgiau hysbys a rhai newydd.
  • Adolygu'r rhaglen Cryfach gyda'n Gilydd, gan sicrhau ffocws ar ddiwylliant sefydliadol ac arweinyddiaeth y genhedlaeth nesaf.
  • Adolygu Gwerthoedd ac Ymddygiad, gan ganolbwyntio ar agweddau o'r Bwrdd i'r Ward.
  • Adolygu arweinyddiaeth glinigol ar bob lefel / capasiti a gallu / gweithio amlbroffesiwn / grymuso staff iau / dod o hyd i hyrwyddwyr newid.
  • Rhaglen datblygu doniau (tyfu eich hun).
  • Adolygu trefniadau ar gyfer codi pryderon yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn gallu tynnu sylw at eu pryderon a'u bod yn hyderus y bydd camau yn cael eu cymryd.
Cyllid a chynllunio
  • Sefydlogi a chwblhau 2022 i 2023.
  • Penderfynu ar y dull y dylid ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio yn ystod 2023 i 2024.
  • Deall y ffactorau sy'n ysgogi'r diffyg ariannol a gwneud penderfyniadau priodol.
  • Cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi cyfalaf.
  • Adolygu sgiliau rheoli contractau ac archwilio nifer o gontractau i sicrhau bod y gweithdrefnau cywir ar waith. 
  • Cwblhau'r sefyllfa ariannol a chyfrifon ar ddiwedd blwyddyn.
Cynllunio gwasanaethau clinigol ac ymgysylltu 
  • Ymateb i Adolygiad y Panel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd, ystyried model gwasanaethau clinigol fasgwlaidd y dyfodol.
  • Trosolwg o'r dull a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu'r canolfannau triniaeth rhanbarthol a'r dull o ddarparu gwasanaethau rhanbarthol.
  • Adolygu'r modelau cyflawni clinigol sydd ar waith ar gyfer wroleg, offthalmoleg, oncoleg, iechyd meddwl, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a dermatoleg yn ogystal â gwasanaethau eraill (yn unol â chais y Bwrdd mewn achos risg glinigol) os bydd angen.
  • Datblygu methodoleg a chytuno arni ar gyfer adolygu gwasanaethau clinigol yn ehangach, i gynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol.
  • Paratoi ar gyfer y Ddyletswydd Ansawdd a’r Ddyletswydd Gonestrwydd, a'u rhoi ar waith.
  • Sicrhau bod y gofynion i ymateb i ddatganiadau ansawdd ac i'w datblygu yn cael eu hystyried.
  • Adolygu arweinyddiaeth glinigol ar bob lefel / capasiti a gallu / gweithio amlbroffesiwn / grymuso staff iau / dod o hyd i hyrwyddwyr newid a modelau grymuso arweinyddiaeth leol.
Adolygiad o ofal a diogelwch cleifion
  • Darparu polisi ar gyfer cynllunio swyddi meddygon ymgynghorol a rheoli arfarniadau a'i roi ar waith yn gyson.
  • Cynnal ymchwiliad i bryderon ynghylch diogelwch cleifion yn unol â materion difrifol ac sy’n cael eu codi.
  • Adolygu systemau a gweithdrefnau presennol i sicrhau gofal o ansawdd uchel, sy'n gyson â chanllawiau'r Ddyletswydd Ansawdd.
  • Cynllun dull sefydliadol o ddysgu o ddiogelwch cleifion a sicrhau bod egwyddorion a gofynion y Ddyletswydd Gonestrwydd yn cael eu hymwreiddio.
  • Asesu'r gwaith o roi system rheoli ansawdd effeithiol ar waith a chynghori arni, sy'n cysylltu rheolaeth ansawdd, sicrwydd, cynllunio a gwelliant yn unol â gofynion y Ddyletswydd Ansawdd.
  • Sicrhau system integredig o arweinyddiaeth glinigol wedi ei hategu gan adnoddau'n ddigonol.
  • Sicrhau lefel uchel o sensitifrwydd i adborth, a pherthnasau a chyfathrebu da â'r cyhoedd a chleifion.
Perfformiad gweithredol a chyflawni
  • Cynllun adfer tymor byr a chanolig ar gyfer gofal a gynlluniwyd, gyda thrywyddau clir.
  • Cynllun adfer ar gyfer iechyd meddwl a CAMHS gyda thrywyddau clir a datblygu model gweithredol clir. 
  • Cymorth ar gyfer trawsnewid wedi ymwreiddio yn y timau gofal brys ac argyfwng ym mhob ysbyty cyffredinol dosbarth, cynllun sydd wedi'i ddiffinio'n glir a thrywyddau ar gyfer gwella. Pob safle yn dysgu o'r safleoedd eraill.
  • Cynllun a dull gweithredu clir ar gyfer orthopedeg, offthalmoleg a chanolfannau triniaeth rhanbarthol.
  • Adolygu heriau a chyfleoedd sy'n codi o ofal y tu allan i oriau.
  • Rhoi’r arferion gorau a phrosesau cynhyrchiant theatrau a nodir yn Getting It Right First Time (GIRFT) ar waith.
Ymyrraeth mesurau arbennig 

Bydd nifer o ymyriadau i gyflawni'r camau y mae angen eu cymryd ar gyfer sefydlogi, wedi eu cydgysylltu gan Lywodraeth Cymru ac wedi eu cefnogi gan dîm o gynghorwyr annibynnol a Gweithrediaeth GIG Cymru fel y nodir isod:

  • llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio
  • y gweithlu a datblygu sefydliadol
  • llywodraethiant a rheoli ariannol
  • arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol
  • llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch
  • cyflawni gweithredol
  • cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
  • gwasanaethau clinigol

Y bwrdd iechyd fydd yn darparu cymorth rhaglen a phrosiect ar gyfer pob maes, gyda chefnogaeth y tîm trawsnewid. Mae’r camau allweddol a'r gwaith fesul maes ar gyfer y cyfnod sefydlogi wedi’u hamlinellu isod:

Llywodraethiant, effeithiolrwydd, prosesau a phortffolio systemau

  1. Arweinyddiaeth, gwerthoedd a diwylliant y Bwrdd 
  • Cefnogi, mentora a datblygu aelodau annibynnol a chyfarwyddwyr gweithredol.
  • Cytuno ar raglen recriwtio Bwrdd a'i chefnogi, gan sicrhau bod aelodau o'r Bwrdd yn cael y cyfnod sefydlu sy'n ofynnol pan gânt eu penodi.
  • Cytuno ar raglen datblygu Bwrdd hirdymor sy'n ystyried yr angen i gynllunio ar gyfer newidiadau mewn personél yn ystod y cyfnod hwn.
  • Cytuno ar fframwaith ar gyfer gosod amcanion i gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol (gan ystyried yr amcanion y cytunwyd arnynt gan y gweinidog a'r cadeirydd).
  • Datblygu fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad.
  • Adolygu'r rhaglen Cryfach gyda'n Gilydd, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant sefydliadol ac arweinyddiaeth y genhedlaeth nesaf, a chynghori ar raglen newid diwylliannol.
  • Cefnogi diagnostig newid diwylliannol.
  • Ystyried cryfhau swyddogaethau'r tair cymuned iechyd integredig er mwyn sicrhau dylanwad effeithiol ar draws gwasanaethau clinigol a rheoli.
  • Adolygu'r hyn sydd wedi digwydd ers y rhaglen cefnogi mesurau arbennig ddiwethaf.
  • Datblygu amodau ar gyfer cynaliadwyedd yn ogystal â thystiolaeth a chofnod camau gweithredu mesurau arbennig.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r strwythur a’r fframwaith mesurau arbennig.
  1. Llywodraethiant y Bwrdd
  • Ystyried Adolygiad Archwilio Cymru o Effeithiolrwydd y Bwrdd a'r goblygiadau ar gyfer y bwrdd iechyd a thîm y cyfarwyddwr gweithredol.
  • Datblygu strategaeth ac ymateb cydlynol mewn ymateb i Adolygiad Archwilio Cymru.
  • Cytuno ar ragolwg, blaenoriaethau a phwyntiau penderfynu allweddol y Bwrdd.
  • Cynnal adolygiad o Swydd Ysgrifennydd y Bwrdd, Pwyllgorau'r Bwrdd a phrosesau Llywodraethu.
  • Datblygu ac ymwreiddio proses ar gyfer rheoli busnes y Bwrdd yn dda a’i gyflawni.
  • Sicrhau bod gan y Bwrdd brosesau rheoli risg y cytunwyd arnynt a'u hadolygu, yn ogystal â gweithdrefnau ar gyfer bwydo i broffil risg y byrddau iechyd a'u parodrwydd i dderbyn risg.
  • Adolygu risgiau sefydliadol allweddol ac ystyried a oes mesurau lliniaru priodol ar waith, gan ystyried parodrwydd y byrddau iechyd i dderbyn risg.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglen mesurau arbennig.
  • Sicrhau bod mesurau llywodraethu priodol ar waith, yn benodol o ran craffu'n briodol ar berfformiad, dulliau arwain ac arferion.

Y gweithlu a datblygu sefydliadol

  • Sefydlu tîm a swyddogaeth adnoddau dynol annibynnol sy'n gallu ymateb i nifer o faterion hanfodol yn ymwneud â'r gweithlu / adnoddau dynol. 
  • Sefydlogi tîm gweithlu y bwrdd iechyd ac asesu a oes capasiti ganddo i gyflawni ei swyddogaethau, ac a yw'n gallu gwneud hynny.
  • Darparu cymorth i ddirprwy gyfarwyddwr y gweithlu.
  • Sicrhau llywodraethiant effeithiol ac atebolrwydd gyda'r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth a Thelerau Gwasanaeth. 
  • Cytuno ar drefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiad Ernst and Young o ddiwedd y flwyddyn a'r ymchwiliad gwrth-dwyll a’u rhoi ar waith a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd.
  • Sicrhau bod prosesau addas ar waith i ddatrys nifer o gwynion sydd wedi eu hoedi ar hyn o bryd.
  • Adolygu a gwella ymgysylltu a chyfathrebu â'r staff.
  • Adolygiad o'r strwythur sefydliadol i'w gwblhau ar y cyd â'r arweinwyr llywodraethiant ac arweinyddiaeth ac i'w gyflwyno i'r Bwrdd. Camau i gael eu cymryd wedyn yn unol â'r penderfyniad hwnnw. 
  • Asesiad o effeithiolrwydd y canlynol:
    • polisïau, prosesau a threfniadau llywodraethu allweddol o ran y gweithlu
    • gwasanaethau llesiant i gyflogeion
    • gweithgarwch dysgu a datblygu gan gynnwys arweinyddiaeth dosturiol
    • systemau gwybodaeth gweithlu a chynllunio gweithlu
    • diwylliant / gwerthoedd / ymddygiad
    • perthnasau ochr y staff
  • Cefnogi'r gwaith o recriwtio cyfarwyddwr gweithlu newydd.
  • Adolygu bylchau a capasiti meddygol a nyrsio allweddol i bob grŵp clinigol gan wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Llywodraethiant a rheoli ariannol

Y pedwar maes sy'n rhan o'r portffolio hwn yw:

  • llywodraethiant ariannol
  • dyrannu a defnyddio adnoddau (sy'n gysylltiedig â chanlyniadau)
  • yr amgylchedd rheolaeth ariannol (gan gynnwys gafael a rheolaeth)
  • aeddfedrwydd y swyddogaeth cyllid (gan gynnwys capasiti a gallu)

Bydd angen gwneud y canlynol o leiaf er mwyn cwblhau hyn:

  • adolygu staff a phenodiadau interim (prosesau a llywodraethiant)
  • adolygu trefniadau contract a’r gallu i reoli contractau
  • adolygu risgiau sefydliadol allweddol ac ystyried a oes mesurau lliniaru priodol ar waith
  • adolygu blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf a chytuno arnynt yng ngoleuni risgiau presennol i'r ystad
  • adolygu'r rhaglen waith ar gyfer y dyfodol i'r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio, gan ddarparu argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen a phenderfyniadau y mae angen eu gwneud ar unwaith
  • bod wedi llunio trywydd a chynllun gweithredu ar gyfer rhoi'r sefydliad mewn sefyllfa diffyg alldro y cytunwyd arno unwaith eto, fel man cychwyn 
  • eglurder ar yr hyn sy'n ysgogi'r diffyg a ble mae'r diffyg yn nhermau'r gwasanaeth a'r gweithlu; cael naratif strategol clir i ychwanegu at gynllun y sefydliad a blaenoriaethau cenedlaethol, gydag eglurder ar unrhyw ddewisiadau i ymrwymo adnoddau rheolaidd 
  • dangos ffocws ar ddatrysiadau rheolaidd, heb ddibynnu ar fesurau nad ydynt yn rheolaidd sy'n arwain at effaith ar y diffyg sylfaenol
  • cael asesiad clir o ble mae sylfaen gostau'r sefydliad yn newid a pham, gan sicrhau bod cyfliniad sylfaenol cyffredinol yn nhermau'r gwasanaeth a'r gweithlu yn gyson ac yn dilyn ymlaen o'r asesiad sylfaenol; sicrhau dealltwriaeth o'r hyn sy'n ysgogi costau, ar sail tystiolaeth, gydag asesiad realistig o dwf costau gan gynnwys mesurau lliniaru costau
  • cael cynlluniau arbed ac effeithlonrwydd, wedi eu hategu gan gynlluniau realistig a chyflawnadwy, gydag asesiad risg clir a chamau'n cael eu cymryd i liniaru'r risgiau hynny er mwyn darparu hyder bod lefel gyffredinol o arbedion realistig yn cael ei sicrhau 
  • gweithio o fewn fframwaith cyfleoedd parhaus byw, sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson, sy'n gysylltiedig â'r agenda effeithlonrwydd a chynhyrchiant mewn ffordd fanwl

Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch

  1. Arweinyddiaeth glinigol a gallu 
  • Cefnogi'r bwrdd iechyd yn ei ymateb i argymhellion Adolygiad y Panel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd, y gwaith ehangach ar wasanaethau fasgwlaidd, a'r Archwiliad o Gynaliadwyedd mewn perthynas ag ystyried model y dyfodol ar gyfer gwasanaethau clinigol fasgwlaidd.
  • Adolygu'r model gwasanaethau, arweinyddiaeth glinigol a gallu ym maes wroleg ac ystyried opsiynau yn unol â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ar gyfer trefniad gwasanaethau.
  • Ystyried y llwybr dermatoleg, gan wneud argymhellion ar gyfer model cyflawni yn y dyfodol.
  • Asesu risgiau cleifion ar y llwybr offthalmoleg, asesu a yw risgiau clinigol yn cael eu rheoli'n dda ac asesu opsiynau ar gyfer model clinigol gwell.
  • Adolygu trefniadau comisiynu ar gyfer cyflyrau sy'n codi pryderon megis llawdriniaethau plastig, oncoleg at ati, gan gefnogi a chynghori uwch-staff clinigol ar arfer dull cydlynol a systematig. 
  • Adolygu'r dull clinigol a ddefnyddir ar gyfer modelau cyflawni rhanbarthol gan gynnwys y canolfannau triniaeth rhanbarthol. 
  • Ailasesu'r strategaeth glinigol a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun clinigol ar unwaith i arwain penderfyniadau'r dyfodol ynghylch cynllunio a buddsoddi.
  • Adolygu'r trefniadau rhwydwaith clinigol.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi ar gyfer cynllunio swyddi i feddygon ymgynghorol, meddygon sy'n arbenigwyr ac uwch-glinigwyr eraill lle y bo'n briodol.
  • Sicrhau system integredig o arweinyddiaeth glinigol sydd wedi ei hategu gan adnoddau'n ddigonol.
  1. Rheoli ansawdd – llywodraethiant clinigol a diogelwch cleifion
  • Adolygu systemau a gweithdrefnau presennol i sicrhau gofal o ansawdd uchel, sy'n gyson â chanllawiau'r Ddyletswydd Ansawdd.
  • Cynnal ymchwiliad i bryderon ynghylch diogelwch cleifion yn unol â materion difrifol a godwyd.
  • Adolygu data ynghylch cwynion am ddigwyddiadau, Datix, a digwyddiadau byth er mwyn darganfod unrhyw batrymau.
  • Ymchwilio i'r graddau y mae dysgu yn digwydd.
  • Adolygu ac asesu llywodraethiant clinigol yn gyffredinol.
  • Asesu gallu a llesiant cyffredinol y staff clinigol.
  • Asesu'r gwaith o roi system rheoli ansawdd effeithiol ar waith a chynghori arni, sy'n cysylltu rheoli ansawdd, sicrwydd, cynllunio a gwelliant.
  • Adolygu'r ffordd y caiff profiad cleifion ei ddefnyddio i ategu prosesau rheoli ansawdd.
  • Goruchwylio'r broses Gweithio i Wella gan gynnwys cydymffurfiaeth â'r broses, cwestau a rheoli honiadau, cwynion a digwyddiadau difrifol yn ogystal â phrosesau ymchwilio allanol.
  • Adolygu trefniadau diogelu.

Cyflawni gweithredol

Darparu cymorth i'r bwrdd iechyd er mwyn gwella mewn modd cynaliadwy fel a ganlyn:

  • perfformiad gwell ym maes gofal a gynlluniwyd, yn erbyn trywydd y cytunwyd arno, wedi ei gynnal dros gyfnod o chwe mis, a gwelliant mewn perfformiad wedi ei nodi yn unol â'r cynllun a chyda thrywydd clir tuag at gyflawni'r blaenoriaethau gweinidogol ar gyfer 2023 i 2024
  • darpariaeth well ym maes iechyd meddwl oedolion, CAMHS a gwasanaethau niwroddatblygiad, gan gynnal perfformiad yn erbyn trywydd y cytunwyd arno dros gyfnod o chwe mis a chan nodi gwelliant mewn perfformiad yn unol â'r cynllun, gyda thrywydd clir tuag at gyflawni'r targedau ar gyfer rhan 1 a rhan 2 o Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol yn fwy na 80%
  • cysondeb mewn gofal brys ac argyfwng dros y chwe mis nesaf fel sy’n amlwg o berfformiad 4-awr a 12-awr a chyflawni camau gweithredu'r Cynllun Gweithredu Gofal Integredig, gan gynnwys gwella trywydd y cyfnod 4-awr ar gyfer trosglwyddo o ambiwlansys
  • tystiolaeth o weithredu ar gamau a nodwyd yn yr adolygiadau arbenigedd, yr asesiad o gyfleoedd a chynlluniau gwella gan wella'r gallu i gynnal perfformiad dros gyfnod o chwe mis

Bydd Gweithrediaeth GIG Cymru yn cefnogi archwiliad dwfn o berfformiad, gan dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder a meysydd penodol y dylid canolbwyntio arnynt. Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ymateb i hyn, a chaiff cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu hwnnw ei adolygu'n fisol dwy gyfarfod o'r uwch-reolwyr sy'n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru. I ategu'r cynllun gweithredu hwn, mae'r ymyriadau canlynol wedi eu cynllunio:

  • gofal brys ac argyfwng, sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith er mwyn helpu i wella perfformiad fel y bydd pob claf un cael gofal diogel ac amserol
  • bydd gofal a gynlluniwyd yn cynnwys gwaith gan Weithrediaeth GIG Cymru drwy'r Tîm Gwella ac Adfer Gofal a Gynlluniwyd er mwyn cefnogi datrysiadau a llwybrau trawsnewidiol; bydd hefyd yn cynnwys yr Uned Gyflawni yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd fel y bydd modd i'r bwrdd ddeall y gofynion o ran galw a chapasiti ar gyfer a gynlluniwyd ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
  • trawsnewid gwasanaethau orthopedeg a dulliau orthopedeg
  • cymorth ar gyfer datblygu'r ganolfan driniaeth ranbarthol
  • perfformiad ym meysydd iechyd meddwl, CAMHS a gwasanaethau niwroddatblygiad

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na fydd modd iddo gyflwyno cynllun sefydliadol wedi ei gymeradwyo yn unol â'i dyletswydd statudol o dan Ddeddf Cyllid (Cymru) 2014 ar gyfer 2023 i 2024. Nid oedd y bwrdd yn gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig yn ystod 2022 i 2023 a fyddai'n gallu mantoli'r cyfrifon dros gyfnod dreigl o dair blynedd.

Er mwyn helpu'r bwrdd iechyd gyda'i waith cynllunio, bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu adolygiad annibynnol o drefniadau cynllunio integredig BIPBC. Bydd yr adolygiad annibynnol yn ceisio cwblhau'r canlynol:

  • adolygiad cyflym gan gymheiriaid o gapasiti a gallu o ran cynllunio integredig yn BIPBC yn nhermau cynllunio strategol a gweithredol y Cynllun Tymor Canolig Integredig
  • adolygiad cyflym gan gymheiriaid o'r dull a ddefnyddir gan y sefydliad i ddatblygu ei Gynllun Tymor Canolig Integredig a'r gweithdrefnau cysylltiedig ar gyfer gwneud penderfyniadau 

Bydd hyn yn cynnwys adolygu a gwneud argymhellion yn y meysydd canlynol:

  • asesiad o b'un a oes capasiti a gallu digonol o ran cynllunio ar gael i'r bwrdd iechyd ar gyfer cynllunio strategol a gweithredol
  • proses ddatblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig gan gynnwys triongli cynlluniau i fewnbynnau gweithredol, a rhai'r gweithlu ac ariannol
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid a mewnbwn ganddynt wrth ddatblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig
  • proses gwneud penderfyniadau a llywodraethiant ar gyfer datblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig
  • diffinio meysydd cymorth a gwella yn glir
  • nodi meysydd arferion da
  • gwneud argymhellion i roi prosesau, strwythurau a threfniadau adrodd cadarn ar waith ar gyfer datblygu cynlluniau blynyddol/Cynlluniau Tymor Canolig Integredig

Mae prosesau cynllunio cyfalaf wedi eu heithrio ar hyn o bryd.

Nodau ac amcanion

  • Darparu canfyddiadau ac argymhellion yn erbyn pob rhan o'r cwmpas.
  • Adrodd i BIPBC o fewn cyfnod o bedair wythnos i gomisiynu'r adolygiad annibynnol er mwyn helpu i ddatblygu cylch cynllunio 2023 i 2024. Y bwriad yw darparu cyngor mewn amser real ar gyfer datblygu Cynllun Blynyddol y BIP ar gyfer 2023 i 2024, wrth ddiogelu i'r dyfodol ar gyfer datblygu cynlluniau canlynol a Chynlluniau Tymor Canolig Integredig.

Er mwyn cwblhau'r adolygiad annibynnol, bydd yr adolygydd yn cymryd y camau canlynol mewn cysylltiad â chynllunio a thrawsnewid.

  • Adolygu dogfennaeth.
  • Adolygu trefniadau llywodraethu.
  • Cyfweliadau ag aelodau allweddol o'r staff (mewnol) (i'w nodi).
  • Cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol (allanol) (i'w nodi).
  • Adolygu proses datblygu bresennol Cynllun Blynyddol 2023 i 2024.

Gwasanaethau clinigol

  • Gweledigaeth strategol wedi ei datblygu, strategaeth a chynllun gweithredu cryf a chredadwy ar gyfer gwasanaethau sy'n agored i niwed megis Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Fasgwlaidd ac Wroleg.
  • Y gwasanaethau hyn i integreiddio â swyddogaethau corfforaethol.
  • Tystiolaeth glir bod materion heb eu datrys ac argymhellion adolygiadau, arolygiadau a chwestau blaenorol wedi cael eu cwblhau a'u hymwreiddio ar ffurf busnes fel arfer.
  • Cynlluniau gwella sy'n gredadwy gydag amserlen a thrywydd clir; tystiolaeth o gynnydd ystyrlon yn erbyn yr elfennau hynny o'r cynllun gwella sy'n gofyn am ymatebion tymor byr a chanolig.
  • Llywodraethiant corfforaethol - Y Bwrdd a'r Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch yn goruchwylio'r holl wasanaethau clinigol sy'n agored i niwed ac yn craffu arnynt mewn modd effeithiol yn gyson.
  • Strwythur rheoli rhaglen effeithiol ar waith.
  • Ymchwiliadau i ddigwyddiadau difrifol yn cael eu cynnal ar sail 'busnes fel arfer'; yr holl wersi a ddysgir yn cael eu nodi a'u rhannu fel mater o drefn, a thystiolaeth bod hyn yn ysgogi gwelliannau mewn gofal.
  • Gwersi a ddysgir yn cael eu nodi a'u rhannu yn rheolaidd, ac yn ysgogi gwelliannau mewn gofal.
  • Arweinyddiaeth Weithredol, y Bwrdd a Meddygol sy’n amlwg, yn effeithiol ac yn barhaol; mae cymorth datblygu arweinyddiaeth ar waith ac mae'r meddygon ymgynghorol at ei gilydd yn cymryd rhan weithgar yn y gwaith o hybu gwelliannau mewn gwasanaethau.
  • Tystiolaeth o newidiadau cadarnhaol mewn diwylliant mewn meysydd allweddol megis cydweithio, gweithio amlddisgyblaethol a mynd i'r afael â'r diwylliant o fwrw bai.
  • Gwella perfformiad yn unol â gofynion a safonau disgwyliedig.

Adrodd ar gynnydd ac amserlenni

Bydd pob tîm maes yn cynhyrchu:

  • cynllun ar dudalen sy'n nodi'r elfennau allweddol y gellir eu cyflawni ac amserlenni
  • adnoddau  
  • canlyniadau y cytunir arnynt
  • meini prawf adrodd
  • asesiad sylfaenol 
  • trywyddau gwella 
  • camau gweithredu allweddol
  • amserlen cyfarfodydd
  • adroddiad cynnydd misol 

Dangosyddion perfformiad allweddol a meini prawf isgyfeirio

Mae'r 3 i 6 mis cyntaf o'r fframwaith hwn yn canolbwyntio ar waith cwmpasu’r materion a datblygu nifer o wahanol atebion. Ar ôl cael cytundeb ar y fframwaith hwn, caiff ei ddiweddaru i gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol a meini prawf isgyfeirio.

Fframwaith gweithredu amodau ar gyfer cynaliadwyedd

Gweledigaeth strategol

Cynllun Clinigol a Chynllun Blynyddol wedi eu datblygu, cytunwyd arnynt ac maent wedi'u rhannu â'r cyhoedd; camau gweithredu cynnar wedi eu cyflawni gan ddarparu hyder bod modd sicrhau gwelliant parhaus cynaliadwy yn y tymor hwy.

Hyder ac ymddiriedaeth yn y sefydliad yn gwella.

Perfformiad ac ansawdd integredig

Sicrhau bod BIPBC yn sefydliad sy’n cael ei lywio gan ddata sy'n sicrhau bod data yn cael eu deall a'u defnyddio wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel. Dangos cysylltiad cryf rhwng sicrhau ansawdd a gwella perfformiad. Ansawdd a Diogelwch yn rhan annatod o bopeth a wneir gan y sefydliad.

Newid mewn diwylliant

Mae tystiolaeth o newidiadau cadarnhaol mewn diwylliant mewn meysydd allweddol megis gweithio amlddisgyblaethol a mynd i'r afael â'r diwylliant o fwrw bai.

Strwythurau a chyflawni

Sicrhau bod pob rhan o’r sefydliad yn glir ynghylch atebolrwydd a disgwyliadau ar bob lefel er mwyn sicrhau cyflawni llwyddiannus. Grymuso prosesau effeithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau a ffocws cyson ar wella perfformiad.

Bwrdd sy'n effeithiol ac sy'n gweithredu

Pob aelod annibynnol wedi cwblhau cyfnod sefydlu a phwyllgorau wrthi'n gweithredu yn ôl amserlen y cytunwyd arno, gyda phwyntiau gwneud penderfyniadau clir wedi eu hategu gan Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd sydd wedi'i rheoli'n dda. Y Bwrdd a'r Pwyllgor priodol yn goruchwylio'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau ac yn craffu arnynt mewn modd effeithiol yn gyson.

Ymatebol

Sicrhau bod holl argymhellion y colegau brenhinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac adolygiadau eraill yn cael eu cyflawni a naill eu dilysu neu eu darparu, neu y trefnir i'w darparu, yng nghynllun gwella tymor hwy y bwrdd iechyd.

Dysgu a gwella

Ymchwiliadau effeithiol yn cael eu cynnal ar sail 'busnes fel arfer'; yr holl wersi a ddysgir yn cael eu nodi a'u rhannu fel mater o drefn, ac mae tystiolaeth bod hyn yn ysgogi gwelliannau mewn gofal. Mae diwylliant o wrando, dysgu a gwella wedi ymwreiddio ym mhob rhan o'r sefydliad ar sail gwaith triongli cynnar a chyflym a datrys materion ar sail amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys adborth gan gleifion, defnyddwyr a staff.

Arweinyddiaeth ac ymgysylltu cryfach

Sgiliau arwain a rheoli yn cael eu datblygu'n barhaus ar bob lefel / ym mhob proffesiwn er mwyn cryfhau aeddfedrwydd yr arferion rheoli. Mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar bob agwedd ar gynllunio strategol ar gyfer y gweithlu a gwneud y defnydd gorau posibl o sgiliau ei staff presennol. Mae gwerthoedd bywyd ac ymddygiadau yn parhau i gael eu hymwreiddio/eu dangos ym mhob rhan o'r sefydliad. Dangos rhagor o bwyslais ar ymgysylltu.

Rheoli rhaglenni

Strwythur rheoli rhaglenni effeithiol ar waith, sy'n pennu amcanion ar gyfer y gwaith gwella, gyda chynlluniau sy'n dangos sut mae'r gwaith yn cael ei gyflawni a pha rwystrau a allai effeithio ar sicrhau canlyniadau; strwythurau gyda threfniadau effeithiol, agored a thryloyw ar gyfer adrodd, gyda goruchwyliaeth effeithiol gan y Bwrdd.

Arweinyddiaeth glinigol

Mae'n amlwg ac yn effeithiol; mae cymorth datblygu arweinyddiaeth ar waith ac mae'r meddygon ymgynghorol at ei gilydd yn cymryd rhan weithgar yn y gwaith o hybu gwelliannau mewn gwasanaethau.

Gwasanaethau clinigol cryfach

Gwasanaethau megis fasgwlaidd, iechyd meddwl, wroleg, oncoleg ac offthalmoleg yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth glinigol gref, cynllun gwella integredig effeithiol, strwythur rheoli prosiectau a chymorth ar gyfer trawsnewid effeithiol.

Mynediad, canlyniadau a phrofiadau gwell

Yn amlwg o adborth gan gleifion, amseroedd trosglwyddo ambiwlansys, amseroedd aros gofal brys ac argyfwng a mynediad at ofal a gynlluniwyd a gwasanaethau iechyd meddwl.