Neidio i'r prif gynnwy

Chwe egwyddor ganllaw ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Oedolion yr ymddiriedir ynddynt 

Dyma’r rhan bwysicaf o fframwaith NYTH. Mae'n disgrifio pa mor bwysig yw'r bobl sydd agosaf at y baban, y plentyn neu'r person ifanc ar gyfer cefnogi ei iechyd meddwl a'i les. 

Gall oedolion yr ymddiriedir ynddynt helpu babanod, plant a phobl ifanc i ddysgu sut i reoli eu teimladau. Mae oedolion yr ymddiriedir ynddynt yn gallu helpu drwy: 

  • wrando a chydymdeimlo 
  • helpu i ddod o hyd i eiriau ar gyfer emosiynau anodd 
  • dangos ffyrdd o reoli anawsterau 
  • helpu i ddatrys problemau 
  • deall bod dicter weithiau yn ymwneud â phryder 

Mae rheoli emosiynau ar y cyd, sef gadael i rywun yr ymddiriedir ynddo ffrwyno emosiynau cryf, yn rhan hanfodol o'r broses hunanreoli, ac yn gam hanfodol mewn datblygiad seicolegol. Mae'n bwysig bod cymorth ar gael i oedolion yr ymddiriedir ynddynt sy'n gofalu am fabanod, plant a phobl ifanc. Mae oedolion yr ymddiriedir ynddynt yn gallu: 

  • canolbwyntio ar gryfderau unigolyn 
  • annog yr unigolyn i beidio â rhoi'r gorau iddi 
  • dathlu llwyddiannau’r unigolyn
  • cynnig i’r unigolyn y bendithion pob dydd a ddaw o berthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth

Llesiant ar draws addysg

NYTH mewn addysg

O’r crèche i’r feithrinfa, i’r ysgol, y chweched dosbarth ac ymlaen i’r coleg, mae lleoliadau addysg yn rhan fawr o fywydau babanod, plant a phobl ifanc.

Mae’n hanfodol bod ganddynt ddealltwriaeth dda o iechyd meddwl a llesiant a’u bod yn achub ar bob cyfle i’w cefnogi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amrywiaeth o fentrau i roi lle canolog i iechyd meddwl a llesiant mewn addysg.

Mae’r datblygiadau hyn hefyd yn cydnabod bod y gwaith hwn yr un mor bwysig i athrawon a staff cymorth ag y mae i rieni a gofalwyr.

Nodwedd amlwg o’r fframweithiau dull ysgol gyfan a NYTH yw pwysigrwydd iechyd meddwl. Maent yn helpu'r holl wasanaethau i weithio gyda'i gilydd i’w gefnogi.

Beth yw’r ‘dull ysgol gyfan’

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein fframwaith dull ysgol gyfan, sy’n cynnig canllawiau statudol ar gyfer ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol, ym mis Mawrth 2021. Mae'r fframwaith yn cynnig arferion da ar gyfer sefydliadau addysg eraill. Mae'r fframwaith: 

  • yn cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn
  • yn trafod pwysigrwydd creu ethos holistaidd 
  • yn nodi anghenion llesiant y gymuned ysgol 
  • yn blaenoriaethu'r anghenion llesiant hynny

Sut mae’r ‘dull ysgol gyfan’ a'r fframwaith NYTH yn gyson â’i gilydd

Mae llesiant ar draws addysg yn un o egwyddorion craidd fframwaith NYTH.

Byddwn yn cyflawni ar yr egwyddor hon drwy roi'r dull ysgol gyfan ar waith. Pan fydd lleoliad addysg yn rhoi'r dull ysgol gyfan ar waith, yna mae'n cyflawni NYTH. Drwy gysoni'r ddau fframwaith, gellir gwneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc: 

  • yn deall gwasanaethau eraill
  • yn gwybod am lwybrau atgyfeirio 
  • yn gallu manteisio ar arbenigedd
  • yn gallu cefnogi disgyblion mewn amgylchedd diogel, sef 'NYTH' yr ysgol 

Oes angen i bob aelod o staff mewn lleoliadau addysg wybod am y ddau fframwaith?

Mae'n bwysig bod pob aelod o staff ysgolion yn gwybod am y dull ysgol gyfan ac am gynllun weithredu ei ysgol. Fodd bynnag, ni fydd angen i'r rhan fwyaf o aelodau o staff ysgolion wybod am fframwaith NYTH. Os yw'r ysgol yn rhoi'r dull ysgol gyfan ar waith, bydd hefyd yn cyflawni egwyddorion Fframwaith NYTH. 

Rydym am sicrhau bod pawb yn deall egwyddorion a geirfa NYTH ar draws gwahanol wasanaethau. Felly, rydym yn argymell y dylai'r bobl hynny mewn ysgolion sy'n gyfrifol am gydgysylltu ag asiantaethau allanol ddysgu am NYTH.

Bydd hyn o ddefnydd iddynt mewn sgyrsiau ac yn sicrhau bod negeseuon ac arferion yn gyson.

Arloesi drwy gydgynhyrchu  

Mae gan fabanod, plant a phobl ifanc yr hawl i’w barn gael ei chlywed a gweld camau yn cael eu cymryd o ganlyniad. Mae hyn wedi’i nodi yng 'Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Erthygl 12'. 

Cafodd fframwaith NYTH ei gydgynhyrchu (ei greu) gan bobl ifanc a rhieni. Yn y fframwaith NYTH, nodwyd y dylai cydgynhyrchu fod wrth wraidd y gwaith o ddarparu'r holl wasanaethau iechyd meddwl a llesiant. Rydym yn defnyddio'r ymadrodd; ‘dim byd amdanoch chi, heboch chi’.

Mae ein gwaith cydgynhyrchu yn seiliedig ar y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol sy'n nodi y byddwn:

  • yn darparu gwybodaeth mewn modd hawdd ei defnyddio 
  • yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud
  • yn rhoi adborth ar sut rydym yn gwneud y penderfyniadau a pham

Rydym yn disgwyl i wasanaethau gadw'r pwyslais ar yr hyn sydd bwysicaf i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, ac i barhau i wella.

Mynediad rhwydd at arbenigedd

Mae fframwaith NYTH am sicrhau bod cymorth a chyngor arbenigol ar gael yn haws. Gallai hyn ddod o nifer o ffynonellau gwahanol:

  • llinellau cymorth 
  • ymweliadau rheolaidd gan arbenigwr i ysgol neu wasanaeth ieuenctid 
  • timau amlasiantaeth sydd â gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol 
  • cyngor arbenigol 

Mae angen i oedolion yr ymddiriedir ynddynt sy'n rhan o fywydau plant wybod ble i droi am help er mwyn gallu eu cefnogi. Rydym am helpu oedolion i ‘ddal ymlaen’ pan fo modd, yn lle ‘atgyfeirio ymlaen’. Pan fydd angen galw ar wasanaethau arbenigol, nid ydym am weld teuluoedd yn cael eu trosglwyddo o un gwasanaeth i’r nesaf, gan orfod ailadrodd eu hanes sawl gwaith.

Cymunedau diogel a chefnogol

Mae fframwaith NYTH yn cydnabod bod llawer o wahanol bethau yn bwysig i iechyd meddwl a llesiant. Pan nad yw’r ffactorau hyn wedi’u bodloni, yna mae plant o bob oedran a’u teuluoedd yn debygol o'i chael hi'n anodd. Gall y rhain gynnwys:

  • gwaith a mynediad at swyddi sy'n talu'n dda
  • lleoedd diogel i fyw
  • amser, lle a chaniatâd i chwarae a chymdeithasu
  • cyfleoedd i wneud ymarfer corff a chymryd rhan mewn chwaraeon
  • bwyd iach
  • gweithgareddau celf a hamdden 

Mae’r rhain yn broblemau na ellir eu ‘datrys’ mewn clinigau. Ond mae'n hawdd anghofio amdanynt pan fyddwn yn ceisio gwella gwasanaethau iechyd meddwl. 

Rydym am sicrhau bod y bobl hynny sy'n darparu cymorth iechyd meddwl yn ystyried y ffactorau hyn. Pan fo materion ehangach y mae angen eu hystyried, dylai gwasanaethau helpu i'w cydnabod ac i fynd i'r afael â nhw.

Dim drws anghywir

Mae cael cymorth 'ychwanegol' neu 'arbenigol' yn rhan bwysig o fframwaith NYTH. 

Weithiau mae teuluoedd sy'n gofyn am help gyda nifer o wahanol anghenion yn dysgu eu bod yn wynebu system gymhleth iawn. Os nad oes gwasanaethau ar gael i ddiwallu eu hanghenion, efallai y bydd angen iddynt wneud hebddynt. Weithiau byddant ar restr aros am gyfnod hir, dim ond i ddarganfod wedyn eu bod wedi bod yn aros yn y ciw anghywir, neu'n cnocio ar y drws anghywir o'r cychwyn cyntaf. 

Rydym am sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn ac mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw.

Mae angen i bob gwasanaeth sydd â rôl ym maes iechyd meddwl a llesiant gydweithio er mwyn dod o hyd i'r ffordd orau o ddiwallu anghenion. Gallent fod yn wasanaethau iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol neu’r trydydd sector. Mae gan bob un o’r rhain rywbeth i’w gynnig, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r teulu.

Po fwyaf y bydd gwasanaethau yn gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd, y mwyaf llwyddiannus y byddant wrth addasu a llenwi’r bylchau. Gallai gwasanaethau cymorth ganolbwyntio ar wahanol faterion neu wahanol grwpiau o blant, ond mae modd iddynt gydweithio i greu 'nyth' o amgylch y plentyn. Mae'r dull 'dim drws anghywir' yn ddefnyddiol o ran pennu beth sy’n gweithio'n dda mewn ardal. Mae'n gallu nodi'r gwasanaethau sydd eu hangen a sicrhau nad yw pobl yn mynd yn rhwystredig drwy aros ar restr. Mae hyn yn bwysig er mwyn i deuluoedd wybod eu bod yn cael y math cywir o help a chymorth.