Fframwaith profiad pobl (WHC/2024/015)
Fframwaith i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd drwy ddefnyddio adborth gan y cyhoedd ar y cyd â chwestiynau’r arolwg cysylltiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Gwybodaeth er mwyn gweithredu.
Categori:
Ansawdd, diogelwch a phrofiad.
Teitl:
Fframwaith profiad pobl ac arolwg profiad pobl.
Dyddiad dod i ben / dyddiad adolygu:
Bydd y cylchlythyr hwn yn parhau i fod yn berthnasol hyd nes y caiff ei ddisodli gan y fersiwn nesaf yn 2028.
Angen gweithredu erbyn:
Ebrill 2025.
I’w weithredu gan:
- Prif weithredwyr ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr meddygol ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr therapïau a gwyddorau iechyd.
- Ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Prif fferyllwyr ymddiriedolaethau / byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ymarferwyr cyffredinol, practisau deintyddol a fferyllfeydd cymunedol.
Er gwybodaeth:
- Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar.
- Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru.
- Fforwm Partneriaeth GIG Cymru.
- Cyngor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.
- Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
- Y Coleg Nyrsio Brenhinol.
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd.
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
- Cymdeithas Ddeintyddol Prydain.
- Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.
- Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
- Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Anfonir gan:
- Sue Tranka, y Prif Swyddog Nyrsio, Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru.
- Richard Desir, Swyddog Nyrsio Profiad y Claf.
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Ansawdd a Nyrsio,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
AnsawddaNyrsio@llyw.cymru
Dogfennau amgaeedig:
Fframwaith profiad pobl ac arolwg profiad pobl wedi’u diwygio
Trosolwg
Mae’r fframwaith cyfredol ar gyfer sicrhau profiad defnyddwyr gwasanaeth, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2013 a’i ddiweddaru yn 2015 a 2018, yn rhan o ddull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gwella boddhad cleifion a’r ffyrdd y caiff gofal iechyd ei ddarparu. Yn y lle cyntaf, roedd y fframwaith hwn yn cynnwys set ddwyieithog o fesurau profiadau a adroddir gan gleifion a gynlluniwyd i gasglu adborth amser real ynghylch profiadau ym maes gofal iechyd.
Datblygu ac ailenwi profiad pobl
Er mwyn ceisio gwneud y fframwaith yn fwy cynhwysol a dealladwy, mae wedi’i adnewyddu a’i ailenwi yn ‘fframwaith profiad pobl’. Daw’r newid hwn yn sgil gweithgarwch ymgysylltu helaeth â sefydliadau’r trydydd sector, Llais, a chyrff y GIG. Mae’r iaith sydd wedi’i diweddaru bellach yn cydnabod bod pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau GIG Cymru y tu hwnt i’r diffiniadau traddodiadol o “glaf” neu “ddefnyddiwr gwasanaeth”.
Elfennau’r fframwaith
Mae fframwaith profiad pobl wedi’i ehangu i gynnwys set gynhwysfawr o adnoddau a mesurau a'u nod yw gwerthuso a gwella ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae’r elfennau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- cwynion
- canmoliaeth
- straeon
- digwyddiadau
- arolygon profiad pobl cenedlaethol a lleol (hydredol)
- arolwg profiad pobl
- grwpiau pobl / profiad bywyd
- profiadau staff
- cydraddoldeb
Mae’r fframwaith yn hyrwyddo mabwysiadu dull gweithredu ‘ar waith bob amser’ ar gyfer ymdrin â phrofiadau gan ddefnyddio methodolegau gweithredol a goddefol. Mae hyn yn rhoi pobl yn gyntaf gan eu galluogi i rannu profiadau ar adeg a lleoliad sydd fwyaf cyfleus iddynt.
Yr offeryn hunanasesu lleol
Gwelliant pwysig i’r fframwaith yw’r ‘offeryn hunanasesu lleol’, sy’n galluogi sefydliadau i asesu eu haeddfedrwydd a’u statws unigol, creu strategaethau a chynlluniau gwella uchelgeisiol, a sicrhau dysgu parhaus. Mae’r offeryn hwn yn sicrhau bod pob agwedd ar ymbarél profiad pobl yn cael ei chynnwys mewn modd cynhwysfawr.
Addasiadau wedi COVID-19 a newidiadau deddfwriaethol
Mae’r fframwaith wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn gwasanaethau a ddarperir wedi pandemig COVID-19 a newidiadau deddfwriaethol diweddar. Mae’n cyd-fynd yn glir â pharthau safonau ansawdd iechyd a gofal 2023 | LLYW. CYMRU, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
Arolwg profiad pobl a’r broses ailenwi
Mae’r set genedlaethol o gwestiynau a mesurau craidd dwyieithog a ddilyswyd, a elwid gynt yn fesurau profiadau a adroddir gan gleifion, hefyd wedi’i hadnewyddu a’i hailenwi yn arolwg profiad pobl. Mae’r arolwg newydd hwn wedi’i brofi a’i ddilysu’n drylwyr ar draws pob lleoliad iechyd.
Mae pandemig COVID-19 wedi sbarduno newidiadau mawr yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru a chyrff y GIG wedi cydnabod bod y newidiadau hyn wedi effeithio’n sylweddol ar sut y mae pobl yn cael gafael ar wasanaethau iechyd a’u defnyddio, sydd yn ei dro, yn effeithio ar eu profiadau. O ganlyniad, daeth yn hanfodol sicrhau bod set genedlaethol o gwestiynau craidd yn parhau i gynnwys y cwestiynau mwyaf perthnasol ar draws yr ystod amrywiol o leoliadau iechyd a'r gwahanol grwpiau poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng ond hefyd, am y tro cyntaf, lleoliadau gofal sylfaenol, mamolaeth, iechyd meddwl ac anabledd dysgu.
Y camau nesaf
Ers yr hydref yn 2024, mae Gweithrediaeth y GIG a’r Tîm Unwaith i Gymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cenedlaethol ar gyfer Profiad y Claf. Nod y grŵp yw arwain a helpu GIG Cymru a gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo â’r gwaith paratoi a’r pontio cyn lansiad ffurfiol fframwaith profiad pobl ac arolwg profiad pobl ym mis Ebrill 2025. Mae’r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen o ran gwella gofal ac ymwneud â phobl ledled GIG Cymru.
Cymorth i sefydliadau
Bydd sefydliadau ar draws GIG Cymru yn parhau i gael cymorth yn ystod y cyfnod pontio hwn. Y nod yw sicrhau bod rhanddeiliaid wedi’u paratoi’n dda ac yn hyderus i weithredu’r fframwaith a’r arolwg newydd yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar adnoddau, gan gynnwys adnoddau mewn ieithoedd heblaw y Gymraeg a Saesneg, er enghraifft, fersiynau hawdd eu deall ac Iaith Arwyddion Prydain, yn ogystal â chanllawiau i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu heriau a allai godi.
Parodrwydd pobl
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cydweithio â Llais i hwyluso gweithgarwch rhyngweithio ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n hanfodol cynnwys parodrwydd y cyhoedd ac addasu cymdeithasol yn y dull gweithredu newydd hwn.
Casgliad
Ers amser maith, mae GIG Cymru wedi cydnabod bod profiadau yn fesur ansawdd a diogelwch fel yr adlewyrchir yn y fframwaith sicrhau profiad defnyddwyr gwasanaeth a’r mesurau profiadau a adroddir gan gleifion a lansiwyd yn wreiddiol yn 2013. Mae’r diweddariadau a’r ailenwi diweddar i fframwaith profiad pobl ac arolwg profiad pobl yn nodi cam pwysig tuag at ddull gweithredu mwy cynhwysol, a hynny i gydnabod amrywiaeth y boblogaeth, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion sy’n newid yr holl bobl sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru. Maent hefyd yn hwyluso gweithgarwch cyson ac o ansawdd o ran ymgysylltu ac adrodd ‘ar waith bob amser’.
Yn gywir,
Sue Tranka
Y Prif Swyddog Nyrsio, Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru.
