Canllawiau ar gwblhau eich ffurflen stoc flynyddol defaid a geifr.
Cynnwys
1. Beth yw dyddiad cynnal y stocrestr flynyddol o ddefaid a geifr?
Dyddiad y stocrestr flynyddol yng Nghymru yw 1 Rhagfyr.
2. Pryd ca i gyflwyno fy stocrestr?
Gofynnir ichi gyflwyno’ch stocrestr defaid a/neu eifr nesaf ar 1 Rhagfyr 2025. Gallwch ei chyflwyno rhwng 1 Rhagfyr a 31 Rhagfyr.
3. Alla i gwblhau’r stocrestr ar-lein?
Gallwch, fe allwch gwblhau eich stocrestr flynyddol ar-lein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif EIDCymru yn eidcymru.org. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â’r swyddfa ar 01970 636959.
Os ydych yn cadw defaid a/neu eifr ac nad oes gennych gyfrif, dylech gofrestru gydag EIDCymru am un. Bydd staff swyddfa EIDCymru yn fwy na hapus i’ch helpu i gofrestru am gyfrif ar-lein ac ateb eich cwestiynau. Gallwch eu ffonio ar 01970 636959 neu e-bostiwch cymorth@eidcymru.org.
4. A ga i ddefnyddio fy nghyfrif EIDCymru at unrhyw ddiben arall?
Cewch. Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif EIDCymru ar-lein i:
- gofnodi a derbyn symudiadau defaid ar-lein, heb orfod postio’r drwydded symud bapur
- cadarnhau’ch cofnodion symud ar y fferm a’u cymharu â chofnodion EIDCymru
5. A gaiff ffurflen bapur ei hanfon ata i?
Y ffordd o anfon eich stocrestr atom fydd trwy’ch cyfrif EIDCymru ar-lein.
6. Sut mae llenwi’r stocrestr os na fydda i’n gallu cofrestru am gyfrif EIDCymru ar-lein?
Cyn i’r stocrestr agor, bydd llythyr yn cael ei anfon at bob ceidwad sydd heb gyfrif EIDCymru ar-lein gyda dolen arno i borth EIDCymru ar-lein. Bydd y ceidwaid yn gallu defnyddio’r ddolen i anfon eu stocrestr yn syth i EIDCymru heb orfod cofrestru am gyfrif. Os oes amgylchiadau eithriadol iawn, rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu ag EIDCymru. Bydd staff swyddfa EIDCymru’n hapus i’ch helpu i fynd i’r porth ar-lein ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch eu ffonio ar 01970 636959 neu drwy eu e-bostio ar cymorth@eidcymru.org.
7. Rwy’n ei chael hi’n anodd defnyddio systemau ar-lein. Sut fedrwch chi fy helpu?
Gallwch ffonio EIDCymru ar 01970 636959 a dewis o’r opsiynau i’ch helpu. Pan fydd y stocrestr yn agor (1 Rhagfyr), mae trefniadau wedi’u gwneud i gynnal y sesiynau galw heibio canlynol mewn marchnadoedd da byw lle bydd staff y Gwasanaeth Cyswllt Ffermydd bresennol i’ch helpu i lenwi’ch stocrestr.
Sesiynau galw heibio
Bydd pob sesiwn yn rhedeg o 10am tan 2pm:
- 1 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Y Trallwng
- 2 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Aberhonddu
- 2 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Rhuthun
- 3 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Rhaglan
- 4 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Llanelwy
- 5 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Caerfyrddin
- 5 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Dolgellau
- 8 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Y Trallwng
- 9 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Aberhonddu
- 10 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Rhaglan
- 12 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Caerfyrddin
- 12 Rhagfyr 2025: marchnad da byw Dolgellau
Bydd EIDCymru a y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru hefyd i ateb unrhyw gwestiynau.
8. A fydd angen i mi roi gwybodaeth wahanol?
Na fydd, yr un wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani ag o’r blaen. Dylech lenwi’r stocrestr trwy nodi nifer y defaid a/neu eifr rydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr. Cofnodwch nifer yr anifeiliaid wrth bob CPH y byddan nhw ynddo ar y dyddiad hwnnw. Dylai hynny gynnwys tir comin ac unrhyw CPH dros dro.
9. A fydd angen i fi gofnodi’r stocrestr flynyddol yn llyfr cofnodion fy niadell? Mae fy llyfr diadell yn cyfeirio at 1 Ionawr, nid 1 Rhagfyr.
Bydd. Rhaid ichi gofnodi nifer y defaid a/neu’r geifr rydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr yn eich “Cofnod Diadell”. Dylai fod union yr un peth â’ch stocrestr flynyddol. Mae fersiwn newydd o lyfr y ddiadell ar gael oddi wrth EIDCymru.
10. A oes rhaid i fi lenwi’r stocrestr flynyddol?
Oes. Mae gofyn o dan y gyfraith i bawb sy’n cadw defaid a/neu eifr lenwi stocrestr flynyddol o dan Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Cymru) 2015.
11. Allwch chi ddefnyddio’r wybodaeth a roddais yn arolwg ym mis Mehefin?
Na. Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol yn y stocrestr hon yn fanylach ar lefel y daliad nag arolwg mis Mehefin.
12. Ar 1 Rhagfyr, dw i’n berchen ar ddefaid a/neu eifr sy’n cael eu cadw dros y gaeaf/ar dac mewn lle arall. A ddylwn i gofnodi’r anifeiliaid ar fy stocrestr?
Dylech. Os mai chi yw’r perchennog a’ch bod wedi symud yr anifeiliaid i aeafu/ar dac mewn lle arall, yna rhaid cofnodi’r anifeiliaid hyn ar eich stocrestr chi. Cofnodwch yr anifail wrth y CPH lle maen nhw ar y dyddiad hwnnw ac fel sydd wedi’i gofnodi ar eich trwydded symud.
13. Ar 1 Rhagfyr, mae yna ddefaid a/neu eifr “ar dac” ar fy nhir. A ddylwn restru’r anifeiliaid hynny ar fy stocrestr?
Na ddylech gan nad chi yw perchennog yr anifeiliaid hynny. Cyfrifoldeb y perchennog yw cofnodi’r anifeiliaid hyn ar ei stocrestr ei hun.
14. Os ydw i’n symud defaid a/neu eifr i fy naliad neu oddi arno ar 1 Rhagfyr, a ddylwn i eu cynnwys nhw yn y ffigwr ar gyfer y stocrestr?
Dylech gynnwys unrhyw ddefaid a/neu eifr sy’n symud i’ch daliad ar 1 Rhagfyr. Ni ddylid cynnwys unrhyw ddefaid a/neu eifr sy’n symud oddi ar eich daliad ar 1 Rhagfyr.
15. Oes rhaid i mi restru pob rhif daliad (CPH) lle bydd y defaid a/neu’r geifr rwy’n berchen arnyn nhw y cael eu cadw ar 1 Rhagfyr?
Oes, rhaid i chi restru pob CPH lle rydych chi’n cadw eich defaid a/neu eich geifr ar 1 Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys tir comin, CPH dros dro ac unrhyw CPH y byddwch wedi symud yr anifeiliaid rydych yn berchen arnyn nhw iddo.
16. Rwy’n defnyddio tir comin; sut mae dod o hyd i rif y daliad (CPH)?
Gellir cael rhif CPH y tir comin drwy ffonio EIDCymru ar 01970 636959. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch cyn cysylltu a nhw:
a. enw’r comin
b. rhif y tir comin (hynny yw, rhif CL)
Rhaid i chi gofio nodi ar eich stocrestr nifer y defaid rydych chi’n berchen arnyn nhw sy’n pori tir comin ar 1 Rhagfyr. (Gallai’r rhif fod yn wahanol i nifer y defaid y mae gennych hawliau pori ar eu cyfer i bori’r comin).
17. Gofynnwyd imi lenwi stocrestr ond nid wyf yn cadw defaid na geifr. Oes angen i mi lenwi stocrestr?
Oes. Yn ôl EIDCymru, rydych yn dal i fod yn geidwad defaid a/neu eifr. Mae’ch CPH wedi cael ei ddefnyddio i gofnodi symudiadau defaid a/neu eifr yn y flwyddyn ddiwethaf.
Os nad ydych chi’n cadw defaid na geifr mwyach, rhaid i chi ddadgofrestru fel ceidwad defaid drwy gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 0300 3038268.
18. Rwyf wedi dadgofrestru fy hun fel ceidwad ond rwyf newydd dderbyn y stocrestr. A ddylwn i ei llenwi?
Dylech. Mae’ch CPH wedi cael ei ddefnyddio i gofnodi symudiadau defaid a/neu eifr yn y flwyddyn ddiwethaf. Gallai’r symudiadau hynny fod wedi’u gwneud cyn ichi ddadgofrestru.
19. Rwy’n cadw fy nefaid a/neu fy ngeifr fel anifeiliaid anwes. Oes angen i mi lenwi’r stocrestr?
Oes, mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob ceidwad defaid a geifr, ac mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi lenwi stocrestr.
20. Nid wyf yn cadw defaid na geifr, ond rwy’n cadw lamas a/neu alpacas. Sut mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arna i?
Dim ond i ddefaid a geifr y mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol (rhywogaethau defaid a geifr). Nid yw lamas/alpacas a da byw eraill yn dod o dan y ddeddfwriaeth hon.
21. Beth yw oriau agor EIDCymru dros y Nadolig a Chalan?
- Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025: 9am i canol dydd
- Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025: ar gau
- Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025: ar gau
- Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr 2025: ar gau
- Dydd Sul 28 Rhagfyr 2025: ar gau
- Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025: 9am i 5pm
- Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025: 9am i 5pm
- Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025: 9am i 3pm
- Dydd Iau 1 Ionawr 2026: ar gau
- Dydd Gwener 2 Ionawr 2026: 9am i 5pm
Mae’r manylion i’w gweld hefyd ar wefan EID.
22. A ga i beidio â llenwi fy stocrestr tan ddiwedd Rhagfyr?
Rydyn ni’n eich cynghori i lenwi’ch stocrestr cyn gynted ag y medrwch ar ôl
1 Rhagfyr ac i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.
23. Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei chasglu cyn llenwi fy stocrestr?
Nid yw’r wybodaeth sydd ei hangen wedi newid ers llynedd. Rhaid ichi gofnodi nifer y defaid a/neu’r geifr rydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr. Mae rhestr wirio ar y wefan i chi ei defnyddio fel canllaw.
