Neidio i'r prif gynnwy

Cosbau a roddir gan awdurdodau lleol am sbwriel, baw ci, graffiti, posteri anghyfreithlon a sŵn rhwng 2020 a 2021.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Ffurflenni hysbysiad cosb benodedig: 2020 tan 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 176 KB

PDF
176 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Mae data Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer:

  • sbwriel
  • baw cŵn
  • graffiti
  • gosod posteri’n anghyfreithlon
  • troseddau sŵn
  • sbwriel sy’n gysylltiedig ag ysmygu

rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Dylid nodi yn ystod y cyfnod hwn yr amharwyd yn sylweddol ar wasanaethau Awdurdodau Lleol gan y pandemig COVID-19, a arweiniodd at leihad mewn gweithgareddau gorfodi wrth i staff gael eu hailbennu i gefnogi gwaith yn ymwneud â COVID-19, neu eu bod yn sâl / ynysu.

Hefyd, arweiniodd y ddau gloi cenedlaethol at lai o bobl yn ymweld â threfi a dinasoedd lle mae rhai o'r Hysbysiadau Cosb Benodedig hyn yn aml yn cael eu cyhoeddi. Ni chyflwynodd chwe Awdurdod Lleol ffurflenni ar gyfer y cyfnod hwn.