Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni cynhyrchu a dosbarthu rhaglenni teledu annibynnol hynod lwyddiannus o Awstralia wedi dewis Cymru fel ei ganolfan gynhyrchu Ewropeaidd newydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Flame Media Group, sydd â’i ganolfan gynhyrchu yn Sydney, yn cynhyrchu, caffael a gwerthu ystod eang o gynnwys ffeithiol, adloniant, rhaglenni dogfennol a rhaglenni ffordd o fyw i’w darlledu.  Gan gynrychioli dros 100 o gynhyrchwyr rhyngwladol, mae Flame yn fusness dosbarthu byd-eang gyda 2,500 o gynnwys ar werth ar hyn o bryd i farchnadoedd sefydledig a newydd ledled y byd.  

Mae ehangu’r cwmni a’r buddsoddiad mewnol sylweddol i Gaerdydd wedi derbyn cefnogaeth a chyllid busnes gan Lywodraeth Cymru.  

Bydd y cwmni newydd, Wildflame Productions, yn creu dros 20 o swyddi llawn amser dawnus iawn a bydd yn cefnogi hyd at 200 o swyddi llawrydd.  Amcangyfrifir y bydd dros £1 miliwn yn cael ei wario o fewn cadwyn gyflenwi Cymru a’r gymuned staff llawrydd o fewn y flwyddyn gyntaf, gan godi i dros £7 miliwn erbyn blwyddyn pump.

Mae’r gwaith ehangu yn cefnogi nod y grŵp i fod yn gwmni cynhyrchu teledu byd-eang gyda chanolfannau cynhyrchu mawr yn fyd-eang, a’r gallu i gynhyrchu 100+ o oriau o deledu y flwyddyn.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates: 

“Mae denu cwmni cynhyrchu cyfryngol annibynnol, rhyngwladol, newydd i Gymru yn hwb mawr i’r sector cynhyrchu teledu.  Mae Wildflame Productions yn ychwanegiad sydd i’w groesawu i’r clwstwr cynyddol o gwmnïau hynod llwyddiannus sydd gennym yng Nghymru.  

“Dwi’n falch iawn o glywed bod y cwmni yn bwriadu llunio partneriaeth gref gyda chwmnïau mawr eraill o Gymru i sicrhau bod doniau newydd a chyfleoedd newydd ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru.  Bydd y buddsoddi mewnol hwn nid yn unig yn creu swyddi ac yn cefnogi nifer sylweddol o weithwyr llawrydd, ond bydd yn dod â manteision i’r gadwyn gyflenwi ac yn sicrhau cyfleoedd i gyd-gynhyrchwyr.”

Mae gan The Flame Group, a sefydlwyd yn Sydney yn 2010 gan reolwr-gyfarwyddwr y cwmni, John Caldon, ei Gyfarwyddwr Creadigol, Lyndey Milan a’i Brif Swyddog Cyllid, Edmund Henning, rwydwaith o swyddfeydd dosbarthu yn Sydney, Llundain, Gwlad Groeg a Singapôr.

Meddai’r Rheolwr-gyfarwyddwr, John Caldon: 

“Rydym yn gwmni rhyngwladol ac mae hwn yn ddatblygiad cyffrous fydd  yn helpu inni ehangu a chyrraedd marchnadoedd newydd.  Mae gennym awydd gwirioneddol i ddarganfod a datblygu y genhedlaeth nesaf o ddoniau darlledu yng Nghymru.  Rydym am gydweithio gyda chwmnïau sefydledig ac unigolion i edrych ar gyfleoedd i weithio ar lwyfan byd-eang.”  

“Bydd Wildflame Productions o dan arweiniad Paul Islwyn Thomas, un o’r swyddogion darlledu mwyaf profiadol yng Nghymru.  Fel y Prif Swyddog Gweithredol newydd, bydd Paul yn gyfrifol am greu is-adran gynhyrchu gref yn y datblygiad cyffrous newydd yn y Tramshed yng Nghaerdydd.”  

Meddai Paul Islwyn Thomas:  

“Bydd cydweithio yn ganolog i bopeth yr ydym yn fwriadu ei wneud.  Byddwn yn cydweithio’n agos â’r doniau creadigol gorau yma yng Nghymru ac ystod eang o bartneriaid cynhyrchu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer Prydain a marchnadoedd y byd.  Gyda chanolfannau yng Nghaerdydd a Llundain, mae Wildflame yn ceisio bodloni anghenion darlledwyr ym Mhrydain, meithrin partneriaethau i gynhyrchu ar y cyd yn rhyngwladol, edrych ar opsiynau cyllido newydd a dod o hyd i fodelau cynhyrchu arloesol”.