Neidio i'r prif gynnwy

Mae datganoli pwerau i bennu cyflog ac amodau athrawon ysgol yn gyfle i ni godi statws y proffesiwn yng Nghymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, mae’r pwerau i bennu cyflog ac amodau athrawon wrthi’n cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru o San Steffan o dan Ddeddf Cymru.

Ddiwedd mis Medi bydd y maes hwn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a bydd yn pennu cyflog ac amodau athrawon ysgol o fis Medi 2019.

Heddiw, mae ymgynghoriad yn agor sy’n trafod y mecanwaith ar gyfer pennu cyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru. Cynigir model a fyddai’n golygu bod y Llywodraeth, yr undebau a’r cyflogwyr yn cydweithio fel rhan o fforwm partneriaeth.

Byddai’r Fforwm Partneriaeth newydd hwn yn gallu cynnig newidiadau i gylch gwaith drafft a gosod yr agenda ar gyfer unrhyw faterion eraill y mae angen eu hystyried.

Ar ôl ystyried sylwadau’r Fforwm, byddai Gweinidogion Cymru'n cyflwyno cylch gwaith ‘terfynol’ er mwyn i gorff arbenigol annibynnol graffu arno a’i ddadansoddi, cyn iddynt benderfynu ar unrhyw beth yn derfynol.

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad, mae grŵp wedi ei sefydlu i edrych ar gyflog ac amodau athrawon ysgol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Mick Waters. Bydd y grŵp yn ystyried sut y gellid gwella’r system bresennol, a byddant yn cyflwyno’u hadroddiad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn nes ymlaen eleni.

Mae’r cyfrifoldeb dros gyflog ac amodau athrawon ysgol yn rhan o gyfres ehangach o fesurau i gryfhau’r proffesiwn yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi mewn rheolwyr busnes i leihau’r pwysau gweinyddol ar benaethiaid, mynd i’r afael â biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, lleihau maint dosbarthiadau babanod a chyflwyno safonau proffesiynol newydd.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rwyf eisiau cydweithio â’r proffesiwn a helpu athrawon i wneud eu gwaith hyd orau eu gallu. Mae hyn yn golygu edrych ar bopeth y gallwn ni ei wneud i’w helpu, boed hynny’n strwythur teg a synhwyrol ar gyfer pennu cyflogau ac amodau, ffyrdd newydd o leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth neu system well ar gyfer datblygiad proffesiynol.

“Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o sicrhau bod athrawon yng Nghymru yn cael yr un faint o gyflog ag athrawon yn Lloegr. Bydd y model yr ydym yn ymgynghori arno yn sicrhau bod undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn gallu dod ynghyd i drafod a chytuno ar ffordd ymlaen sy’n deg, yn synhwyrol ac yn gynaliadwy.

“Mae’n rhaid i ni edrych hefyd ar y darlun cyfan. Dyma gyfle i ddatblygu model cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair, model cenedlaethol sy’n corffori dull o gefnogi a rhoi hwb i’r proffesiwn.

“Rwy’n annog pawb sy’n rhannu’r un uchelgeisiau â ni i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.”