Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog a chabinet Llywodraeth Cymru wedi galw ar bobl Cymru i gefnogi’r bedwaredd ymgyrch Great Winter Get Together sy’n cychwyn yr wythnos hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ymgyrch mis o hyd yn cael ei chynnal ledled y DU gyda'r nod o fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, a dod â chymunedau a phobl at ei gilydd. Ysbrydolwyd y syniad gan y diweddar Jo Cox, a oedd yn credu’n angerddol mewn lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd.

Gan fwrw ymlaen â gweledigaeth Jo Cox o fyd llai unig, mwy cysylltiedig, mae'r ymgyrch yn cynnig ffyrdd syml o gysylltu yn y gymuned a thrwy ddigwyddiadau rhithwir.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Gall unrhyw un brofi unigrwydd, ond gall y gaeaf fod yn gyfnod arbennig o anodd, yn enwedig eleni.

Mae cysylltu â ffrindiau a theulu drwy'r pandemig wedi bod yn anodd, ond mae llawer o bobl wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gysylltu drwy ddigwyddiadau ar-lein, neu drwy gefnogi eraill yn eu cymuned.

O'r rhai sydd wedi sefyll ar garreg y drws i siarad â chymdogion a fyddai fel arall wedi treulio dyddiau ac wythnosau'n unig; i grwpiau cymunedol sydd wedi sefydlu sesiynau ar y rhyngrwyd ar gyfer pobl y mae eu teuluoedd yn byw ymhell i ffwrdd; i grwpiau cefnogi a sefydlwyd i helpu gweithwyr gofal; i grwpiau o gymdogion sydd wedi dod o hyd i ffyrdd gwerthfawr o weithio gyda'i gilydd, codi arian neu wneud cynnyrch i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol: hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn eich cymunedau mewn cynifer o wahanol ffyrdd.

Drwy eich dyfeisgarwch, rydych wedi cysylltu â phobl a fyddai fel arall wedi cael eu hynysu ac ar ben eu hunain. Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud. Parhewch i gefnogi eich cymunedau'n ddiogel, ym mha ffordd bynnag sy'n gweddu orau i chi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn deimladau sy'n gallu cyffwrdd â ni ar unrhyw oedran ac yn unrhyw gyfnod o'n bywyd. Yn anffodus, mae teimladau o unigrwydd wedi cynyddu eleni, ond mae'n galonogol gweld y ffyrdd niferus y mae pobl wedi addasu a chefnogi eu cymuned a'i gilydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud gwahaniaeth.

Eleni lansiais strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gyntaf erioed Cymru, o'r enw Cysylltu Cymunedau. Y strategaeth yw'r cam cyntaf tuag at helpu i newid sut mae pobl yn meddwl am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Gall tymor yr ŵyl fod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n teimlo unigrwydd ac arwahanrwydd, ac eleni bydd yn effeithio ar fwy o bobl nag erioed. Mae yna lawer o fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Mae’r Great Winter Get Together yn enghraifft wych arall o'r gwaith caled a haelioni ysbryd sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd trwy greu cysylltiadau ystyrlon.