Neidio i'r prif gynnwy

Gair i Gall gan SHWSH am y Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe wnaeth SHWSH addo ‘bandiau byw, lleoliadau cudd, profiadau egsgliwsif am ddim ’ ar draws Caerdydd cyn i'r Eisteddfod ddod i'r ddinas. Fe wnaeth pobl oedd am gymryd rhan gofrestru drwy anfon neges destun er mwyn derbyn cyfarwyddiadau a gwybodaeth am y gigiau oedd yn cael eu cynnig a'r codau egsgliwsif i gael gostyngiad gan siopau ar draws y ddinas.

Fe wnaeth 450 o bobl fynd i saith perfformiad mewn lleoliadau bychan gan artistiaid yn cynnwys Huw Stephens, Gwenno, Chroma, Mellt, Papur Wal, Han2k, H.Hawkline a Gwilym.

Dywedodd 56% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod eisoes wedi bwriadu mynd i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Dywedodd 29% fodd bynnag, fod Shwsh wedi eu hysbrydoli i fynd i'r ŵyl. Dywedodd 91% o'r rhai wnaeth gymryd rhan yn yr arolwg y byddent yn barod i fynd i ragor o gigiau SHWSH yn y dyfodol a dywedodd 92% y byddent yn gwrando ar fwy o gerddoriaeth Gymraeg neu eu bod eisoes yn gwneud hynny.

Dywedodd Joshua Roberts o Gaerdydd:

"Do'n i erioed wedi bod mewn digwyddiad lle'r oedd cerddoriaeth Gymraeg o'r blaen ond ro'n i'n hoffi'r ffordd roedden nhw wedi'u trefnu a'r elfen gyfrinachol i'r lleoliadau cudd. Roedd y gigs eu hunain yn dda iawn ac roedd hi'n dda cael darganfod artistiaid cerddorol newydd fyddwn i ddim wedi clywed amdanyn nhw fel arall. Doedd y ffaith nad ydw i'n siarad Cymraeg ddim yn broblem chwaith gan mod i wedi mwynhau'r gerddoriaeth a'r awyrgylch yn dda."

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Fel roedd hi'n wir gyda'r prif ddigwyddiad, Dydd Miwsig Cymru, un o nodau SHWSH oedd annog pobl nad oeddent efallai yn siarad Cymraeg i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg a defnyddio'r cyfle i'w cyflwyno i'r Eisteddfod a oedd, am y tro cyntaf eleni, am ddim i ymwelwyr. Fe wnaeth 80% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg ymweld â'r Eisteddfod ac fe ddywedodd 29% fod Shwsh wedi eu hysbrydoli i fynd yno.

"Mae cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn dasg sy'n golygu y bydd angen newid diwylliant ac mae hynny'n rhywbeth na all y llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun. Mae gan addysg rôl arbennig o bwysig i'w chwarae yn cynyddu'r niferoedd ymhlith cenedlaethau'r dyfodol ond mae'n rhaid i ni annog oedolion hefyd i ymddiddori yn yr iaith a'i dysgu.

"Mae'r Eisteddfod yn gyfle gwych i ysbrydoli pobl i gofleidio'r iaith a'r holl fanteision diwylliannol a ddaw yn sgil hynny. Dwi wrth fy modd felly fod SHWSH wedi cael effaith bositif yn annog pobl na fyddent wedi mynd i'r Eisteddfod fel arall i fynd yno ac i weld beth oedd ganddi i'w chynnig."