Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi galw ar fusnesau ledled Cymru i fantesio ar y cyngor a’r canllawiau sy’n cael eu darparu gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wrth ddelio gydag effaith economaidd y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Busnes Cymru dîm hynod brofiadol o gynghorwyr allai helpu cwmnïau sydd â’r heriau mwyaf, gan gynnwys sut i leihau effeithiau Covid-19 ar fusnesau.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig mynediad at wybodaeth ymarferol, gweminarau arbenigol, cyfarfodydd cynghori rhithiol unigol a chymorth ffôn, yn ogystal â mynediad at fentoriaid a rhagor o gymorth arbenigol. Gall roi cyngor ar draws ystod o faterion sy’n wynebu busnesau gan gynnwys her y pandemig a pharatoadau wrth i’r DU adael yr UE.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Mae’r Coronafeirws wedi cael mwy o effaith ar ein heconomi nac unrhyw beth arall ac mae entrepreneuriaid Cymru yn wynebu rhai o’r penderfyniadau mwyaf heriol yn eu gyrfaoedd.

“Fel llywodraeth, rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod ein cymuned fusnes yn mynd drwy’r cyfnod eithriadol hwn ac yn paratoi ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau. Mae Busnes Cymru wedi cynnig y cymorth o safon uchel iawn i filoedd o bobl yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi parhau i wneud hynny drwy gydol y pandemig. Maent yn barod i roi cyngor a chanllawiau ymarferol, perthnasol a gwerthfawr i’r rhai sydd ei angen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn cynnig amrywiol fathau o gymorth, o gynnal adolygiad o’r busnes i gynnig cyfleoedd newydd; gweithio i ddeall gofynion cwsmeriaid yn well i helpu gyda materion AD, gweithio o bell, a rheoliadau sy’n newid, gan gynnwys ymadawiad y DU â’r UE.

Dros y tair blynedd nesaf, mae Busnes Cymru wedi helpu dros 15,000 o bobl i ddechrau neu i ddatblygu eu busnesau ac wedi helpu i lansio dros 3,600 o fusnesau newydd.

Mae pecyn Llywodraeth Cymru o gymorth busnes wedi bod yn hollbwysig wrth gefnogi cwmnïau drwy’r pandemig. Mae dros £760 miliwn o grantiau cymorth ar gyfer ardrethi busnes wedi’u rhoi i dros 64,000 o fusnesau, tra bod y Gronfa Cadernid Economaidd eisoes wedi cynnig cymorth i dros 12,000 o gwmnïau yng Nghymru, gan warchod dros 75,000 o swyddi.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rydyn ni am gefnogi ein entrepreneuriaid i ddod yn ôl o’r pandemig hwn yn gryfach ac i ddefnyddio’r ysbryd entrepreneuraidd cryf sydd gennym yma yng Nghymru.

“Rydyn ni yn gwybod bod busnesau yn fwy cadarn o gael y gefnogaeth iawn a dwi’n eich annog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.

Mae Abigail Chamberlain, o Welsh Luxury Hamper Company yng Nghas-gwent wedi elwa o wasanaeth Busnes Cymru. Mae eisoes wedi denu diddordeb brandiau byd-eang gan gynnwys John Lewis a Fine and Country Estate Agents ac mae’n derbyn cymorth drwy raglen Syniadau Mawr Busnes Cymru i’w helpu gyda costau, strategaeth brisio a gyda sefydlu partneriaethau gyda cleientiaid a chyflenwyr posibl.

Meddai:

"Dwi’n bwriadu datblygu fy musnes a gallu cynnig ystod ehangach o gynnyrch i nifer cynyddol o gwsmeriaid. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar nifer o gontractau mawr ac yn bwriadu defnyddio’r Welsh Luxury Hamper Company fel platfform i annog merched ifanc eraill i fusnes ac i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau sy’n bodoli o fewn y diwydiant.

Mae Beyond Breakout, profiad ystafell ddianc newydd yn y Drenewydd, sy’n cael ei redeg gan Lorna Morris a Jo Woodall hefyd wedi elwa o gymorth Busnes Cymru. Derbyniodd y ddau gymorth gan Busnes Cymru i ddatblygu eu syniad cychwynnol yn ogystal â chymorth gyda’u cynllun busnes, marchnata a rhagolygon ariannol.

Meddai Lorna:

“Bu’r cymorth a gawsom gan Busnes Cymru yn werthfawr iawn, ac mae wedi cynnwys help inni baratoi rhagolygon llif arian, datblygu cynllun busnes, cwblhau cytundeb partneriaeth a’n harwain at y Start-Up Loans Company, ble y cawsom fenthyciad o £10,000.

“Rydyn ni’n bwriadu agor dwy ystafell ddianc arall, gan ddod â’n cyfanswm i bedair. Hefyd, hoffem fynd â’n syniadau i ysgolion drwy ddatblygu posau ystafelloedd dianc sydd wedi’u cysylltu â chwricwlwm yr ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd cyllid, cyngor a chefnogaeth pellach ar gael i fusnesau yng nghamau diweddarach y Gronfa Cadernid Economaidd yn ystod y misoedd nesaf.

Er mwyn cysylltu gyda Busnes Cymru a gweld sut y gall ddarparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i ddechrau, cynnal a datblygu eich busnes edrychwch ar wefan Busnes Cymru neu ffonio 03000 603000.

Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy’n ariannu Busnes Cymru.