Neidio i'r prif gynnwy

Gall cam-drin ddigwydd ar unrhyw oedran

Mae pobl hŷn yn profi trais rhywiol hefyd, ond yn aml caiff yr arwyddion eu methu.

Nid yw trais rhywiol yn cael ei gyfyngu gan oedran. Gall pobl hŷn gadw’n dawel oherwydd cywilydd, dibyniaeth, ofn na fydd neb yn eu credu, neu gan nad ydyn nhw’n gwybod ble i gael cymorth.

Anaml y caiff trais rhywiol yn erbyn pobl hŷn ei drafod. Yn aml caiff ei anwybyddu, sy'n golygu bod arwyddion yn cael eu methu a dioddefwyr yn cadw’n dawel.

Os ydych chi'n ansicr ynghylch rhywbeth a ddigwyddodd i chi, neu os ydych chi'n ansicr os mai cam-drin yw yr hyn i chi ei brofi, mae cefnogaeth ar gael drwy Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Mae teimlo'n ansicr, yn anesmwyth neu'n ddryslyd yn ymateb hollol gyffredin.

Adnabod trais rhywiol mewn oedolion hŷn

Gall trais rhywiol ddigwydd o fewn perthnasoedd, mewn lleoliadau gofal, neu o fewn teuluoedd. Gall gael ei guddio gan gywilydd, stigma neu dybiaethau am heneiddio.

Efallai y byddwch yn sylwi ar:

  • Newidiadau sydyn mewn ymddygiad pan yng nghwmni partner neu ofalwr
  • Ofn neu densiwn pan fydd rhywun yn dod i mewn i'r ystafell, neu nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yn aml
  • Dillad sy'n ymddangos yn amhriodol ar gyfer y tywydd neu sy’n cuddio anafiadau
  • Rhywun yn siarad ar eu rhan, yn eu cyfarwyddo, neu yn eu rheoli
  • Sylwadau sy'n awgrymu ofn, gorfodaeth neu gyswllt rhywiol digroeso
  • Teimlo’n anghysurus, mewn poen neu’n meddu ar symptomau corfforol na ellir eu hesbonio
  • Osgoi cyswllt corfforol neu archwiliadau

Os yw rhywbeth yn teimlo'n anghywir, dilynnwch eich greddf.

Os ydych chi'n poeni am rywun ac yn amau ​​​​​​eu bod yn profi cam-driniaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Mae gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn barod i wrando, cynnig arweiniad a help i'w cadw'n ddiogel.

Sut allwch chi helpu

Sylwch

Cadwch lygad am newidiadau sy’ ddim yn cyd-fynd ag ymddygiad neu iechyd arferol rhywun.

Gwrandewch

Os yw rhywun yn awgrymu eu bod yn teimlo'n anniogel, wedi'u diystyru neu dan reolaeth, gwrandewch heb farnu.

Gofynnwch

Gall cwestiynau ysgafn, agored, fel “Sut mae pethau gartref?”, greu cyfle ar gyfer datgelu gwybodaeth.

Gweithredwch

Os ydych chi'n poeni am drais rhywiol, cam-drin, neu ddiogelwch rhywun, ffoniwch Byw Heb Ofn am arweiniad ynghylch beth i'w wneud nesaf.

Am gymorth neu gyngor

Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, boed yn ddiweddar, yn barhaol neu os nad ydych chi'n siŵr sut i wneud synnwyr ohono, mae cymorth cyfrinachol ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.

Cefnogaeth i bobl broffesiynol

Pecyn Cymorth

Os yw eich gwaith yn golygu eich bod yn dod i gysylltiad â phobl hŷn, efallai mai chi fydd y person cyntaf i sylwi ar arwyddion o gam-drin rhywiol neu ddomestig.

Mae ein pecyn cymorth dwyieithog byr yn cynnig arweiniad ar:

  • adnabod arwyddion o drais a cham-drin rhywiol mewn pobl hŷn
  • ddechrau sgyrsiau diogel a sensitif
  • ymateb os yw rhywun yn awgrymu bod yna niwed rhywiol
  • gyfeirio rhywun i gael cymorth

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi ei greu er mwyn helpu i adnabod arwyddion posibl o gam-drin a darparu cefnogaeth ddiogel ac ystyriol. Mae hyn yn cynnwys un dudalen y gellir ei hargraffu, i'w defnyddio yn breifat fel canllaw cyflym.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth

Mae deunyddiau ymgyrch, gan gynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol, ar gael i chi eu lawrlwytho a'u defnyddio ar eich sianeli. Mae'r adnoddau hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y ffaith y gall cam-drin ddigwydd pa bynnag oedran, ac yn cyfeirio pobl hŷn tuag at gymorth cyfrinachol.

Deunydd ymgyrch

Lawrlwythwch ddeunyddiau'r ymgyrch

Gallwch chwarae rhan hanfodol wrth helpu rhywun i deimlo'n ddiogel eto.