Mae gan Gwmni Egino rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu potensial safle Trawsfynydd, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn dilyn ymweliad â’r ardal.
![Lesley Griffiths](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2022-08/Cwmni%20Egino.jpg?itok=dD9VvWqj)
Cafodd Cwmni Egino ei sefydlu yn 2021 gan Lywodraeth Cymru, a nod ei waith yw datblygu prosiectau newydd posibl i gynhyrchu trydan, a rhagor opsiynau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae’r safle yn eu darparu.
Yn rhan o’r gwaith hwn, cyhoeddodd Cwmni Egino yn ddiweddar y byddai’n dechrau ar raglen i ddod â thechnoleg niwclear ar raddfa fach i safle Trawsfynydd, gyda’r nod o ddechrau gwaith ar y safle yn 2027.
Mae hefyd gan y safle’r potensial i gynnwys adweithydd ymchwil radioisotop meddygol i gynhyrchu radioniwclidau ar gyfer diagnosteg a thrin canser.
Mae’r cwmni yn gweithio gyda pherchennog y tir, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, i ddatblygu’r cynigion i ddefnyddio Trawsfynydd yn lleoliad ar gyfer y datblygiadau niwclear newydd.
Ymwelodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, â’r safle yn ddiweddar, a chlywodd hi ragor am y datblygiadau ar gyfer y dyfodol, a fyddai o fudd i’r gymuned leol a’r ardal ehangach.
Dywedodd y Gweinidog:
Mae gan ogledd Cymru y potensial i fod yn arweinydd gwirioneddol ym maes cynhyrchu ynni carbon isel, ac mae cynlluniau Cwmni Egino yn rhan hanfodol o hyn, gan ddod â swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i’r ardal.
Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â’r tîm ar y safle, a chlywed am y cynnydd sy’n cael ei wneud ar gynigion a fyddai’n golygu mai Trawsfynydd fyddai’r safle cyntaf ar gyfer adeiladu adweithydd modiwlar bach yn y DU.
Mae llawer o waith o’n blaenau, ond mae’r rhain yn gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol a all roi hwb i ddatblygu sgiliau a sicrhau manteision gwirioneddol ar gyfer yr ardal.
Dywedodd Prif Weithredwr Cwmni Egino, Alan Raymant:
Roedd yn bleser gwrdd â’r Gweinidog yn Nhrawsfynydd yr wythnos diwethaf, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gymorth parhaus Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â helpu i fodloni’r galw am ynni a thargedau sero net, mae gennyn ni gyfle cyffrous i sicrhau manteision parhaol i gymunedau lleol, yn ogystal â hyrwyddo’r gadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau a thwf economaidd-gymdeithasol yn ardal ehangach gogledd Cymru a’r tu hwnt.
Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio yn gryf ar sicrhau’r manteision hyn wrth inni ddatblygu ein hachos busnes ar gyfer datblygu a buddsoddi yn y rhaglen.