Neidio i'r prif gynnwy

Gall cartrefi ledled Cymru gasglu coeden, am ddim, o yfory ymlaen fel rhan o rodd uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru i daclo’r argyfwng hinsawdd a natur - menter o’r enw Fy Nghoeden, Ein Coedwig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dros 50 o ganolfannau casglu, wedi’u hwyluso gan ymddiriedolaeth Coed Cadw, ar fin agor eu drysau i’r cyhoedd. Y tu ôl iddyn nhw mae byddin o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n barod i rannu cyngor tyfu arbenigol er mwyn dewis y goeden gywir ar gyfer y lle cywir.

Mae 295,000 o goed ar gael i’w bachu, a bydd eu plannu yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru. Mae deg rhywogaeth wahanol o goed brodorol a llydanddail ar gael i ddewis o’u plith. Y rhywogaethau fydd:

  • Coed Cyll,
  • Coed Criafol,
  • Drain Gwynion,
  • Bedw Arian,
  • Coed Afalau Surion,
  • Coed Derw Digoes,
  • Cwyros,
  • Coed Rhosod Gwyllt,
  • Coed Masarn Bach,
  • Choed Ysgawen.

Yn ogystal â sugno carbon o’r aer, gwella ein hiechyd meddwl a glanhau’r aer rydyn ni’n ei anadlu, mae coed llydanddail yn hafan i adar a bywyd gwyllt.

Gan siarad mewn ymweliad â Pharc Bedford ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle roedd y coed cyntaf yn cael eu casglu, meddai’r Dirprwy Gweinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: 

“Mae coed yn achubiaeth i ni a’r holl fywyd rhyfeddol maen nhw’n ei gefnogi. Ble fyddai ein hadar, ein trychfilod a’n hanifeiliaid hebddyn nhw? Ble fydden ni hebddyn nhw?

“Rydw i eisiau i bawb yng Nghymru edrych ar ein gwefan i weld ble mae’r ganolfan rhoi coed agosaf a chasglu eich coeden lydanddail am ddim o yfory ymlaen. Ar y safle, bydd gan ein gwirfoddolwyr hyfryd gyngor arbenigol i’ch helpu i ddewis y goeden gywir ar gyfer eich lle a’ch sefyllfa.

“Wrth i COP27 ddod i ben yn yr Aifft, mae ymdrech barhaus Tîm Cymru i wynebu’r argyfwng hinsawdd a natur yn hollbwysig.

“Drwy dyfu coeden hyfryd yn eich gardd gefn, gallwch ddechrau ar eich cyfraniad a helpu i dyfu Cymru iach a hapus er mwyn i ni a chenedlaethau’r dyfodol elwa arni.”

Er mwyn dod yn wlad Sero Net erbyn 2050, mae arbenigwyr wedi cynghori bod yn rhaid i Gymru blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn Coed Cadw sy’n rhan o’r gwaith am uno gyda ni i ddarparu’r prosiect yma, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ei effaith ar ein hamgylchedd.”

Meddai Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw:

“Mae coed bob amser wedi cynnig datrysiadau syml a chost-effeithiol i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu, a thrwy fenter Fy Nghoeden, Ein Coedwig, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli pobl o bob cefndir a rhanbarth i gymryd rhan, ac o ganlyniad, teimlo wedi’u cysylltu â’r manteision niferus y gall coed eu cynnig.”

Anogir aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i gasglu coeden, am ddim, o ganolfan ranbarthol agos iddyn nhw. Wrth gasglu coeden, byddan nhw’n cael cyngor gan wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi ar sut i blannu a gofalu am eu coeden newydd.

I’r rhai sy’n methu â mynd i ganolfan i gasglu coeden, o 21 Tachwedd ymlaen bydd modd archebu un ar-lein a bydd yn cael ei chludo at y drws. Fel arall, gellir plannu coeden ar eu rhan, gan helpu i dyfu Coedwig Genedlaethol Cymru, gartref wrth gartref.

Gweler ble mae eich canolfan goed leol