Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi cadarnhau cynnydd o £10,000 yn y terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n codi am ofal preswyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2001
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 1999 i 2003

Mae hyn yn mynd â'r terfyn presennol o £40,000 i £50,000. 

Y lwfans hwn yng Nghymru yw'r mwyaf hael ledled y DU ac mae'n ddwbl lwfans uchaf Lloegr a Gogledd Iwerddon o £23,250. Yn yr Alban, y terfyn uchaf yw £28,000.

I nodi dechrau'r terfyn newydd, ymwelodd y Dirprwy Weinidog â chynllun byw'n annibynnol y mae'r Grŵp Pobl wedi'i sefydlu yng Nghasnewydd.

Caiff ymrwymiad Symud Cymru Ymlaen ei gyflawni ddwy flynedd yn gynt nag a gynlluniwyd, sy'n galluogi pawb sy'n byw mewn cartref gofal yng Nghymru i gadw hyd at £50,000 o'i gynilion, ei fuddsoddiadau neu gyfalaf arall.  Mae'r terfyn cyfalaf yn penderfynu a yw person yn talu am gost lawn ei ofal preswyl, neu a yw'n cael cymorth ariannol tuag at y gost oddi wrth ei awdurdod lleol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi'i hymrwymo i gefnogi pobl hŷn, a'r rheini y mae angen gofal arnyn nhw, i fyw fel y mynnant. Dwi wrth fy modd ein bod ni'n cyflawni ein haddewid, ddwy flynedd yn gynt na'r cynllun gwreiddiol, i ganiatáu i bobl gadw hyd at £50,000 o'u cynilion eu hunain i'w defnyddio fel y dymunant, heb orfod eu defnyddio i dalu am eu gofal.