Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

“Gall ymyrraeth gynnar atal pobl ifanc rhag cyrraedd pwynt argyfwng o ran eu hiechyd meddwl”, meddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, ymwelodd Sarah Murphy â The Hangout yn y Barri i ddysgu am y cymorth a ddarperir yn y ganolfan iechyd meddwl ieuenctid.

Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae The Hangout wedi bod yn cynnal cynllun peilot Dewis Arall yn lle Derbyn, gan roi cymorth i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o wynebu argyfwng iechyd meddwl.

Nod y cynllun peilot yw atal pobl ifanc rhag gorfod mynd i'r adran achosion brys neu gael eu derbyn i'r ysbyty drwy gynnig cymorth iechyd meddwl a llesiant heb fod angen atgyfeiriad.

Mae'r cyfleuster yn cynnig lle i bobl ifanc gael cymorth, cwrdd â phobl eraill neu gael seibiant o sefyllfaoedd anodd yn eu bywydau.

Yn ystod ei hymweliad, aeth y Gweinidog ar daith o amgylch y cyfleusterau a chlywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc am eu profiadau o gael cymorth iechyd meddwl a'r gwahaniaeth y mae The Hangout wedi'i wneud i'w bywydau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

Roedd ymweld â The Hangout a chwrdd â'r bobl ifanc a'r staff sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i gymorth iechyd meddwl yn y Barri yn brofiad ysbrydoledig.

Mae'r gwasanaeth hwn yn enghraifft o'r weledigaeth a nodir yn ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd o hyd, sef sicrhau mynediad agored at gymorth ar yr un diwrnod heb rwystrau nac amseroedd amser hir.

Dywedodd pobl ifanc wrtha i pa mor bwysig yw cael lle diogel a chroesawgar i gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw, heb orfod wynebu prosesau atgyfeirio.

Gall ymyrraeth gynnar atal pobl ifanc rhag cyrraedd pwynt argyfwng o ran eu hiechyd meddwl. Y math hwn o gymorth mynediad agored yw'r union beth rydyn ni am ei weld ledled Cymru

Dywedodd person ifanc sydd wedi cael cymorth gan The Hangout:

Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffaith fy mod i'n gallu cael cymorth yma yn The Hangout pryd bynnag y mae ei angen arna i, heb derfyn ar nifer y sesiynau. Mae'r awyrgylch yn braf ac rwy'n teimlo'n gyfforddus iawn.

Rhyw ddydd, hoffwn i weithio mewn lle fel The Hangout fel ymarferydd ac ym maes iechyd meddwl, oherwydd mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn wych ac yn helpu pobl eraill fel fi. Gobeithio y galla i wneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol. Rwy'n teimlo'n ddiogel iawn yma, mae pobl yn gwrando arna i a does neb yn fy marnu i.

Dywedodd Sarah Hamilton, Pennaeth Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc yn Platfform:

Rydyn ni wrth ein bodd yn cael croesawu'r Gweinidog i The Hangout yn y Barri. Mae'r ganolfan hon yn rhoi cymorth hanfodol i bobl ifanc ar adegau pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf, ac rydyn ni'n falch o'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael yn y gymuned leol.

Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn rhoi gwasanaethau mynediad agored wrth wraidd gofal iechyd meddwl trawsnewidiol yng Nghymru. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a sicrhau mynediad at gymorth priodol heb oedi.

Mae The Hangout, a ddarperir mewn partneriaeth â Platfform, yn cynnig gwasanaeth galw heibio i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed. Mae'n cynnwys cymorth galw heibio, sesiynau llesiant, gweithgareddau grŵp a chyfleoedd gwirfoddoli, heb fod angen atgyfeiriad.