Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi rhybuddio bod gan Fil Ymadael y DU y potensial i fynd â diwydiant bwyd a ffermioyn ôl degawdau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn siarad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod datganoli wedi galluogi Llywodraeth Cymru i greu polisïau ar gyfer anghenion penodol ffermwyr Cymru, gyda’u mewnbwn.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae datganoli wedi ein galluogi i ni deilwra ein polisïau i ffermwyr Cymru gyda dealltwriaeth o’u hanghenion unigryw. Rwy’n bryderus y bydd y Bil Ymadael, ynghyd â’u diffyg ymgysylltu â ni i ddeall anghenion ffermwyr Cymru, yn golygu y bydd y ddealltwriaeth hon yn diflannu ac y bydd y diwydiant yng Nghymru yn camu yn ôl degawdau.

“Cafodd y safbwynt hwn ei adlewyrchu’n glir yn yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan Bwyllgor UE Tŷ’r Cyffredin, a oedd yn rhoi cefnogaeth lawn i’n safbwynt ar lywodraethiant y DU yn y dyfodol.

“Mae cyfran uwch o ffermwyr defaid yng Nghymru na Lloegr, ac mae 90% o gig coch Cymru yn cael ei allforio i’r UE. Rydw i am sicrhau nad yw’r gefnogaeth y maen nhw’n ei chael ar hyn o bryd yn cael ei pheryglu gan Brexit.”

Fel mae pethau’n sefyll, mae’r Bil yn golygu y bydd Cymru yn cael llai o bwerau a hyblygrwydd nag oedd ganddi yn yr UE. Byddai’n cael gwared ar allu Llywodraeth Cymru i ddehongli cyfraith yr UE a’i theilwra ar gyfer anghenion Cymru. Bydd yn rhoi mwy o bŵer i’r DU dros faterion fel taliadau fferm ac iechyd anifeiliaid, sydd wedi’u datganoli i Gymru ers bron i ddau ddegawd.

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet sicrwydd i ffermwyr y bydd yn parhau i ymladd dros eu buddiannau. Heddiw, bydd yn cyfarfod Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a bydd yn crybwyll ei phryderon.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Ers dechrau’r broses hon, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn mynd ati yng Nghymru i ymdrin â’r mater hwn mewn ffordd a fydd o fudd i bawb – rhywbeth nad yw’n digwydd yn Lloegr. Mae’n papur polisi, Brexit a Datganoli, yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid inni droi’n golygon at y dyfodol wrth ymadael â’r UE, yn hytrach nag edrych yn ôl ar y gorffennol. Rydyn ni’n awyddus i gydweithio â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddatblygu dyfodol cadarn lle bydd pob gwlad ar ei hennill.  

“Heddiw, rwy’n cyfarfod Michael Grove a byddaf yn crybwyll fy mhryderon wrtho. Byddaf yn pwysleisio bod y Bil hwn wedi diystyru datganoli’n llwyr fel y gwnaeth ei benderfyniad i ganslo dau gyfarfod nesaf gweinidogion amaethyddiaeth ac amgylchedd y DU. Mae’r cyfarfodydd hyn yn hollbwysig wrth i’r trafodaethau symud ymlaen ac mae eu canslo yn dangos diffyg ymrwymiad llwyr i gydweithio.”

Fel rhan o raglen weithredu barhaus i gefnogi anghenion penodol diwydiant bwyd a ffermio Cymru, yr wythnos hon bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi y bydd Cymru yn ymuno â Rhaglen Allforio Bwyd Ardal yr Iwerydd, sy’n golygu y bydd busnesau bach a chanolig yn elwa ar €1.8 miliwn i’w gwneud yn fwy cystadleuol mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Byddwn yn parhau i gefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru - mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf, dangosodd ffigurau newydd fod y diwydiant wedi tyfu bron i 20% dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym ni am ei weld yn parhau i dyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn gyda’n cefnogaeth.”