Neidio i'r prif gynnwy

Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ddifetha ffermio a'r diwydiannau pysgota yng Nghymru - Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth lefaru cyn y bleidlais bwysig a chyn ei chyfarfod gyda Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig, dywedodd y Gweinidog y dylid osgoi 'dim cytundeb' ar bob cyfrif i warchod ein cymunedau gwledig ac arfordirol gwerthfawr.

Bydd cig coch a physgod cregyn o Gymru yn arbennig o fregus mewn sefyllfa 'dim cytundeb', gyda 90% o'n hallforion cig coch a hefyd 90% o’n hallforion physgod cregyn yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Byddai'r rhagolygon o dariffau uchel mewn achos o Brexit heb fargen ond yn ychwanegu at gostau allforio.

Byddai gadael yr UE heb gytundeb hefyd yn golygu y byddai angen i'r holl anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid gael tystysgrif iechyd allforio ac y byddai'n rhaid cyrraedd yr UE drwy Fan Archwilio ar y Ffin (sydd ddim ar gael yn Calais) - gan ychwanegu at gostau cynhyrchu a biwrocratiaeth.

Caiff pysgod cregyn o Gymru eu cludo yn fyw gyda 24 awr rhwng cael eu dal yn y y rhwydi yng Nghymru a chyrraedd marchnadoedd yr UE. Byddai unrhyw oedi yn y gadwyn gyflenwi hon yn arwain at fwyd môr o ansawdd gwaeth a chynnydd yn y nifer sy'n marw, fyddai yn arwain at ostyngiad mewn prisiau. Gallai broblemau parhaus hyd yn oed achosi'r diwydiant i ddymchwel.

Meddai'r Gweinidog:  

"Rydym wedi ei gwneud yn glir o'r dechrau nad yw Brexit heb fargen yn opsiwn i ddiwydiannau ffermio a physgota Cymru. Gallai ymadael fel hyn allan o'r Undeb Ewropeaidd ddymchwel ein heconomïau gwledig ac arfordirol ac mae'n rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif.

"Byddai sefyllfa dim bargen yn wael i ffermwyr Cymru gan bod 90% o'n hallforion cig coch yn mynd i'r UE. Byddai tariffau uchel, rhagor o fiwrocratiaeth ac oedi ar y ffin ond yn ychwanegu at gostau allforio.

"Ond mae dim bargen yn ogystal â chael gwared ar dariffau mewnforio y DU y sefyllfa waethaf un i amaethyddiaeth yng Nghymru a Phrydain, gan ganiatáu mewnforio bwydydd rhad yn ystod cyfnod pan y gallai ein hallforion olygu tariffau o hyd at 50% ar gyfer rhai sectorau.

"Dyma fydd yr achos hefyd yn ein diwydiant pysgod cregyn, sydd yr un mor ddibynnol ar allforio i'r UE.  Gallai unrhyw oedi mewn porthladdoedd sy'n atal cynnyrch byw rhag cael eu cyflenwi o fewn 24 awr ddymchwel y diwydiant."

Ychwanegodd Lesley Griffiths: 

"Mae ein cwmnïau bwyd eisoes yn cael anhawster i recriwtio o'r UE oherwydd y gostyngiad cychwynnol yng ngwerth y bunt.  Byddai gostyngiad pellach yn gwaethygu'r anawsterau hyn.

"Nid wyf am ymddiheuro am amlinellu'r canlyniadau tebygol iawn i sefyllfa o ddim bargen.  Ni allwn ddiystyru nac anwybyddu yr effaith gwirioneddol erchyll a gaiff gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar ein diwydiannau. 

"Fel Llywodraeth, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r diwydiant i baratoi ar gyfer Brexit a'r heriau a ddaw. Trwy ein Cronf Bontio Ewropeaidd, rydym wedi darparu £6 miliwn eisoes i helpu ein diwydiannau ffermio, pysgota a bwyd i sicrhau eu bod yn gystadleuol o fewn diwydiannau sy'n newid i'w galluogi i oroesi mewn byd wedi Brexit."