Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynigion wedi’u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fyddai'n galluogi pobl i gadw mwy o'u harian pan fyddant mewn gofal preswyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymrwymodd cynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru, sef 'Symud Cymru Ymlaen', i fwy na dyblu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir wrth godi tâl am ofal cymdeithasol preswyl, o £24,000 i £50,000. Os caiff y rheoliadau a gyflwynwyd eu pasio gan y Cynulliad, bydd y terfyn yn symud i £30,000 o 10 Ebrill eleni - gan gynyddu mewn camau hyd at £50,000 ar ôl hynny.

Heddiw mae’r Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, yn annog unigolion a allai elwa ar y newid, neu eu teuluoedd, i gysylltu â'u hawdurdod lleol. 

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae’n ofynnol i bobl y mae arnynt angen gofal preswyl ac sydd â chyfalaf dros swm penodol ddefnyddio hwn i dalu am gost lawn eu harhosiad. 

"Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn, a'r rhai y mae arnynt angen gofal, a dyna pam mae ein cynllun pum mlynedd 'Symud Cymru Ymlaen', wedi addo cynyddu'r terfyn cyfalaf hwn yn sylweddol. Mae hyn yn rhyddhau mwy o arian i bobl ei ddefnyddio yn ôl eu dymuniad.

"O 10 Ebrill ni fydd pobl y mae arnynt angen gofal preswyl ac sydd â chyfalaf hyd at y swm newydd o £30,000, yn gorfod defnyddio’r swm hwn i dalu am eu gofal. Yn hytrach, eu hawdurdod lleol fydd yn gyfrifol am ariannu eu gofal, gan godi cyfraniad yn unig sy'n seiliedig ar yr incwm sydd ar gael i’r person.

"Gan y bydd gan bobl sy'n talu am gost lawn eu gofal preswyl drefniadau preifat fel rheol gyda’u cartref gofal, yn aml iawn ni fydd yr awdurdodau lleol yn ymwybodol faint o gyfalaf sydd gan unigolion. Hoffwn, felly, annog unrhyw un sy'n credu y gallai aelod o'r teulu, neu nhw eu hun, elwa ar y newid, gysylltu â'u hawdurdod lleol.

"Nid oes rhaid i bobl aros tan 10 Ebrill i wneud hyn. Gall unigolion gysylltu â'u hawdurdod lleol yn awr, i wirio a allent elwa a pharatoi popeth yn barod ar gyfer y newid ym mis Ebrill."