Neidio i'r prif gynnwy

“Gallai sgrinio’r retina’n rheolaidd achub eich golwg” – y Gweinidog yn lansio ymgyrch gofal llygaid i bobl sy’n byw gyda diabetes

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cysylltir â phob un o’r 165,000 o’r bobl gymwys dros 12 oed yng Nghymru, pob un ohonyn nhw â diabetes, i’w hannog i fanteisio ar eu gwahoddiad blynyddol i’w  hapwyntiad am ddim ar gyfer sgrinio’r retina.

Mae’n bwysig iawn sgrinio’r retina’n rheolaidd, gan fod y newidiadau yn y llygaid sy’n cael eu hachosi gan ddiabetes – sef retinopathi diabetig – yn gallu difetha golwg y sawl sydd â’r cyflwr, ac mae’n aml heb unrhyw symptomau. Serch hynny, mae’r broses sgrinio’n gallu nodi’r newidiadau hyn mor gynnar fel y gallai’r driniaeth fod yn llwyddiannus gan achub eich golwg.

Wrth siarad cyn lansio’r ymgyrch ym Mhrif Ganolfan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn Nhrefforest, dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Gallai’r profiad o golli’ch golwg beri loes a phroblemau anferth yn eich bywyd, a dyna pam bod ni’n bwriadu gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael yr holl wybodaeth a chymorth y mae eu hangen i ofalu am eu llygaid.

“Mae 'na berygl real iawn y gallai’r rheini sy’n byw gyda diabetes golli eu golwg - ond y peth pwysig ydy ei bod yn bosibl osgoi hynny. Os oes gennych chi ddiabetes, a’ch bod dros 12 oed, dylech sicrhau bod retina’ch llygaid yn cael eu sgrinio’n rheolaidd drwy gadw eich apwyntiad gyda gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Mae’r broses sgrinio’n chwilio am y newidiadau hynny yn y llygaid sy’n gallu peri i rywun fynd yn ddall, ac yn bendant mae’r gwasanaeth yn gallu lleihau’r risg y gallech golli’ch golwg.”


Dywedodd Andrew Crowder, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Hyrwyddwr Clinigol Diabetes UK:

“Drwy sicrhau eich bod yn cadw’ch apwyntiadau rheolaidd ar gyfer sgrinio’r retina, gyda gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, gallwn helpu i ddiogelu eich golwg. Mae ein gwasanaeth yn gallu canfod newidiadau i’r retina yn gynnar iawn – cyn ichi sylweddoli bod yna broblemau ac ar adeg pan fydd y driniaeth yn dal i fod yn effeithiol iawn.

“Rydyn ni’n cynnal ein gwasanaeth sgrinio ar hyd a lled Cymru, felly bydd yna glinig rhywle’n agos i’ch cartref chi. Os ydyn ni’n cynnig gwahoddiad sydd ddim yn gyfleus ichi, cysylltwch â ni er mwyn inni allu trefnu apwyntiad arall. Y peth pwysicaf ydy eich bod yn dod draw aton ni, ac wedyn byddwch yn gadael gan wybod eich bod wedi cymryd cam pwysig a phendant tuag at ddiogelu eich golwg.”

Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru:

“Mae llai na hanner y bobl sy’n dioddef o ddiabetes yn sylweddoli y gallai’r cyflwr achosi dallineb, ac mae hynny’n destun pryder mawr inni. Mae retinopathi diabetig yn gyflwr difrifol iawn sy’n gallu effeithio ar unrhyw un sy’n byw gyda diabetes. Mae mwy o berygl hefyd y gallai pobl sydd â diabetes ddatblygu problemau eraill gyda’u llygaid, fel glawcoma a chataractau. Yn aml, pan fydd problem yn dechrau, does dim symptomau, sy’n golygu bod perygl y gallai pobl ei gadael hi’n rhy hwyr i gael triniaeth, a bod niwed parhaol eisoes wedi digwydd.

“Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch hon i helpu pobl i reoli eu clefyd, ac i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru bob amser yn cadw eu hapwyntiadau sgrinio llygaid, ac yn cael eu profion llygaid arferol. Gall yr arbenigwyr nodi unrhyw broblemau gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gynnar. Drwy sicrhau eich bod yn cael y driniaeth y mae ei hangen arnoch, gallech wneud y gwahaniaeth rhwng colli eich golwg neu ei achub.”